Straeon doniol a deifiol teulu'r Cilie

Mae teulu’r Cilie yn adnabyddus yng Nghymru am eu ffraethineb a’u dawn dweud diarhebol. Mae sawl un wedi ennill gwobrau llenyddol o fri mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Mae Jon Meirion Jones, gor-ŵyr i Jeremiah a Mary Jones, oedd yn byw ar fferm Y Cilie ger Llangranog, wedi casglu straeon doniol a deifiol am aelodau teulu enwog. Mae Hiwmor y Cilie yn cynnwys straeon digri a jôcs, yn ogystal ag englynion dychan, penillion smala a chwedlau doniol. Ceir hanesion yn llawn troeon trwstan a dweud crafog am deulu oedd yn enwog am dynnu coes.

 

Meddai Jon Meirion Jones:

“Mae gen i gasgliad go helaeth o atgofion am fy nghyndeidiau, ac mae’n bleser bod wedi cael y cyfle i’w hel ynghyd yn y gyfrol fach hon.”

 

Rhai o nodweddion pennaf aelodau teulu’r Cilie oedd eu ffraethineb, yr hiwmor iach a doniolwch ymadroddi mewn sgwrs lafar, rhyddiaith a barddoniaeth. Rhedai elfennau o hynodrwydd rhamantus a gwreiddiol trwy’r cymeriadau hoffus a rhoddai hyn flas arbennig i’r hiwmor.

 

Cafodd Jeremiah a Mary Jones, y Cilie, 12 o blant – amaethwyr, gofaint, crefftwyr, beirdd, gweinidogion – ond a hwythau wedi eu magu uwchben clogwyni Cwmtydu, roedd hi’n anochel i’r môr ddylanwadu ar eu bywydau. Aeth nifer o’r teulu’n forwyr, yn gapteiniaid, a theithio’r byd, gan ddod yn ôl ac adrodd straeon rhyfeddol ar yr aelwyd.

 

Yn y gyfrol ceir straeon am Isfoel, Simon Bartholmew, Mary Hannah, Fred Jones, Gerallt Jones, John Tydu, Tydfor, i enwi ambell un.