Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Polisi Dychwelyd

Gwnawn ein gorau i gynnig gwasanaeth teg, cyflym ac effeithiol i’n cwsmeriaid. Os bydd gwall neu ddifrod ar ein llyfrau/nwyddau, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosib, drwy e-bostio neu ffonio 01970 832304, ac fe’u cyfnewidiwn yn syth.

Os byddwch am ganslo archeb, cysylltwch ar unwaith (cyn i ni ei ddanfon, os yn bosib) ac fe drefnwn ad-daliad yn syth.

Os byddwch am ganslo neu ddychwelyd archeb ar ôl ei dderbyn, fe wnawn ad-dalu pris y llyfrau/nwyddau ac unrhyw gost postio gwreiddiol yn llawn, ond gofynnwn i chi dalu’r gost o ddychwelyd y nwyddau atom. Cysylltwch o fewn 5 diwrnod gwaith, drwy e-bostio neu ffonio. Byddwn yn ad-dalu ar dderbyn y nwyddau yn ôl mewn cyflwr gwerthadwy.