Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Canmoliaeth

“Y cardiau wedi cyrraedd Aber yn barod. Waw, roedd hynny'n gyflym! Ddim yn disgwyl iddyn nhw gyrraedd am wythnos neu ddwy. Diolch yn fawr i bawb!” – KW

“Llawer o ddiolch am eich gwasanaeth prydlon iawn. Mae'r cardiau'n berffaith.” – JD

“Gweithiais â'r Lolfa am y tro cyntaf y llynedd ac redden nhw'n amyneddgar iawn, yn eithriadol o gymwynasgar, a'r cynnyrch printiedig yn ardderchog." – D

“Ansawdd gwych, gwasanaeth gwych a phrisiau gwych. Busnes lleol arbennig." – SJ

“Diolch am gynhyrchu pamffledi'r Talbot mor gyflym. Cyrhaeddon nhw ddoe ac mae pawb wrth eu boddau gyda nhw.” – MT

“Rydw i wedi defnyddio'r Lolfa am ddwy flynedd i gynhyrchu newyddlen chwarterol a gwaith cysylltiol. Mae'r gwasanaeth yn ardderchog: ansawdd da, cyflym, prydlon a dibynadwy. Ar ben hyn daw cwrteisi a sirioldeb – beth mwy gall rhywun gael? Dosbarth Cyntaf!” – JC

“Hyd yn oed pan nad oedd y gwaith yn syml, parhaodd Y Lolfa i ddweud 'Dim problem' ...a doedd 'na ddim!” – DM

“Mae'r Lolfa'n fusnes prydlon, cyfeillgar, cymwynasgar, yn barod i helpu ac yn effeithiol. Mae'n rhoi cymorth ardderchog, cyngor perthnasol ac mae'n gost-effeithiol bob tro. Mae'r Lolfa'n fusnes argraffu yr ydw i'n mynd i'w ddefnyddio dro ar ôl tro.” – MB

“Mae'r Lolfa wedi ein gwasanaethu'n dda ac yn gyson. Am ein bod yn gwmni teledu wedi'i leoli yng Ngogledd Cymru dydyn ni ddim yn lleol, ond nid yw'r pellter erioed wedi bod yn rhwystr. Mae'r deunydd printiedig yn cyrraedd ar amser bob tro. Mae'r ansawdd bob tro yn 100%. Mae hyn yn rhannol oherwydd y cyfathrebu rhagorol gan Paul Williams. Mae'r prisio'n gystadleuol iawn hefyd. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r Lolfa.” – SJ

“Mae'r staff yn gyfeillgar iawn ac mae'r gwasanaeth yn brydlon iawn bob tro ac o'r ansawdd gorau..” – NL

“Cwmni hyfryd, a phleser yw cydweithio. Amyneddgar, diffuant a phroffesiynol iawn. Mae'r prisio'n dda iawn. Fe fyddwn i'n argymell y cwmni a'i staff yn gryf am eu bod yn effeithiol ac yn argraffu gwaith o ansawdd uchel am bris cystadleuol.” – C

“Rydw i wedi defnyddio'r Lolfa ers cychwyn ar fy swydd newydd. Mae'r gwasanaeth a dderbyniais wedi bod yn benigamp. Mae fy nghwestiynau'n cael eu hateb yn gyflym, yn broffesiynol ac mewn modd cyfeillgar bob tro. Fe fyddwn i'n argymell Y Lolfa'n gryf i gydweithwyr o'r gorffennol a'r presennol a byddaf yn parhau i'w ddefnyddio yn y dyfodol.” – TM

“Fe fyddwn i'n argymell Y Lolfa am eu bod yn cynnig gwasanaeth da ac mae'n rhwydd cydweithio â nhw.” – JR

“Am wasanaeth cyflym a chyfeillgar a gwaith o'r ansawdd gorau, does dim angen i chi edrych ymhellach.” – PD

“Am nifer o flynyddoedd mae'r Lolfa wedi argraffu ein cyfnodolyn blynyddol, ac maent wedi bod yn arbennig. Mae'r staff yn gyfeillgar, yn gymwynasgar ac yn broffesiynol. Nid oes manylyn yn rhy fach ac mae unrhyw beth problematig yn cael ei oresgyn yn esmwyth. Fel golygydd newydd rydw i wedi bod yn ddiolchgar iawn am eu help, ac yn bwysicach oll, mae'r cynnyrch yn y diwedd wedi bod o ansawdd uchel ac wedi'i ddarparu o fewn dyddiad cau tynn." – KG

“\Gwaith o safon proffesiynol iawn, staff ardderchog, bob tro yn gymwynasgar a llon, ac yn hollol ddibynadwy i ddarparu'r gwaith ar amser.” – AT

“Gallwn ddibynnu bob tro ar Y Lolfa i ddarparu gwaith printiedig o'r ansawdd gorau ac i ddyddiad cau tynn. Mae hi wastad yn bleser cydweithio â nhw.” – GP

“Mae'r Lolfa wedi rhoi gwasanaeth cyflym, cyfeillgar a phroffesiynol iawn i ni. Roeddent yn hyblyg i'n gofynion ac mae eu prisiau'n eithriadol o gystadleuol. Mae'n amlwg fod ganddynt safonau uchel dros ben, ansawdd a sglein.” – RS

“Mae'r Lolfa'n cynnig pris da bob tro, mae eu gwasanaeth yn ddibynadwy ac o ansawdd uchel ac mae'n hawdd iawn cael gafael arnyn nhw ar y ffôn i drafod manylion.” – AR

“Fe fyddwn i'n argymell Y Lolfa am fod ganddyn nhw wasanaeth argraffu penigamp – agwedd ddam gwerth am arian ac ansawdd uchel.” – JW

“Mae'r Lolfa wedi ein helpu mewn sefyllfaoedd tynn yn y gorffennol i gwrdd â dedleins. Maent yn ymateb yn gyflym, er gwaethaf ceisiadau munud olaf, ac yn sicrhau bod y gwaith wedi'i wneud yn dda. Da iawn Y Lolfa!” – OP

“Rydw i wedi defnyddo'r Lolfa am dros 10 mlynedd, a dy'n nhw erioed wedi fy ngadael i lawr. Mae'r gwaith dylunio'n ardderchog ac mae ansawdd yr argraffu'n wirioneddol eithriadol.” – LM

“Gallaf lwyr argymell Y Lolfa am eu gwasanaeth cyflym ac effeithiol, wedi'i ddarparu â chwrteisi ac ystyriaeth.” – RH

“Cwmni argraffu sy'n adnabyddus yn genedlaethol ond sydd â sail lleol cadarn. Maen nhw'n gwasanaethu busnesau yn ardal Aberystwyth â'r un gofal manwl ag i unrhyw un o'u cwsmeriaid mwy. Mae'r Lolfa yr un mor gymwys yn y ddwy iaith, sydd yn eithriadol o bwysig i fusnesau dwyieithog. Gallwch fod yn sicr o wasanaeth personol sy'n deall eich anghenion, ac yr un mor bwysig â hynny, yn gallu gweithio yn ôl eich galw o fewn amserlen derbyniol. Mae'n gymaint o foddhad cael gwasanaeth o'r safon yma ar lechen eich drws." – EJ

“Mae ansawdd y cynnyrch yn arbennig ac mae eu gwasanaeth cwsmeriaid lawn cystal. Maen nhw wastad yn gwneud ymdrech ychwanegol i gwrdd â'n gofynion.” – CJ

“Hoffwn i argymell argraffwyr Y Lolfa. Fe wnaethon ni ymarfer prisio'n eang wrth ddewis argraffydd ar gyfer ein cyfnodolyn. Nhw oedd y rhataf ac fe ddarparon nhw wasanaeth ardderchog. Does dim sy'n ormod o drafferth ac maen nhw'n gwneud ein rhestrau postio ar ein cyfer, am eu bod mor effeithiol.” – CD

“Rydw i wedi defnyddio'r Lolfa nifer o weithiau ac fe wnaethon nhw gynnig gwasanaeth dibynadwy a phroffesiynol bob tro. Mae'r Lolfa'n cwrdd â'n dyddiadau cau bob tro, hyd yn oed ar fyr rybudd, ac mae'r prisiau'n ddeniadol iawn. Mae eu staff cymwynasgar a gwybodus yna i helpu bob tro os oes yna broblem. Byddaf yn eu defnyddio eto'n sicr.” – AB

“Mae'r Lolfa'n gwmni proffesiynol ac effeithiol. Mae'r staff wastad yn ddymunol a chymwynasgar iawn. Mae gorchmynion argraffu'n cael eu derbyn yn brydlon iawn. Mae'r Lolfa wedi argraffu nifer o gyhoeddiadau ar gyfer ein papur. Maent wastad wedi bod o safon uchel ac mae'n bleser gwneud busnes gyda nhw.” – MH

“Defnyddiais wasanaethau dylunio ac argraffu'r Lolfa ac gyfer fy ngwaith ac yn bersonol er mwyn cyhoeddi llyfr ar gyfer ein sefydliad. Mae eu gwasanaeth a'r eitemau gorffenedig wedi bod o'r safon uchaf.” – SD

"Busnes teuluol â staff cyfeillgar – mae'r Lolfa'n cynnig gwasanaeth argraffu cyflym i'r safon uchaf." – EL

“Dim ond i roi gwybod i chi fy mod i'n cael ymateb gwych i ansawdd y cylchgrawn – ac rydw i'n gwerthfawrogi o'r galon. Gwnaethoch chi waith hyfryd. Diolch yn FAWR iawn yn wir.” – BH

“Gwasanaeth ardderchog, argraffu o ansawdd, dim byd yn ormod o boen ac erioed wedi methu dyddiad cau!” – CJ

“Gwasanaeth arbennig a bob tro'n gymwynasgar. Gallaf eu hargymell yn llwyr.” – EG

“Mae'r Lolfa'n argraffu ein newyddlen chwarterol; maen nhw bob tro'n brydlon ac effeithiol yn eu gwasanaeth, ac mae'r argraffu wedi bod i ansawdd uchel. Fe fyddwn i'n eu hargymell yn gryf!” – EH

“Cael profiad gwych wrth ddelio â'r Lolfa. Roedd eu gwasanaethau'n arbennig ac roedd yn bleser delio â Paul Williams.” – BK

“Alla i ddim gorddweud cymaint o argraff ges i o'r gwasanaeth yr ydych chi wedi'i ddarparu, ac ansawdd y cynnyrch gorffenedig. Yn sicr bydd gen i bethau da i'w dweud am Y Lolfa wrth fy nghydweithwyr yn yr Undebau Llafur.” – RS

“Mae gen i'r flwyddolyn ar fy nesg ac mae'n edrych yn wych. Wrth fy modd. Roedd yn dda gweithio gyda chi, a gobeithio y daw'n ddigwyddiad blynyddol.” – DW