'Ffyrnig, ffraeth a chyhyrog': nofel gyntaf Iwcs
“Taith wyllt i berfeddion byd sy’n troi o
dan ein trwynau. Ffyrnig, ffraeth a chyhyrog. Mae Iwcs yn ninja o nofelydd” –
dyna ganmoliaeth uchel yr actor adnabyddus Rhys Ifans am Dal y Mellt, sef nofel gyntaf yr actor a’r canwr poblogaidd Iwcs (Iwan Roberts).
Mae Dal y Mellt yn berwi o hiwmor,
dweud gwreiddiol ac o ddisgrifiadau sy’n cyffwrdd rhywun i’r byw. Mae’r nofel
hefyd wedi’i disgrifio fel ‘campwaith’. Syniad o dros bymtheg mlynedd yn ôl oedd yr
ysgogiad i’r nofel. Meddai Iwcs: “Roedd ffrind i mi yn gweithio fel chef ar
gwch y llynges fasnachol ac roedd o’n llawn hanesion difyr. Dyna sbardunodd y
syniad i ddechrau. Dim ond ychydig dudalennau oedd gen i’n wreiddiol, a mi
daflishi’r cwbl i fŵt y car. Blynyddoedd yn ddiweddarach dyma ddarganfod y
tudalennau eto, a mi steddishi lawr a sgwennu pob nos.” Mae’r nofel yn dilyn Carbo, y rôg digywilydd
ond annwyl, Mici Ffinn a Les Moore (y ddau labwst sy’n ei gipio), Cidw y Ci Du,
Antonia, Dafydd Aldo a Jiffy, wrth iddynt fynd ar wib o Gaerdydd i Gaergybi, o
Lundain i Ddulyn yn talu’n ôl am hen gamwedd. Ac ar fferm Bwlch y Gloch yn yr
hen Sir Gaernarfon, mae Gronw yn cadw llygad ar y cwbl. Mae plot y nofel yn symud yn gyflym, yn
fyrlymus ac mae’n llawn tensiwn. Ochr yn ochr â hynny ceir hiwmor a dweud
ffraeth gyda deialog naturiol, grafog. Meddai Iwcs: “Dwi ar hyn o bryd yn hel syniadau ar gyfer
dilyniant i Dal y Mellt. Mae’r cymeriadau ’ma mor fyw i mi, fedra i ddim
gollwng gafael arnyn nhw.” Yn sicr, bydd y nofel hon yn sefydlu Iwcs
fel un o awduron newydd mwyaf poblogaidd, cyffrous a ffres y byd llyfrau
Cymraeg.