Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Penllaw degawdau o waith ymchwil

Penllanw degawdau o waith ymchwil i hanes unigryw Cymry Lerpwl a glannau Merswy yw Hanes Rhyfeddol Cymry Lerpwl gan D. Ben Rees. Dyma gyfrol swmpus, yn cynnwys lluniau, sy’n gofnod pwysig gan un o awduron amlycaf y ddinas ac sy’n adnabyddus drwy Gymru gyfan.

 

Meddai D. Ben Rees:

“Dyma rhoi sylw dyledus i Gymry Lerpwl o’r cyfnod pan oedd hi’n bentref pysgota hyd at y ddinas yw hi heddiw.”

 

Mae’r trysorfa o wybodaeth am bobl a digwyddiadau un o’r dinasoedd mwyaf diddorol ym Mhrydain. Ceir hanes y miloedd ar filoedd o Gymry Cymraeg a heidiodd i Lerpwl a’r cyffiniau i chwilio am waith ac i wella amodau byw, gan gynnwys adeiladwyr, gweinidogion, meddygon a siopwyr.

 

Dywedodd D. Ben Rees: “Yn sgil yr ymfudo o Gymru, yr Alban, Ynys Manaw, Cernyw ac Iwerddon yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, daeth Lerpwl yn ddinas unigryw. Ond y duedd gan haneswyr yn gyffredinol yw pwysleisio cyfraniad y Gwyddelod yn unig i’r ddinas. Anwybyddir y Cymry i raddau helaeth gan eu bod, mae’n debyg, wedi canoli eu hymdrechion ar fywyd y capel a’r theulu. Dim ond ambell un fentrodd i fwrlwm gwleidyddiaeth y ddinas, lle’r oedd y Gwyddelod yn amlwg iawn. Mae rhai Cymry a lwyddodd wedi cael sylw, ond beth am y tlodion, y rhai dienw a oedd yn rhygnu byw ac yn gorfod dibynnu ar gardod gan eraill?”

 

Tystia Ellis Roberts fod Hanes Rhyfeddol Cymry Lerpwl yn gyfraniad nodedig, meddai:

Y mae gwybodaeth Dr D. Ben Rees ynghylch Cymry Lerpwl yn gwbl ddigymar. Yn y gyfrol yma gall blethu ynghyd ei ddawn fel ymchwilydd hanesyddol â’i brofiad o fod wedi arwain y Gymdeithas Gymraeg yn Lerpwl ers degawdau. Mae’n waith sy’n dysteb deilwng i gyfraniad y Cymry ar Lannau Merswy gan ymfalchïo yn eu cyfraniad, ond heb ei oreuro.”