Polisi Preifatrwydd Y Lolfa
Cefndir Y Lolfa
Mae’r Lolfa’n gwmni cyfyngedig sy’n cyhoeddi llyfrau ac yn cynnig gwasanaeth argraffu masnachol.
Pa fanylion sydd gennym a sut fyddwn ni’n eu defnyddio?
Cysylltiadau
Rydym yn cadw manylion am awduron, cysylltiadau busnes a chwsmeriaid argraffu a chyhoeddi mewn cronfa ddata cysylltiadau ar weinydd mewnol Y Lolfa. Rydym yn defnyddio Mail Chimp i reoli’r rhestr o bobl sydd wedi tanysgrifio i’n cylchlythyr. Rydym yn defnyddio’r data er mwyn rhoi gwybodaeth am gyhoeddiadau newydd, digwyddiadau a chynigion arbennig Y Lolfa yn unig. Rydym yn cadw’r manylion sydd wedi eu cyflwyno i ni all gynnwys cyfeiriad, ebost a rhif ffôn. Rydym hefyd yn cadw hanes archebu cwsmeriaid. Rydym yn cadw manylion banc awduron sy’n awyddus i dderbyn taliadau electronig (rhif cyfrif a rhif didoli) er mwyn talu breindal iddynt ddwywaith y flwyddyn. Rydym yn cadw lluniau o awduron ac o ddigwyddiadau hyrwyddo a bywgraffiadau awduron at ddiben marchnata. Rydym yn cadw manylion cyswllt tanysgrifwyr Mellten.
Cyfeiriadur Y Lolfa
Mae Cyfeiriadur Y Lolfa yn gronfa ddata sy’n cynnwys gwybodaeth am gwmnïau a sefydliadau Cymreig. Cyhoeddir y Cyfeiriadur yn nyddiaduron a ffeiloffaith Y Lolfa ac yn gyhoeddus ar ein gwefan www.ylolfa.com. Byddwn yn cysylltu o dro i dro gyda’r cysylltiadau sydd yn y gronfa ddata yma er mwyn diweddaru gwybodaeth ac er mwyn cyflwyno telerau hysbysebu dyddiaduron Y Lolfa.
Mae’r gweithgarwch hwn yn perthyn i gategori “diddordeb busnes cyfreithlon” y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).
Pwy sy’n gallu cael mynediad i’r data?
Mae’r cronfeydd data yn cael eu cadw yn ddiogel ar weinydd Y Lolfa a thrwy Mail Chimp. Dim ond staff Y Lolfa sy’n cael gweld y data ac nid yw’n cael ei rannu gyda sefydliadau eraill.
Eich hawliau
Os ydych am ddileu eich manylion o unrhyw gronfa ddata neu o wefan Y Lolfa gellir gwneud hynny ar unrhyw adeg drwy ddanfon neges ebost at neu drwy ysgrifennu at Y Lolfa, Talybont, Ceredigion, SY24 5HE. Bydd holl negeseuon marchnata’r Lolfa yn cynnwys cyfle syml i ddad-danysgrifio. Mae croeso hefyd i chi gael mynediad i unrhyw ddata sydd gennym amdanoch, i gywiro unrhyw wallau ac i gyfyngu ar unrhyw brosesu ar y data.
Mae cyfarwyddiadau ar sut i olygu data Cyfeiriadur Y Lolfa yn eglur yn adran berthnasol y wefan www.ylolfa.com/cyfeiriadur. Gellir dileu manylion cwmni, sefydliad neu unigolyn yn llwyr drwy ebostio , ffonio 01970 832304 neu bostio llythyr i Dyddiaduron, Y Lolfa, Talybont, Ceredigion, SY24 5HE. Rydym yn anelu at gywiro neu ddileu data yn ddi-dal o fewn 48 awr i dderbyn cais yn ystod oriau swyddfa arferol.
Os nad ydych yn hapus gydag ymateb Y Lolfa, neu os nad ydych yn credu ein bod yn prosesu eich data personol yn unol â’r gyfraith, gallwch gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth https://ico.org.uk/concerns/handling/
Y Lolfa Cyf., Cofrestrwyd yng Nghymru. Cwmni rhif 01465822.