Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Nofel gyfoes Haf Llewelyn yn archwilio effaith damwain

Mae’r awdures boblogaidd Haf Llewelyn, sydd wedi ysgrifennu nifer o nofelau hanesyddol, wedi troi at sgwennu nofel gyfoes sy’n darlunio clymau o fewn cymdeithas yn dilyn damwain. Mae Pwyth, sydd wedi’i leoli mewn tref fach glan y môr yng ngogledd Cymru, hefyd yn edrych ar sut mae disgwyliadau pobl, a disgwyliadau ein hunain, yn effeithio ar yr unigolyn.

 

Daeth egin syniad y nofel wrth i’r awdures gofio am ddamwain yn ei phlentyndod a meddwl beth a ddaeth o’r rhai gafodd eu heffeithio gan y ddamwain:

 

“Dechreuais feddwl am yr holl ddigwyddiadau rydan ni’n clywed amdanyn nhw ar y newyddion, a sut yr ydan ni’n symud ymlaen i’r stori nesaf. Ond wrth gwrs mae’r storïau ingol yna wedi effeithio ar fywydau go iawn. Beth sy’n digwydd ddegawdau o flynyddoedd wedyn?” meddai’r awdures Haf Llewelyn.

 

Hon yw ei phedwaredd nofel i oedolion. Mae’r awdures eisoes wedi cael llwyddiant mawr gyda dwy nofel hanesyddol, wedi’u gosod yn Sir Feirionnydd yn yr 17eg ganrif (Y Traeth a Mab y Cychwr), a chyhoeddwyd Y Graig yn 2010. Enillodd ei nofel i’r arddegau Diffodd y Sêr Wobr Tir Na n-Og yn 2014, sydd wedi’i seilio ar hanes Hedd Wyn ac sydd bellach ar fanyldeb TGAU Llenyddiaeth Gymraeg.

 

“Yn Pwyth roeddwn i eisiau gallu rhoi sylw i bethau sy’n digwydd heddiw, ac er fod teimladau, ffyddlondeb, goddefgarwch a chydymwneud yn bethau arhosol, heb ffiniau amser a chyfnod, roeddwn i eisiau rhoi gwedd mwy diweddar iddyn nhw,” meddai Haf.

 

Mae’r nofel yn canolbwyntio ar bedwar tŷ o fewn y tref fach – tai Aneirin, Robin, Heulwen a chartref Delyth a Craig a’u mab. Mae Aneirin a Heulwen o’r genhedlaeth hŷn a Robin, ŵyr Aneirin, yn gweithio yn yr ysgol leol. Newydd-ddyfodiad i’r dref yw Craig, Delyth a’u mab 12 oed, Steff, sydd yn celu cyfrinach tu ôl i’r drysau caeedig. Mae dirgelwch hefyd ynglŷn a chymeriad sydd yn dod yn ôl i’r pentref a sydd yn codi hen fwganod ymhlith rhai o drigolion hynaf y dref.

 

“Mae’r nofel yn bortread o bobl a dyheadau pobl, a’r sibrydion sydd yn amgylchu ambell ddigwyddiad, hyd yn oed ar ôl degawdau. Sylwebaeth ar bobl, a sut rydan ni’n ymwneud â’n gilydd, sut y medrwn ni dwyllo a chael ein twyllo sydd yma,” meddai’r awdures.