Newyddion
Stori sy'n plethu dirgelwch gyda'r argyfwng hinsawdd wedi'i leoli yn ardal Eisteddfod 2022
Gyda miloedd o eisteddfodwyr yn heidio i ardal Tregaron ddechrau mis Awst eleni bydd cyfle i bobl gerdded llwybrau Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron, lleoliad stori ddirgelwch newydd sbon gan Meleri Wyn James. Mae Cors Caron wedi ei hysbrydoli gan y gors hudol yn Nhregaron ac wedi’i hanelu at yr arddegau cynnar. darllen mwy
Cymeriad unigryw o Geredigion yn ganolbwynt llyfr newydd i blant gan Valériane Leblond
Mae’r arlunydd a dylunydd adnabyddus Valériane Leblond wedi darlunio llyfr i blant am wraig anghyffredin iawn – Siani Pob Man (Y Lolfa). Morfudd Bevan sydd wedi ysgrifennu’r testun am y cymeriad go iawn Siani Pob Man, oedd yn byw mewn bwthyn bach ar draeth Cei Bach, ger Aberaeron yn y 19fed ganrif. darllen mwy
“Mae gobaith yn tyfu pan rwyt ti’n credu yn yr amhosib” – nofel gyntaf Caryl Lewis i’r arddegau cynnar
Nofel ddoniol, anghyffredin, sy’n ysbrydoli a hefyd yn codi pynciau dwys, mae Hedyn yn stori am wireddu breuddwydion. darllen mwy
Cyfrol yn dadlennu gwybodaeth newydd am enw ac arweinydd cyntaf Merched Becca
Er bod sawl cyfrol Saesneg o safon wedi eu cyhoeddi ar helynt y Becca, dim ond un gyfrol fer yn y Gymraeg oedd ar gael – tan nawr. Mae Ar Drywydd Twm Carnabwth – Hanes Dechrau Gwrthryfel Becca yn gofnod dadlennol ac astudiaeth fanwl o fywyd Thomas Rees (Twm Carnabwth), am y dylanwadau fu arno, am hanes a naws y fro, ac am yr holl anghyfiawnderau a’r tlodi a arweiniodd at y terfysgoedd yng nghanol y 19eg ganrif. darllen mwy
Crynhoi doethinebau’r canrifoedd mewn casgliad newydd o ddiarhebion
Mae traddodiad llenyddol y Gymraeg yn mynd yn ôl dros fil a hanner o flynyddoedd ac un o’r pethau sydd wedi bod yn rhan amlwg o’r gwaddol hon o’r dechrau un yw diarhebion. Mae’r Lolfa newydd gyhoeddi Y Diarhebion: Casgliad o Ddiarhebion Cyfoes, sef cyfrol o ddiarhebion sy’n addas i’w defnyddio heddiw. darllen mwy
Llwyd Owen yn dychwelyd i'r cysgodion yn ei nofel newydd
“Nofel sy’n brathu fel cyllell ar gnawd” – dyna ddisgrifiad yr awdur Alun Davies o O Glust i Glust (Y Lolfa), nofel dditectif afaelgar newydd yr awdur arobryn Llwyd Owen. darllen mwy
‘Dwyt ti erioed wedi darllen dim byd fel hwn o’r blaen’ – Y Mabinogi yn Ysbrydoli Awdur Newydd
‘Dwyt ti erioed wedi darllen dim byd fel hwn o’r blaen’. Dyma eiriau ar froliant Pumed Gainc y Mabinogi, cyfrol gyntaf Peredur Glyn a gyhoeddir y mis hwn gan wasg y Lolfa. Ynddi ceir straeon arswyd sydd wedi eu gosod yng Nghymru heddiw ond sydd wedi cael eu hysbrydoli gan ddrychiolaethau chwedloniaeth y gorffennol. darllen mwy
Datgelu cyfrinachau enwau caeau Cymru
Yr wythnos hon cyhoeddir cyfrol arloesol sy’n ymateb i’r diddordeb cynyddol mewn enwau lleoedd yng Nghymru. Mae Cerdded y Caeau gan Rhian Parry yn benllanw gwaith oes sy’n astudiaeth o enwau yn ardal Ardudwy, ond yn cynnig patrwm i unrhyw un sydd am olrhain enwau caeau yn eu hardal. darllen mwy
Gerald Morgan yn datgelu pennod goll yn hanes y Gymraeg
Ni ddeallai neb cyn y 1990au bod dros fil o ddogfennau cyfreithiol Cymraeg yn cuddio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Roedd y dogfennau profeb yma’n cynnwys ewyllysiau, rhestri eiddo a llythyrau. Mae Ewyllysiau Cymraeg: Pennod Goll yn Hanes yr Iaith gan Gerald Morgan (Y Lolfa) yn llyfr dadlennol a diddorol am sawl rheswm. Mae’r gyfrol yn caniatáu i bobl ddarllen dymuniadau a geiriau olaf Cymry cyffredin o 1560 hyd at 1858. darllen mwy
Dathlu Cymry o fri ar ddydd Gŵyl Dewi
‘Gwnewch y pethau bychain’, dyna oedd gyngor Dewi Sant. Eleni ar Ddydd Gŵyl Dewi beth am wneud rhywbeth bach drwy ddathlu 50 o Gymry ysbrydoledig sydd wedi llwyddo yn eu maes? darllen mwy
Cyw a'i ffrindiau'n dathlu gwneud y pethau bychain
Mae Cenhinen Fwya’r Byd! sef y llyfr nesaf yng nghyfres boblogaidd Cyw gan Anni Llŷn, yn dilyn un o ffrindiau gorau Cyw, Jangl y Jiráff, wrth iddi geisio ennill cystadleuaeth Dydd Gŵyl Dewi – ‘Cenhinen Fwya’r Byd’! darllen mwy
Ffordd wych o edrych ymlaen at y Chwe Gwlad
Mae Brenin y Cwis yn ôl gyda llyfr cwis newydd sbon sy’n llawn o hanes y 22 mlynedd diwethaf o gystadleuaeth y Chwe Gwlad. Dyma ffordd hwyliog o wahaniaethu rhwng y ffyddloniaid a’r cefnogwyr ‘fair weather’! darllen mwy
Geiriadur daeareg newydd yn llenwi bwlch
Er bod yna sawl geiriadur daeareg ar gael yn Saesneg ac mewn ieithoedd eraill, hyd at eleni, doedd dim un ar gael yn Gymraeg. Mae’r Lolfa newydd lenwi’r bwlch wrth ryddhau’r geiriadur daearegol cyntaf yn yr iaith Gymraeg. Awdur Geiriadur Daeareg a Gwyddorau Daear yw’r awdur, golygydd a daearegwr amlwg Dr Dyfed Elis-Gruffydd. darllen mwy
Cyfrol o atgofion am hanes Blaenau Ffestiniog a Manod
Yr wythnos hon cyhoeddir Cynefin yr Alltud: Cylch Congl-y-Wal, Manod a ’Stiniog gan Les Darbyshire, a fu farw dros y penwythnos yn 97 oed. Mae’r gyfrol yn gofnod pwysig o hanes cymdeithasol cymuned glos dauddegau a thridegau’r ganrif ddiwethaf, ac mae’n cofnodi hanes cyfnod magwraeth yr awdur ym Mlaenau Ffestiniog. darllen mwy
Her i ddringo mynyddoedd Cymru yn y flwyddyn newydd
Gyda hwyl yr ŵyl wedi darfod, mae Dewi Prysor, yn ei lyfr newydd, 100 Cymru: Y Mynyddoedd a Fi yn cynnig her iachus i ddringo 100 copa uchaf Cymru yn y flwyddyn newydd. darllen mwy
Cyhoeddi nofel ddaeth yn agos at gipio Gwobr Goffa Daniel Owen 2021
Yr wythnos hon cyhoeddir ail nofel John Roberts, Yn fyw yn y cof (Y Lolfa). Cyfrol am gefn gwlad a’r ddinas, am golli a dal gafael ac am gariad a dialedd. Roedd beirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod AmGen eleni yn llawn canmoliaeth, a bron iddi gipio’r wobr yn y gystadleuaeth honno. darllen mwy
Cyfrol i danio'r her o gerdded 100 copa uchaf Cymru
Ers Covid ymddangos yn ein bywydau mae poblogrwydd cerdded a mynydda wedi cynyddu yn sylweddol gyda nifer fawr o bobl yn sylweddoli ein bod ni’n lwcus iawn byw mewn gwlad mor hardd a Chymru. Yr wythnos hon cyhoeddir100 Cymru: Y mynyddoedd a fi (Y Lolfa) cyfrol weledol ddeniadol sy’n dathlu 100 mynydd uchaf Cymru gan rannu gwybodaeth ymarferol a hanesion Dewi Prysor wrth iddo eu dringo yn 2017. Mae’r gyfrol clawr caled yn berffaith i’w rhoi fel anrheg y Nadolig hwn. darllen mwy
Chwerthin, cariad a galar - stori Carys Eleri
Yn ei llyfr hunangofiannol newydd, mae’r awdures, y gantores a’r digrifwr Carys Eleri yn rhoi cipolwg o’i magwraeth yn Sir Gaerfyrddin, ei gyrfa liwgar ddilynodd hynny, cyn rhannu’n sensitif hanes diagnosis trasig ei diweddar dad, David Evans, â chlefyd Niwronau Motor yn 2018. darllen mwy
Hunangofiant un o gymeriadau a chymwynaswyr mawr Sir Gâr
Yr wythnos hon cyhoeddir hunangofiant yr amryddawn Arwyn Thomas, un o gymeriadau a chymwynaswyr mawr Sir Gaerfyrddin. Mae Mwy Nag Un Llwyfan (Y Lolfa) yn llawn straeon ffraeth sy’n adlewyrchu ei gymeriad triw, hwyliog a theyrngar a’i gariad tuag at ei filltir sgwâr. darllen mwy
Cyhoeddi cyfrol olaf y diweddar Ioan Roberts
Flynyddoedd yn ôl, gofynnodd y Cylch Catholig i’r diweddar Ioan Roberts ysgrifennu hanes y Cylch o’i dechreuad a’r mis hwn mae ffrwyth ei waith, Gwinllan a Roddwyd – Hanes Y Cylch Catholig yn cael ei gyhoeddi gan Wasg y Lolfa. darllen mwy
1-20 o 264 | 1 2 3 4 5 . . . 14 | |
Cyntaf < > Olaf |