Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cofnodi taith liwgar a chythryblus Dafydd Roberts mewn llyfr

Mae’r cerddor a dyn busnes Dafydd Roberts wedi bod i bedwar ban byd, gan ymweld â gwledydd o bob math a chael profiadau rhyfeddol a sawl tro trwstan, fel y tystia ei hunangofiant Ar Daith a gyhoeddir gan wasg Y Lolfa yr wythnos hon. Mae’r gyfrol hefyd yn sôn am ei yrfa gyda chwmni recordiau Sain, sy’n dathlu 50 mlynedd ers ei sefydlu eleni, ac yn ei lyfr mae Dafydd Roberts yn mynegi’n onest iawn ei bryder am ddyfodol y diwydiant cyhoeddi cerddoriaeth yng Nghymru.

 

 Meddai: “Mae’r gwasanaethau ffrydio drwy gwmnïau enfawr megis Spotify ac Apple Music yn tanbrisio gwaith y cerddorion a’r cyfansoddwyr yn enbyd, yn enwedig cerddoriaeth mewn iaith leiafrifol. Ers i’r Llywodraeth benderfynu peidio ariannu’r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig (WMF), mae gwagle enfawr wedi datblygu, a does dim un corff bellach yn cynrychioli’r diwydiant. Yr wyf yn gryf o’r farn mai un o brif ddiffygion y diwydiant cerdd yng Nghymru yw’r ffaith nad oes strategaeth gynhwysfawr gan y Llywodraeth yn edrych ar ddatblygiad y diwydiant yn ei gyfanrwydd.”

 

Ynghyd â’i waith gyda Sain, mae’r hunangofiant yn sôn am ei deithiau niferus gyda’r band Ar Log. Rhennir pob pennod i wlad benodol; Cymru, Llydaw a Ffrainc, Yr Almaen, Y Swistir, Seland Newydd, Chile, Periw, Ecuador a Cholombia i enwi dim ond rhai. Meddai Dafydd:  “Mae’n hen ystrydeb i ddisgrifio bywyd fel taith, a thynnu cymhariaeth rhwng y ddeubeth, ac wrth gwrs, peidio cyrraedd pen y daith yn rhy fuan! Dwi felly wedi cymryd ‘y daith’ ychydig yn llythrennol, ac wedi ceisio adrodd yr hanesion yn ôl y wlad lle digwyddodd yr hanes, ac yn sgil hynny, osgoi unrhyw gofnodion cronolegol.”

 

Rhanna Dafydd hanesion am ei blentyndod a’i fagwraeth yn Llwyngwril, Sir Feirionnydd, yn fab i’r Rheithor plwyf a hanesion o fywyd Coleg yn cynnwys cael ei arestio dair gwaith a chael ei ddiarddel o’r Coleg. Olrheinir dechrau ei yrfa gerddorol – o ddylanwad Nansi Richards arno i ddrymio gyda Brân gan ennill Cân i Gymru a’r Pan Geltaidd. Adroddir hanesion anhygoel am deithiau tramor ymhob rhan o’r byd gydag Ar Log – yn cynnwys chwarae gyda’r Dubliners a derbyn gwahoddiad i gartref Y Dywysoges Helga Lee yn Awstria i berfformio. Rhoddir sylw hefyd i’r byd darlledu, y byd recordio, a’r frwydr i sicrhau telerau teg i gyfansoddwyr a chyhoeddwyr cerddoriaeth o Gymru.