Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Newyddion

At y perfedd, at y pydredd - gwirioneddau'r goeden deulu

At y perfedd, at y pydredd - gwirioneddau'r goeden deulu

Y mis hwn, cyhoeddir Powell (Y Lolfa) gan Manon Steffan Ros. Nofel yw hon am hogyn ifanc, Elis, sy’n olrhain hen achau ei gyn-deidiau drwy ymchwilio i’w goeden deulu. Fel un sydd wastad wedi arddel balchder o fod yn un o’r Powells, sylfaenwyr ei dref, ergyd yw’r hyn a ddaw i’r wyneb am hanes haenog a chymhleth ei deulu  darllen mwy

Llyfr a siart i ddathlu Cwpan y Byd cyntaf Cymru ers 64 o flynyddoedd

Llyfr a siart i ddathlu Cwpan y Byd cyntaf Cymru ers 64 o flynyddoedd

Yr wythnos hon, cyhoeddir llyfr i baratoi ar gyfer ymgyrch gyntaf Cymru mewn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ers 1958. Wedi ei ysgrifennu gan y sylwebydd a’r cyflwynydd Dylan Ebenezer, mae’r gyfrol yn baratoad delfrydol i gefnogwyr, o bob oedran, sydd am wybod mwy am y gwrthwynebwyr, y wlad a’r sêr i’w dilyn.  darllen mwy

Ydi pobl yn perthyn i ddarn o dir? Nofel gyfoes sy'n codi cwestiynau am Gymru, y Gymraeg a chenedlaetholdeb
Ailgyhoeddi Un Nos Ola Leuad ar fformat newydd

Ailgyhoeddi Un Nos Ola Leuad ar fformat newydd

Yr wythnos hon, cyhoeddir y llyfr y ceir ei ystyried fel y nofel Gymraeg orau erioed, Un Nos Ola Leuad, mewn fformat newydd wedi ei ailgysodi a’i gyhoeddi fel e-lyfr am y tro cyntaf erioed, gan wasg Y Lolfa. Mi fydd y llyfr hefyd yn cynnwys nifer bychan o gywiriadau y bwriadodd Caradog Prichard eu cael yn y fersiwn wreiddiol gan wasg Gee yn 1961, ond na gynhwyswyd tan nawr.  darllen mwy

Cyfrol yn dathu pen-blwydd yr Urdd yn 100 oed!

Cyfrol yn dathu pen-blwydd yr Urdd yn 100 oed!

nodi canmlwyddiant Urdd Gobaith Cymru, cyhoeddir Ein Urdd Ni gan Mari Emlyn (y Lolfa) – yr anrheg perffaith i’r hosan Nadolig. Yn y llyfr lloffion hwn, clywir gan rai o bobl fwyaf adnabyddus Cymru am y rhan y mae’r mudiad wedi ei chwarae yn eu bywydau. Ochr yn ochr â lluniau personol, cyflwynir pytiau o brofiadau amrywiol er mwyn cael cipolwg ysgafn a gwahanol i’r arfer o weithgaredd a gwerth yr Urdd.  darllen mwy

Dathlu'r byd a'i ryfeddodau

Dathlu'r byd a'i ryfeddodau

Mae Byd Bach Dy Hun gan Sioned Medi Evans yn llyfr sy’n dod â sawl peth hynod am y byd at ei gilydd mewn un lle, ac yn troi’r cymhlethdod mawr yn rhywbeth syml, hawdd i’w ddeall ar gyfer plant  darllen mwy

Rhoi fflach o liw ar hanes diweddar pêl-droed Cymru
Cyfrol i ddathlu 60 mlwyddiant Cymdeithas yr Iaith
Cyflwyno clasur Gwenno Hywyn i gynulleidfa newydd

Cyflwyno clasur Gwenno Hywyn i gynulleidfa newydd

Mae’r Lolfa newydd ailgyhoeddi Cyfrinach Betsan Morgan, un o glasuron y diweddar Gwenno Hywyn. Gwelodd Cyfrinach Betsan Morgan, sy’n nofel am deithio mewn amser, olau dydd am y tro cyntaf yng Nghyfres Corryn a bu galw mawr am ailgyhoeddi’r gyfrol o sawl tu, yn cynnwys gwefan Sôn am Lyfra, oedd yn nodi fod y nofel lawn cystal heddiw ag oedd hi yn 1986.  darllen mwy

Ffeindio sens pan sgen ti'm syniad

Ffeindio sens pan sgen ti'm syniad

Y mis hwn, cyhoeddir Sgen i’m Syniad – Snogs, Sens, Sens (Y Lolfa) gan awdur newydd sbon, Gwenllian Ellis. Mae Sgen i’m Syniad yn llyfr gonest sy’n tynnu ar brofiadau personol ac yn dweud gwirioneddau am y gymdeithas rydyn ni’n byw ynddi heddiw. Yng ngeiriau’r awdur: ‘Dyma lyfr i unrhyw berson sydd erioed wedi cael ei alw yn “ormod”, yn “warthus” neu’n “wirion”’.  darllen mwy

Cyhoeddi gohebiaeth tri Penyberth am y tro cyntaf
Mae Na, Nel! yn ôl! Y tro hwn, i achub y byd!

Mae Na, Nel! yn ôl! Y tro hwn, i achub y byd!

Yn y llyfr hwn, mae tair stori newydd am Nel, gan gynnwys addasiad o’r stori yn sioe’r Pafiliwn eleni. Yma, mae Nel a’i ffrindiau yn canfod eu hunain yn ailgylchu ar faes yr Eisteddfod, ac yn dod o hyd i goeden hynod ac arbennig y mae angen iddyn nhw ei gwarchod.  darllen mwy

Hyd a lled yr arfordir, a draw am glawdd offa - taith ryfeddol awdur o gwmpas Cymru

Hyd a lled yr arfordir, a draw am glawdd offa - taith ryfeddol awdur o gwmpas Cymru

Dros gyfnod o bedair blynedd, aeth yr awdur Gareth Evans-Jones ati i gerdded o amgylch Cymru, gan ddilyn llwybr yr arfordir a Chlawdd Offa. Cylchu Cymru ydi ffrwyth y teithiau hynny. Mae’r gyfrol yn cynnig inni fewnwelediad cryno i’r lleoliadau, ac yng ngeiriau’r awdur ei hun, mae’n cwmpasu ‘eu straeon, eu hanes, eu chwedloniaeth, a’u cyfaredd’ – a hynny drwy gyfrwng llenyddiaeth greadigol, lluniau trawiadol a dylunio lliwgar Olwen Fowler.  darllen mwy

Teyrnged i un o artistiaid mwyaf nodedig a gwladgarol Cymru - Ogwyn Davies

Teyrnged i un o artistiaid mwyaf nodedig a gwladgarol Cymru - Ogwyn Davies

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod yng Ngheredigion fe gofir am un o artistiaid mwyaf amryddawn Cymru a dreuliodd 60 mlynedd o’i oes yn ardal yr Eisteddfod. Roedd Ogwyn Davies yn dalent unigryw, yn arlunydd a ddarluniodd olygfeydd ysblennydd a lleoliadau nodedig fel Soar y Mynydd. Roed hefyd yn wladgarwr a ddarluniodd yr anthem genedlaethol a’r rhif yn cofnodi mwyafrif datganoli, ac roedd hefyd yn artist arbrofol a weithiodd gyda chyfryngau gwahanol a chrochenwaith yn hwyr yn ei yrfa.  darllen mwy

Nofel ddychanol 'hwyliog a gwahanol' gan yr awdur Cardi-noir Geraint Evans
Awdur a aned yn Nhregaron yn clodfori hanes y fro mewn cyfrol newydd ar gyfer yr Eisteddfod
Protest yn yr Eisteddfod: Cyfrol sy'n dathlu'r frwydr dros ryddid a chydraddoldeb
Cyfrol i ddysgwyr yn agor y drws at gyfrol straeon byrion newydd
Arwr Mabinogaidd i'r arddegau gan yr awdur Alun Davies
Straeon byrion i ddysgwyr gan ddysgwyr

Straeon byrion i ddysgwyr gan ddysgwyr

Yr wythnos hon cyhoeddir casgliad o 10 stori fer i ddysgwyr, gyda’r gyfrol yma hefyd wedi cael ei hysgrifennu gan ddysgwyr. Mae Y Daith (Y Lolfa) yn ddathliad o lwyddiant Cyfres Amdani, ei phoblogrwydd ymysg dysgwyr Cymraeg a’r awch am fwy o ddeunydd darllen cyfoes ac addas.  darllen mwy

61-80 o 350 1 2 3 4 5 . . . 18
Cyntaf < > Olaf