Rhyddhewch yr hyn a glowyd yn y tywyllwch, neu marw fydd tynged y bachgen. Mae Gwydion yn gwybod.
Mae teyrnasiad y Brenin Peredur dan fygythiad, ac mae'r tensiwn rhwng y Pedair Ynys ar fin ffrwydro. Daw arglwyddi'r ynysoedd draw i'r brifddinas ar Ynys Wen gyda chynllun i ddisodli'r brenin, sy'n rhoi bywyd Siwan, ei ferch, mewn perygl. Mae'n rhaid iddi aberthu ei breuddwydion a dianc o Borth Wen er mwyn ceisio aros yn ddiogel.
Wrth i'r Pedair Ynys gweryla â'i gilydd, mae Enid, merch Arglwydd Ynys Afarus yn cychwyn ar daith beryglus i geisio dod o hyd i'w brawd Pedr, sydd wedi ei gipio o'i ystafell yng nghanol nos. Gyda chymorth y dewin Gwydion, mae Enid yn darganfod cyfrinachau o'r gorffennol sy'n bygwth dinistrio'r Pedair Ynys am byth.