Llyfr cyntaf artist yn sôn am ymfudo, hiraeth a chwiltiau
Mae’r arlunydd a dylunydd adnabyddus Valériane Leblond wedi ysgrifennu’i llyfr cyntaf i blant, ynghyd â darlunio’r lluniau. Mae Y Cwilt (Y Lolfa) yn barhad o’r themâu mae’n archwilio yn ei gwaith celf, sef y syniad o berthyn, a’r darlun o gwiltiau.
Meddai Valériane Leblond:
“Roedd ysgrifennu fy llyfr cyntaf yn brofiad
diddorol iawn. Fel arfer rwy’n adrodd stori drwy luniau, mae’n brofiad gwahanol
gyda geiriau. Mae fy nhad o Québec, felly mae rhai o fy nghyndeidiau wedi
gwneud siwrne debyg i’r un sydd yn y stori, ac wedi teithio o Ewrop i Ogledd
Mae’r stori yn dilyn teulu bach sy’n
penderfynu gadael Cymru ar ôl cyfnod caled gyda diffyg bwyd i’r anifeiliaid a’r
bobl, a mynd i chwilio am fywyd gwell yn
Mae Valériane wedi bod yn gweithio ar y cyd
gyda’r arddangosfa Storïau, Cwiltiau a Chranci, gyda rhan ohono wedi cael ei
arddangos dan y teitl Meddygon, Swynion a Melltithion (Curers, Charms and Curses) yng Ngorllewin
“Mae wedi bod yn wych bod yn rhan o’r prosiect yma. Mae gen i ddiddordeb mewn cwiltiau a gwaith clytwaith ers fy arddegau, pan wnaeth fy mam gwilt i mi. Ers symud i Gymru, rwyf wedi peintio a darllen llawer am y grefft gwiltio Gymreig, sy’n hollol unigryw,” meddai Valériane. “Y peth mwyaf diddorol imi yw’r ffaith fod y cwiltiau yma wedi cael eu creu pan oedd y cyfleoedd i ferched weithio ac ennill arian yn brin iawn. Hefyd, wrth edrych yn fanwl, mae’n llawer mwy na chrefft – mae’n gelf haniaethol gain!”
Yn draddodiadol, mae cwiltiau Cymreig yn
syml o ran clytwaith, gyda mwy o bwyslais ar y pwythau a phatrymau’r edau. Mae
traddodiad cwiltio Gogledd
Mae Valériane wedi darlunio nifer fawr o lyfrau i blant dros y blynyddoedd, yn creu darluniau i storïau awduron fel Caryl Lewis, Haf Llewelyn ac Elin Meek. Roedd hefyd yn arddangos lluniau o gwiltiau yng Nghanolfan Cwiltiau Cymreig o 2009 tan i’r Ganolfan gau yn 2017. Mi fydd y Ganolfan yn Llanbedr Pont Steffan yn ailagor yn 2020, a bydd Valériane yn arddangos lluniau newydd yno yn y gwanwyn.