Newyddion
Cyhoeddi Tylwyth - drama newydd gan Daf James
Ym mis Mawrth mi fydd y ddrama Tylwyth yn cael ei pherfformio ar hyd a lled Cymru – drama arloesol Daf James sy’n olynydd i’r enwog Llwyth a berfformiwyd ddegawd yn ôl. Mae Tylwyth yn cyd-gynhyrchiad rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman. darllen mwy
Straeon tywyll am bobl y cyrion gan awdures boblogaidd
Mae’r awdures boblogaidd o ardal Llanbedr Pont Steffan yn cyhoeddi ei chasgliad cyntaf o straeon byrion yr wythnos hon. Mae O’r Cysgodion yn gasgliad o 14 stori gignoeth, llawn emosiwn, a phob un gyda thro annisgwyl yn y gynffon. darllen mwy
Cyhoeddi cyfrol o lythyrau am brofiadau byw gydag iselder
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r Asiantaeth Darllen (The Reading Agency) a llyfrgelloedd i sicrhau bod y cynllun Darllen yn Well ar gael ar draws Cymru. Fe lansiwyd Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer dementia yn 2018, a llynedd fe lansiwyd Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl. Nod Darllen yn Well ydi i roi cymorth i bawb deall a rheoli eu hiechyd a byw yn dda a rhoi cyngor i deulu a gofalwyr. Mae’r llyfrau i gyd wedi’u cymeradwyo gan weithwyr y maes iechyd. Mae’r Asiantaeth Darllen yn gweithio ar y cyd gyda Chyngor Llyfrau Cymru i sicrhau bod y llyfrau ar y rhestr ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg am y tro cyntaf. darllen mwy
Gwladgarwr Gwent: Cofio Steffan Lewis
Mis Ionawr 2019, bu farw y gwleidydd addawol ifanc o Went, Steffan Lewis. Bron i flwyddyn yn ddiweddarach cyhoeddir y gyfrol Gwladgarwr Gwent / Son of Gwent: Cofio Steffan Lewis, yn Gymraeg a Saesneg, i gofio’r gwleidydd a’r dyn teuluol, gyda chyfraniadau gan deulu a ffrindiau Steffan Lewis, ynghyd â’r gwleidyddion Elin Jones AC, Leanne Wood AC, Carwyn Jones AC ac Adam Price AC ymhlith eraill. darllen mwy
Straeon doniol a deifiol teulu'r Cilie
Mae teulu’r Cilie yn adnabyddus yng Nghymru am eu ffraethineb a’u dawn dweud diarhebol. Mae sawl un wedi ennill gwobrau llenyddol o fri mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Mae Jon Meirion Jones, gor-ŵyr i Jeremiah a Mary Jones, oedd yn byw ar fferm Y Cilie ger Llangranog, wedi casglu straeon doniol a deifiol am aelodau teulu enwog. Mae Hiwmor y Cilie yn cynnwys straeon digri a jôcs, yn ogystal ag englynion dychan, penillion smala a chwedlau doniol. Ceir hanesion yn llawn troeon trwstan a dweud crafog am deulu oedd yn enwog am dynnu coes. darllen mwy
O alwadau Meibion Glyndwr i alcoholiaeth: perygl a sbri 'oes aur' newyddiaduriaeth
Mae’r newyddiadurwr Alun Lenny yn hel atgofion am rai o straeon mawr ‘oes aur’ newyddiaduriaeth, sef yr oes ar drothwy symud o ffilm i’r oes ddigidol, yn ei hunangofiant newydd Byw Ffwl Pelt. Mae’r gyfrol ddifyr yn sôn am y rhuthr dyddiol byd casglu newyddion: y peryglon a’r sbri, y dwys a’r digri, a’r effaith niweidiol gafodd blynyddoedd o brysurdeb wrth gyflawni ‘y wyrth fach ddyddiol’ o fachu stori i’w darlledu i’r genedl ar y gohebydd talentog hwn. darllen mwy
Degfed nofel Gymraeg Llwyd Owen - arloesi gyda'r Ods
Mae’r awdur poblogaidd Llwyd Owen ar fin cyhoeddi ei ddegfed nofel Gymraeg, a hynny mewn prosiect arloesol gyda band Yr Ods, gyda chopïau yn cael eu rhoi mewn bocs-set unigryw a hardd y band yn ogystal â’i werthu yn unigol. darllen mwy
Llyfr newydd am adar wedi ei ysgrifennu gan ferch 10 oed
Ym mlwyddyn 6 Ysgol Treganna mae Onwy Gower yn ddisgybl, ond eleni mi fydd hi’n cyhoeddi ei llyfr cyntaf – efallai’r person ifancaf erioed i ysgrifennu llyfr Cymraeg. Roedd Onwy yn gweld bwlch o ran llyfrau natur i blant, ac felly mi aeth ati i ysgrifennu llyfr ei hun sy’n cynnwys ffeithiau a darluniau o adar. darllen mwy
Penllaw degawdau o waith ymchwil
Penllanw degawdau o waith ymchwil i hanes unigryw Cymry Lerpwl a glannau Merswy yw Hanes Rhyfeddol Cymry Lerpwl gan D. Ben Rees. Dyma gyfrol swmpus, yn cynnwys lluniau, sy’n gofnod pwysig gan un o awduron amlycaf y ddinas ac sy’n adnabyddus drwy Gymru gyfan. darllen mwy
Caredigrwydd tuag at bawb - neges llyfr newydd Manon Steffan Ros
Mae llyfr newydd Cymraeg ar gyfer plant yn cario neges gref am ddangos caredigrwydd ac i beidio beirniadu pobl sydd yn wahanol. Mae Pobol Drws Nesaf gan yr awdures boblogaidd Manon Steffan Ros yn gyfuniad o stori annwyl yr awdures a lluniau lliwgar yr arlunydd a’r dylunydd Jac Jones, sydd wedi dod â’r testun yn fyw i’r darllenwyr ifanc. darllen mwy
Cofnodi taith liwgar a chythryblus Dafydd Roberts mewn llyfr
Mae’r cerddor a dyn busnes Dafydd Roberts wedi bod i bedwar ban byd, gan ymweld â gwledydd o bob math a chael profiadau rhyfeddol a sawl tro trwstan, fel y tystia ei hunangofiant Ar Daith a gyhoeddir gan wasg Y Lolfa yr wythnos hon. Mae’r gyfrol hefyd yn sôn am ei yrfa gyda chwmni recordiau Sain, sy’n dathlu 50 mlynedd ers ei sefydlu eleni, ac yn ei lyfr mae Dafydd Roberts yn mynegi’n onest iawn ei bryder am ddyfodol y diwydiant cyhoeddi cerddoriaeth yng Nghymru. darllen mwy
Mewnolwg i fywyd Huw Chiswell
Mewn cyfrol hunangofiannol, ddadlennol, onest a chignoeth o’r enw Shwd ma’i yr hen ffrind? mae’r canwr Huw Chiswell yn rhannu stori ei fywyd. darllen mwy
Bryn Celli Ddu ar Ynys Môn yn ysbrydoli llyfr newydd Bethan Gwanas
Mewn llyfr newydd am y ferch fach annwyl a busneslyd Cadi, mae’r awdures Bethan Gwanas wedi teithio nôl mewn amser i fyd y Celtiaid, gan ddefnyddio safle Bryn Celli Ddu ar Ynys Môn fel ysbrydoliaeth. darllen mwy
Llyfr cyntaf artist yn sôn am ymfudo, hiraeth a chwiltiau
Mae’r arlunydd a dylunydd adnabyddus Valériane Leblond wedi ysgrifennu’i llyfr cyntaf i blant, ynghyd â darlunio’r lluniau. Mae Y Cwilt yn barhad o’r themâu mae’n archwilio yn ei gwaith celf, sef y syniad o berthyn, a’r darlun o gwiltiau. darllen mwy
Gwnewch yn fawr o bob cyfle: Neges nofel newydd hwyliog a ffraeth Marlyn Samuel
Dros y blynyddoedd diwethaf mae Marlyn Samuel wedi sefydlu’i hun yn frenhines y nofel gyfoes boblogaidd Gymraeg, ac mae ei nofel newydd yn parhau ei theyrnasiad. Mae Cicio’r Bwced yn nofel deimladwy a ffraeth, gyda neges bwysig wrth wraidd y stori. darllen mwy
Llyfr coginio figan cyntaf yn y Gymraeg!
Mae Ceri Lloyd yn wyneb adnabyddus – yn ogystal â’i rôl ar y gyfres Rownd a Rownd mae’r actores hefyd yn rhedeg blog a chyfrif Instagram poblogaidd, sef www.saib.yoga. Mae Ceri’n angerddol am ysbrydoli pobl i fyw bywyd mwy iach a chynaliadwy, a dyma mantra ei llyfr coginio figan, y cyntaf erioed yn y Gymraeg. Mae O’r Pridd i’r Plât yn addas i bawb sydd eisiau cael eu hysbrydoli i fwyta mwy o lysiau a byw’n iach. darllen mwy
Effaith Brecsit yn cael ei drafod am y tro cyntaf mewn ffuglen Gymraeg
Mae Y Bwrdd yn nofel fodern sy’n ddarlun dychanol, crafog a brawychus o’n bywyd heddiw. Ymdrinnir â pheryglon Brecsit a rhoir llais i sawl math o bolemeg gymdeithasol gyfredol. darllen mwy
'Mae'r ysgrifen ar y mur!": Cyfrol yn tystio i Gymru'n deffro!
Ymateb y Cymry i’r difrod i’r murlun eiconig ger Llanrhystud yn gynharach eleni fu’r symbyliad i’r awdur Mari Emlyn greu cyfrol ddwyieithog – Cofiwch Dryweryn: Cymru’n Deffro. darllen mwy
'Ffyrnig, ffraeth a chyhyrog': nofel gyntaf Iwcs
“Taith wyllt i berfeddion byd sy’n troi o dan ein trwynau. Ffyrnig, ffraeth a chyhyrog. Mae Iwcs yn ninja o nofelydd” – dyna ganmoliaeth uchel yr actor adnabyddus Rhys Ifans am Dal y Mellt, sef nofel gyntaf yr actor a’r canwr poblogaidd Iwcs (Iwan Roberts). darllen mwy
Nofel gyfoes Haf Llewelyn yn archwilio effaith damwain
Mae’r awdures boblogaidd Haf Llewelyn, sydd wedi ysgrifennu nifer o nofelau hanesyddol, wedi troi at sgwennu nofel gyfoes sy’n darlunio clymau o fewn cymdeithas yn dilyn damwain. Mae Pwyth, sydd wedi’i leoli mewn tref fach glan y môr yng ngogledd Cymru, hefyd yn edrych ar sut mae disgwyliadau pobl, a disgwyliadau ein hunain, yn effeithio ar yr unigolyn. darllen mwy
181-200 o 350 | 1 . . . 9 10 11 . . . 18 | |
Cyntaf < > Olaf |