Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Degfed nofel Gymraeg Llwyd Owen - arloesi gyda'r Ods

Mae’r awdur poblogaidd Llwyd Owen ar fin cyhoeddi ei ddegfed nofel Gymraeg, a hynny mewn prosiect arloesol gyda band Yr Ods, gyda chopïau yn cael eu rhoi mewn bocs-set unigryw a hardd y band yn ogystal â’i werthu yn unigol.

 

Iaith y Nefoedd yw teitl y nofel a’r albwm sy’n rhan o brosiect unigryw yn cydblethu cerddoriaeth a llenyddiaeth.

 

Meddai Llwyd Owen am y broses:

“Daeth y syniad gwreiddiol o gyfarfod gyda’r band ’nôl yn mis Mehefin 2018. Gofynnodd y band i fi ysgrifennu nofela i gyd-fynd â’u halbwm newydd, a’r unig brîff oedd i ysgrifennu stori am gwlt. Ar ôl ysgrifennu’r stori, fe rannais hi â’r band, er mwyn iddyn nhw allu seilio’i record newydd arni.

 

“Dyma’r agosaf y dof i fyth i fod mewn band roc a rôl, a byddaf yn fythol ddiolchgar i’r Ods am y cyfle. Fel un sydd wedi arfer gweithio ar ei ben ei hun, roedd yn brofiad arbennig medru cydweithio gydag unigolion creadigol sy’n barod i dorri tiroedd newydd a herio confensiynau recordio a chyhoeddi.”

 

Mae Griff Lynch o’r Ods wedi disgrifio’r nofel fel “y byd rydan ni’n ei adnabod rŵan, ond efo twist Llwyd Owen ffiaidd iddo fo.”

 

Mae’r artist Tom Winfield hefyd wedi cyfrannu at y prosiect, trwy greu gwaith celf cysyniadol sydd hefyd yn seiliedig ar y nofela a’r caneuon, ac sydd yn gwneud y cywaith gorffenedig yn gyflawn ac yn gynhwysfawr.

 

Mae Iaith y Nefoedd yn digwydd mewn dau gyfnod amser gwahanol: yn y dyfodol agos, yn 2026, ac ymhellach i ffwrdd, yn 2066, mewn byd ‘ar ôl y bleidlais’. Mae’r nofela’n cynnig gweledigaeth ddychrynllyd o Gymru’r dyfodol, ac mae’n arbennig o arwyddocaol o gofio datblygiadau gwleidyddol y flwyddyn ddiwethaf.

 

Meddai Llwyd Owen:

“Does dim neges fel y cyfryw, ond mae yna lawer o rybuddion! Yn y flwyddyn 2026, gyda’r byd ar drothwy rhyfel niwclear a Phrydain ôl-Brexit yn prydru â chasineb a hiliaeth beunyddiol, mae’r iaith Gymraeg yn waharddedig a’i siaradwyr yn cael eu gorfodi i gladdu eu hunaniaeth, neu wynebu’r gosb eithaf. Ac yna yn y flwyddyn 2066, deugain mlynedd ar ôl yr holocost niwclear, mae’r anifeiliaid yn dychwelyd, gan ddod â gobaith newydd i fyd llawn tywyllwch. Fy ngobaith yw y bydd y nofela’n brawychu pawb sy’n ei darllen... er bod llygedyn o obaith i’w weld cyn y diwedd hefyd.”

 

Mae’r nofel yn driw i steil arferol Llwyd Owen, sy’n adnabyddus am ei nofelau tywyll. Mae’n cynnwys y lleoliadau dinesig arferol, awdur sy’n llawn hunan-atgasedd, hiwmor tywyll, cyffro a thrais. Ond yn Iaith y Nefoedd, mae hanner y stori yn cael ei hadrodd gan ferch, profiad oedd yn “heriol, ond y mwyaf o hwyl” yn ôl Llwyd.


Mae’r awdur prysur wrthi’n cydweithio â’r artist Siôn Tomos Owen ar ei lyfr cyntaf i blant. Mae ganddo hefyd bodlediad o’r enw Does dim Gair Cymraeg am Random (http://ddgcar.blogspot.com) ble y gellir ei glywed yn trafod y byd a’i bethau gyda phobol eraill, e.e. y comedïwr Elis James, gwefan ei hun (http://llwydowen.blogspot.com) ac mae’n bresenoldeb cryf ar trydar (@Llwyd_Owen).


Credit llun: Carys Huws