Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Staff

Llun o 'Garmon Gruffudd'

GARMON GRUFFUDD

Rheolwr Gyfarwyddwr

Ers ennill gradd MPhil mewn Cyhoeddi ym Mhrifysgol Stirling yn 1994 mae Garmon wedi bod yn gweithio yn ddi-dor i’r Lolfa gan ymgymryd â nifer o ddyletswyddau amrywiol o fewn y wasg.
Llun o 'Paul Williams'

PAUL WILLIAMS

Rheolwr Cynhyrchu

Fel Rheolwr Gwaith, mae Paul wedi helpu’r Lolfa i adeiladu enw digyffelyb am wasanaeth ac ansawdd dros y 18 mlynedd diwethaf, gan oruchwylio’r ehangu chwim ar ochr argraffu’r busnes. Cafodd ei brentisio gyda’r Cambrian News mwy o flynyddoedd yn ôl na hoffai gyfaddef, ac mae inc argraffu yn ei waed. Mae Paul yn seiclwr brwd, ond hefyd yn mwynhau gorwedd yn haul Cyprus!
Llun o 'Lefi Gruffudd'

LEFI GRUFFUDD

Pennaeth Golygyddol

Daw Lefi o Dalybont. Ar ôl cyfnod byr iawn fel Llyfrgellydd, bu'n gweithio i'r Lolfa ers ugain mlynedd.
Llun o 'Teleri Haf Jones'

TELERI HAF JONES

Golygydd Cymraeg

Daw Teleri o Ynys Môn. Wedi graddio ym Mhrifysgol Aberystwyth, bu’n athrawes y Gymraeg am ddeng mlynedd. Mae hi’n mwynhau darllen, ysgrifennu a chadw’n heini. Er does ganddi ddim llawer o amser i hobïau gan fod ganddi ddau o fechgyn – Iori ac Owi.
Llun o 'Meleri Wyn James'

MELERI WYN JAMES

Golygydd Cymraeg

Cafodd Meleri ei magu yn Beulah ac Aber-porth. Fe raddiodd yn y Gymraeg o Goleg Prifysgol Aberystwyth ac astudiodd MA yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Mae’n ysgrifennu llyfrau i blant ac oedolion ers dros 25 mlynedd. Mae’n mwynhau darllen, coginio, brodwaith a threulio amser gyda theulu a ffrindiau.
Llun o 'Robat Trefor'

ROBAT TREFOR

Golygydd Cymraeg

Mae Robat yn Olygydd ac yn brawfddarllenydd o Ynys Môn.
Llun o 'Eirian Jones'

EIRIAN JONES

Golygydd Saesneg

Yn gyn-bennaeth ysgol a dyfarnwr tenis rhyngwladol, daw Eirian o’r Mynydd Bach yng Ngheredigion ac mae’n awdur 4 llyfr.
Llun o 'Carolyn Hodges'

CAROLYN HODGES

Golygydd Saesneg

Ar ôl graddio mewn Ffilm ac wedyn dysgu Saesneg fel iaith dramor yn Llundain a Rhufain, daeth Carolyn yn Rheolwr Olygydd yn Oxford University Press. O Sir Buckingham yn wreiddiol, mae hi wedi dysgu Cymraeg a daeth i’r Lolfa yn 2016 er mwyn siarad yr iaith bob dydd.
Llun o 'Gwenllian Jones'

GWENLLIAN JONES

Pennaeth Marchnata

Ar ôl ennill gradd mewn Astudiaethau Amgueddfeydd ac Orielau a Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth, gweithiodd i Brifysgol Aberystwyth ac Avanti Media yng Nghaerdydd. Ymunodd â’r Lolfa yn 2016.
Llun o 'Ceri Jones'

CERI JONES

Pennaeth Stiwdio

Mae Ceri yn enedigol o Dalybont ac ymunodd â’r Lolfa yn 1986. Ein arbenigwr Afal Ap.
Llun o 'Robat Gruffudd'

ROBAT GRUFFUDD

Dylunio a Systemau

Yn wreiddiol o Abertawe, aeth Robat i Goleg Bangor i astudio Athroniaeth a Seicoleg cyn sefydlu'r cwmni dros hanner canrif yn ôl — ac mae'n dal i fwynhau gweithio yma!
Llun o 'Alan Thomas'

ALAN THOMAS

Dylunio a Systemau

Mae Alan yn byw yn Ffostrasol a dechreuodd weithio i’r Lolfa yn 2002.
Llun o 'Sonia Hughes'

SONIA HUGHES

Gweinyddwraig

Daw Sonia o Lanbrynmair yn wreiddiol. Graddiodd mewn Bioleg o Brifysgol Aberystwyth. Dechreuodd weithio i’r Lolfa yn 2002. Mae’n ymddiddori ym myd natur, hanes a chelf ac mae’n hoff o goginio i ffrindiau, darllen a ffilmiau.
Llun o 'Ruth Dennis

RUTH DENNIS

Rheolwraig Swyddfa

Yn wreiddiol o'r Fflint, graddiodd Ruth mewn Swoleg ym Mhrifysgol Caerdydd cyn symud i'r Alban i weithio. Mae newydd ymuno â'r Lolfa wedi byw yn Nhalybont ers dros ddeng mlynedd. Mae'n hoffi darllen a gwylio hen ffilmiau.
Llun o 'Julie Williams'

JULIE WILLIAMS

Rhwymo a Gorffen

Yn enedigol o Lanfihangel-y-Creuddyn, mae Julie wedi gweithio i’r Lolfa ers 2000.
Llun o 'Wil Davies'

WIL DAVIES

Rhwymo a Gorffen

Mae Wil yn byw yn Nhregaron ac ymunodd â’r Lolfa yn 2015.
Llun o 'Arwel Griffiths'

ARWEL GRIFFITHS

Rheolwr Warws

Yn enedigol o Eglwys Fach, ond yn byw yn Nhalybont ers 1988. Mae Arwel wedi gweithio yn Y Lolfa ers 2005.
Llun o 'Dominic Southgate'

DOMINIC JENKINS

Rhwymo a Gorffen

Mae Dominic newydd ymuno â'r Lolfa wedi gweithio yn adran rwymo Argraffwyr Cambrian ers 1998. Mae'n ffanatig chwaraeon ac yn hoff o feicio, rhedeg a phêl-droed -- a'r cymdeithasu wedyn!
Llun o 'Carl Jones'

CARL JONES

Rhwymo a Gorffen

Yn wreiddiol o Gomins Coch, ymunodd Carl â’r Lolfa yn 2021, wedi cyfnod hir yn gweithio yn adran rwymo Cambrian Printers.
Llun o 'Euros Davies'

EUROS DAVIES

Argraffu

O Bontgarreg ger Llangrannog, bu Euros yn gweithio am 30 mlynedd fel argraffydd i Cambrian Printers cyn ymuno a’r cwmni. Yn byw yn Llanilar.
Llun o 'Robert Davies'

ROBERT DAVIES

Argraffu

O ardal Llanfihangel y Creuddyn, mae Rob wedi ymuno â’r cwmni wedi blynyddoedd fel argraffydd i Cambrian Printers. Aelod o Gôr Meibion y Mynydd.