Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Mathau o waith

TAFLENNI

Gallwn gynhyrchu pob math o daflenni’n gyflym iawn ar ein gwasg litho Komori 5-lliw a’n gwasg ddigidol Xerox Versant, ac yna ar ein peiriannau plygu a chasglu. Rydym wedi cynhyrchu gwaith i atyniadau twristaidd mewn niferoedd hyd at 2 filiwn, gyda chwe phlygiad.