Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyflwyno ffeiliau

Rydym yn croesawu ffeiliau PDF cywir! Ffoniwch ni os ydych yn ansicr o’r canllawiau. Neu gallwch ‘becynnu’ neu ‘gasglu’r’ gwaith allan o’ch rhaglen: bydd hyn yn rhoi’r ffeiliau gwreiddiol (lluniau a ffontiau) yn ein dwylo.

Ein prif raglenni yw InDesign and Quark (Mac a PC) ond gallwn dderbyn gwaith o raglenni eraill – gofynnwch am gyngor.

Pwyntiau pwysig ar gyfer anfon ffeiliau:

  • Pob llun i fod yn 300 dpi yn ei faint terfynol ac os mewn lliw, mewn pedwar lliw (CMYK), nid tri (RGB);
  • Gadewch 5mm o waedu o gwmpas y dudalen a rhowch y marciau crop 6mm oddi ar ymyl y dudalen.

Gallwch anfon ffeiliau hyd at 10Mb fel atodiad e-bost. Os yn fwy, defnyddiwch wefan We Transfer (https://wetransfer.com/.)

Am gyngor technegol ar gyflwyno gwaith i brint, cysylltwch â’n Rheolwr Cynhyrchu, Paul Williams, ar neu ffoniwch ef ar 01970 831 901.