Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Caredigrwydd tuag at bawb - neges llyfr newydd Manon Steffan Ros

Mae llyfr newydd Cymraeg ar gyfer plant yn cario neges gref am ddangos caredigrwydd ac i beidio beirniadu pobl sydd yn wahanol.

 

Mae Pobol Drws Nesaf gan yr awdures boblogaidd Manon Steffan Ros yn gyfuniad o stori annwyl yr awdures a lluniau lliwgar yr arlunydd a’r dylunydd Jac Jones, sydd wedi dod â’r testun yn fyw i’r darllenwyr ifanc.

 

“Ro’n i eisiau sgwennu stori ysgafn, hwyliog oedd efo neges bwysig ond syml – i beidio barnu pobl sy’n edrych, siarad neu’n ymddwyn yn wahanol. Mi sgwennais i’r stori yma cwpl o flynyddoedd yn ôl, ond wrth i’r amser fynd heibio, o’n i’n gweld bod ’na angen cynyddol am gael rhannu’r neges,” meddai Manon Steffan Ros.

 

“Caredigrwydd tuag at bawb ydy’r neges. Dwi’n meddwl bod plant ac oedolion yn gallu ofni’r hyn dydyn nhw ddim yn ei nabod, felly gobeithio bydd Pobol Drws Nesaf yn gallu lleddfu’r ofnau am ryw chydig bach, a dathlu’r gwahaniaethau efo’n gilydd.”

 

Dyma’r ail waith i Manon Steffan Ros a Jac Jones weithio gyda'i gilydd. Cyhoeddwyd Dafydd a Dad yn ôl yn 2013.

 

Meddai Manon:

“Mae Jac yn ddyn mor, mor dalentog, yn gwmni da, ac mae’n anrhydedd i fi gael gweithio efo fo, rwyf wedi’i edmygu ers degawdau. Mae ei waith ar Pobol Drws Nesaf yn wych iawn – am fod y neges yn un gref, mae ei ddarluniau yn ddigri ac yn annwyl ac yn cynhesu’r stori i gyd.”

 

Mae’r stori am bobl ‘wahanol’ yn dod i fyw drws nesaf i Tim a’i deulu. Maen nhw’n siarad, yn edrych ac yn bwyta bwyd gwahanol i bawb mae Tim yn eu hadnabod. Ond buan daw Tim a Bob, mab y teulu drws nesaf, yn ffrindiau drwy chwarae a chwerthin gyda’i gilydd. Pan oedd rhai plant yn gas i Bob roedd Tim yn gofalu amdano a daw’r cymdogion newydd yn rhan o’r gymdeithas drwy siarad yr un iaith. Ac er eu bod nhw’n wahanol, does dim ots.