Cymru Gudd trwy lun a stori
Yn ei lyfr newydd, Cymru Gudd, mae’r ffotograffydd tirluniau Dylan Arnold yn dod â lluniau trawiadol o adfeilion Cymreig yn fyw trwy rannu hanes yr adeiladau, a’r teuluoedd oedd yn byw ynddynt.
Mae’r llyfr yn cynnwys lluniau o adeiladau segur ac adfeilion anghofiedig yng ngogledd Cymru – o ogledd Ynys Môn i lawr i Fachynlleth a draw am Ddyffryn Conwy.
Plannwyd yr hedyn ar gyfer y gyfrol wedi i Carys Owen gysylltu gyda Dylan ar ôl iddo rannu llun o’i chartref, Tan y Marchlyn yn Deiniolen, ar Facebook. Roedd Carys wedi ei magu yn y ty, a gyda llawer o atgofion tyner i’w rhannu.
Meddai Dylan, “Carys oedd y catalydd ar gyfer y prosiect – mi ges i sgwrsys difyr iawn efo hi am ei chartref, ei theulu a’u ffordd o fyw.
“Ar ôl hynny, mi ges i flas ar yr ymchwilio a’r cyfweld, gan hel straeon er mwyn dod â’r lluniau’n fyw. Mi wnaeth fy mhroject gyrraedd pwynt wedyn ble roedd yn gorff sylweddol o waith, digon i greu llyfr difyr o safon.
“Mae’r llyfr yn llawn straeon gan bobl ac yn cynnwys bywgraffiadau amryw o gymeriadau’r ardal. Beth sy’n ei wneud yn unigryw yw fod llawer o’r lleoliadau ansathredig a’u hanesion yn ymddangos mewn print am y tro cyntaf.”
Yn wreiddiol, tynnu lluniau tirwedd Eryri oedd o ddiddordeb i Dylan. Ond yn raddol, dechreuodd gael digon o dynnu lluniau lleoliadau poblogaidd oedd wedi eu gweld nifer o weithiau o’r blaen.
Ychwanegodd, “Dechreuais deimlo fod ôl troed cannoedd o ffotograffwyr eraill wedi bod yn y lleoliad o’m blaen, ac ambell waith, roeddwn i’n dal tirlun efo murddun yn y cefndir. Yn raddol, daeth y murddunnod dirgel hyn yn fwy amlwg yn fy lluniau ac o fwy o ddiddordeb i mi na’r tirwedd ei hun.
“Mi oedd fy nychymyg yn cael ei danio wrth feddwl beth fyddai’r waliau yn ei ddweud tasan nhw’n gallu siarad. A’r wefr fwyaf yn ystod y prosiect yma oedd fod yr hyn a ddigwyddodd go iawn rhwng pedair wal yr adfeilion lawer mwy diddorol, dirdynnol a rhyfeddol na’r straeon y gallwn i fod wedi eu dychmygu.”
Mae’r
gyfrol hon yn ddilyniant i arddangosfa o’r un enw gan Dylan Arnold yn Storiel,
Bangor nol yn 2019.