Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Hunan gyhoeddi

Gyda dros hanner canrif o brofiad cyhoeddi y tu ôl i ni, rydym mewn sefyllfa ddelfrydol i’ch cynghori os ydych am gyhoeddi drosoch eich hun, neu ar ran sefydliad.

Golygu Gyda saith golygydd ar y staff, gallwn gynnig gwasanaeth golygu cyflawn i chi, o olygu creadigol i olygu copi, a hynny yn y ddwy iaith.

Dylunio Mae ein dylunwyr wrth law i sicrhau bod eich llyfr yn edrych mor ddeniadol â llyfrau’r Lolfa ei hun – ac i ddylunio’r clawr i chi.

Argraffu a rhwymo Gallwn argraffu ym mhob fformat ac mewn gwahanol fathau o rwymiad gan gynnwys glud (clawr meddal), clawr caled, rhwymo sbeiral a styffylu. Gallwn hefyd argraffu niferoedd bychain yn rhad trwy’r dull digidol.

Dosbarthu a storio Gallwn eich cynghori ar sut i gael y llyfr allan i’r siopau ac i Amazon, a’u storio’n rhad yn ein stordy yn Nhalybont.

E-lyfrau Gallwn drosi eich llyfr i ffurf e-lyfr yn fformat Kindle (Amazon) a/neu E-pub.

Cyngor Yn fwyaf pwysig, gallwn eich cynghori ar bob agwedd o’r broses gyhoeddi, gan gynnwys prisio a dosbarthu a marchnata (gan gynnwys pethau technegol fel cael rhif ISBN). Ffoniwch i drefnu sgwrs am eich anghenion.

Yn ogystal ag argraffu eich llyfr, fe allwn, wrth gwrs, ei gyhoeddi yn y ffordd arferol! Cliciwch ar cyhoeddi eich llyfr.

O.N. Ystyr ‘hunan-gyhoeddi’ yw cyhoeddi gennych chi eich hunan. Rhaid i lyfrau a gyhoeddir dan enw’r Lolfa gael eu cymeradwyo gennym fel gwasg.