Cyhoeddi eich llyfr
Mae llyfrau’r Lolfa’n enwog am fod yn boblogaidd a deniadol, am eu safon golygyddol uchel, ac am y ffordd fywiog ac ymosodol maen nhw’n cael eu hyrwyddo a’u marchnata. Mae gan y cwmni enw da ymhlith awduron proffesiynol am ddelio’n deg â chytundebau, ac am dalu breindaliadau’n gyson ac yn llawn.
Porwch drwy’r wefan hon i weld pa fath o lyfrau sydd o ddiddordeb i ni. Mae’r rhychwant yn eang ond mae gennym ddiddordeb arbennig mewn llyfrau ffeithiol a llenyddol sy’n Gymreig eu cynnwys a’u safbwynt, a llyfrau gwreiddiol gan awduron ac artistiaid Cymreig.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod o gefndiroedd a phrofiadau – pobl anabl; pobl o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol; pobl LHDTQ+; pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is. Byddwn yn ystyried egin awduron ac awduron profiadol fel ei gilydd.
Os oes gennych syniad neu lawysgrif i’w gynnig i ni, cysylltwch â:
– ar gyfer rhaglen oedolion Cymraeg
– ar gyfer rhaglen plant a phobl ifanc
– ar gyfer rhaglen dysgwyr
– ar gyfer rhaglen Saesneg
Neu mae croeso i chi ffonio’r wasg ar 01970 832 304 am gyngor cyffredinol.
Wrth i chi gyflwyno syniadau, gofynnir am y canlynol:
- Crynodeb o’r gwaith – tua hanner tudalen.
- Pwt am yr awdur – paragraff neu ddau.
- Sampl o’r gwaith – cyfwerth â thair pennod.
- Syniadau ar gyfer marchnata a hyrwyddo’r llyfr – tua thudalen.
Rydym yn anelu at ddod i benderfyniadau o fewn tri mis.
Grantiau a chyfraniad awdur
Mae yna lyfrau ardderchog sydd ddim yn fasnachol i’w cyhoeddi heb gymorth grant neu gyfraniad awdur. Os yw eich llyfr yn syrthio i’r categori hwn, mae’n bosib i ni wahodd cyfraniad at y costau cynhyrchu yn gyfnewid am freindal uwch na’r cyffredin, a gwarant i gadw’r llyfr mewn print. Cyhoeddir y llyfrau hyn yn y ffordd arferol dan wasgnod Y Lolfa. Holwch am fanylion ac i drefnu sgwrs.