Cofianydd Iolo Morganwg yn dyrchafu cyfraniad 'syfrdanol' y gwrthryfelwr radical

Yr wythnos hon cyhoeddir y cofiant cynhwysfawr cyntaf i’r ‘Cymro mwyaf diddorol a fagwyd erioed yng Nghymru’ – Y Digymar Iolo Morganwg gan yr Athro Geraint H. Jenkins.

 

Mae’r gyfrol hon yn cynnig portread cyffrous newydd o athrylith Iolo Morganwg ac yn beirniadu academyddion sydd wedi tanbrisio cyfraniad y dyn fel gwleidydd, gwladgarwr a gweledydd yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf.

 

Yn ôl Geraint H. Jenkins: “Yn ystod oes Fictoria ni chyfeiriodd neb at ei weledigaeth, ei feiddgarwch, ei wladgarwch a’i statws fel ‘Bardd Rhyddid’. Fel dyn geirwir a diddichell – sant o ddyn – y darluniwyd e. A phan sefydlodd Cymru ei phrifysgol genedlaethol chwalwyd y fytholeg hon yn llwyr gan rai o geiliogod y colegau. Fe’i gwelwyd fel ‘dyn drwg’ a lygrodd ffynonellau cysegredig y traddodiad llenyddol Cymraeg. Ond, er eu pwysiced, dim ond un rhan o gyflawniadau Iolo yw ei ffugiadau a thrwy obsesiynu ynghylch y rheini collwn olwg ar ei gyfraniad syfrdanol fel gwleidydd, llenor, hanesydd, gweledydd a gwladgarwr.”

 

Mae’r gyfrol a gyhoeddir gan wasg Y Lolfa yn clodfori gwaith Iolo Morganwg fel ffugiwr llenyddol penigamp, bardd godidog a gweriniaethwr tanbaid. Roedd yn Undodwr digymrodedd, yn elyn pennaf i ryfelgarwch a chaethwasiaeth. Gweithiodd trwy gydol ei oes fel saer maen, ym Morgannwg a Lloegr, yn aml mewn tlodi enbyd, a daeth yn enwog fel hynafiaethwr, bardd a radical.

 

Meddai Geraint H Jenkins “I mi, anifail gwleidyddol oedd Iolo, gwrthryfelwr wrth natur, ciciwr yn erbyn y tresi a thipyn o boendod i’r rhai a geisiai gynnal y drefn grefyddol a gwleidyddol. Iolo’r Bardd Rhyddid a welais yn bennaf wrth astudio’i bapurau toreithiog, gweriniaethwr i’r carn, cyfaill i’r tlawd a’r gorthrymedig, boed wyn neu ddu, a gweledydd ysbrydoledig o ran dyfodol Cymru a’r Gymraeg.”

 

Mae’r cofiant yn olrhain ei fywyd rhyfeddol o ddiddorol gan amlygu ei gyfraniad enfawr mewn llu o feysydd, yn cynnwys ei waith arloesol yn datblygu’r Orsedd a chlymu hwnnw gyda’r Eisteddfod Genedlaethol.

 

Er i sawl llyfr gael ei gyhoeddi am wahanol agweddau o waith Iolo, dyma’r cofiant Cymraeg cyntaf iddo, wedi ei ysgrifennu gan yr arbenigwr pennaf ar ei fywyd, Geraint H. Jenkins.