Y Cymun Bendigaid 2004 / The Holy Eucharist 2004 (Argraffiad Côr / Pew Edition)
Mae'r Cymun Bendigaid (trefn 2004) wedi cael ei ailddylunio a'i gysodi gan feddwl yn ofalus am niwro-amrywiaeth. Mae'r testun a rhif y tudalennau yn gyson a'r rhifynnau blaenorol ac mae'n drwyadl ddwyieithog. Diweddarwyd rhai o'r rhuddellau i gynnwys iaith gynhwysol. Paratowyd y testun gan Gomisiwn Litwrgaidd Ymgynghorol Sefydlog yr Eglwys yng Nghymru ac fe'i awdurdodir yn llwyr i'w arfer. Mae'r gyfrol yn cynnwys y testunau litwrgaidd angenrheidiol a nifer o ddewisiadau eraill, ynghyd â defod 1984.
*Blaen-archebwch nawr! Bydd eich copi yn cael ei bostio ar gyhoeddi ar ddechrau mis Ebrill 2024.