Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Straeon tywyll am bobl y cyrion gan awdures boblogaidd

Mae’r awdures boblogaidd o ardal Llanbedr Pont Steffan yn cyhoeddi ei chasgliad cyntaf o straeon byrion yr wythnos hon. Mae O’r Cysgodion yn gasgliad o 14 stori gignoeth, llawn emosiwn, a phob un gyda thro annisgwyl yn y gynffon.

“Sut gall un awdur gyfleu’r fath gyfoeth o gymeriadau a lleisiau gwahanol, wn i ddim,” meddai’r awdur Alun Cob am y straeon. “Ysgrifennu cwbl naturiol, dyfeisgar a chlyfar dros ben.”

Mae’r awdur yn trafod perthynas pobl â’i gilydd yn eu bywyd bob dydd – magu babi, gweithio mewn salon harddwch, car yn torri i lawr – ac yn ymdrin â themâu fel iechyd meddwl, cam-drin corfforol a meddyliol, ymfudo a cholled. Ac mae cydbwysedd yn y monologau rhwng y sobor o ddwys, fel ‘Uffern’ a’i hanes dirdynnol am hil-laddiad, a digrifwch chwerthin yn uchel, fel ‘Dot’.

Meddyliau therapydd harddwch ydi ‘Dot’, sy’n llawn meddyliau ystrydebol a sylwadau craff am fywyd a hithau’n gorfod gwrando ar hanesion a phroblemau’r merched sydd yn cael triniaethau yn ei salon. Ond erbyn diwedd y stori cawn ddarlun cliriach o’r ferch, sydd yn dioddef o’i phroblemau ingol ei hun.

Yn ôl Heiddwen Tomos, y cwlwm sy’n clymu’r cyfan yw bod y straeon “am bobl y cyrion”.

“Mae nifer o’r straeon wedi bod ar y gweill ers sawl blwyddyn ac mae iddyn nhw i gyd rhyw dywyllwch. Daeth yr ysbrydoliaeth o edrych ar bobl nad ydyn nhw o reidrwydd yn cael sylw’n arferol, a rhoi llais iddynt,” meddai Heiddwen Tomos. “Fel athrawes Ddrama mae disgyblion yn holi o bryd i’w gilydd am fonolog i’w pherfformio, ac felly mae nifer o’r straeon yma i’w darllen ac i’w perfformio.”

“Fe wnes i fwynhau eu hysgrifennu’n fawr am eu bod nhw’n gryno ac yn destunau hollol wahanol i’w gilydd. Mae yma’r llon a’r lleddf, yr hen a’r ifanc, y cyfrwys a’r creulon.” 

Mae Heiddwen Tomos wedi dod yn adnabyddus fel awdures sydd yn delio â themâu cyfoes a thraddodiadol ar yr un pryd. Mae’r syniadau o berthyn a threftadaeth, mewnfudwyr a chariad i gyd yn cael eu trafod, ac mae’r storïau’n llawn deialog bywiog a naturiol sy’n llawn hiwmor. Roedd ei nofel ddiweddaraf, Esgyrn, (Y Lolfa, 2018) ar restr fer Llyfr y Flwyddyn, categori Ffuglen yn 2019. Daeth O’r Cysgodion yn agos i’r frig yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2019. 

Bydd Heiddwen hefyd yn cyhoeddi ei nofel gyntaf i’r arddegau cynnar yn ystod mis Mawrth. Mae Heb Law Mam yn nofel am berthynas merch ifanc â’i mam, a diniweidrwydd cariad cyntaf.