'Mae'r ysgrifen ar y mur!": Cyfrol yn tystio i Gymru'n deffro!
Ymateb y Cymry i’r difrod i’r murlun eiconig ger Llanrhystud yn gynharach eleni fu’r symbyliad i’r awdur Mari Emlyn greu cyfrol ddwyieithog – Cofiwch Dryweryn: Cymru’n Deffro (Y Lolfa).
Meddai’r awdures, Mari Emlyn:
“Mae ein dyled yn fawr i’r criw ifanc aeth ati i ailgodi’r wal ac i ailbeintio’r murlun; pobl nad oedd wedi eu geni pan foddwyd Capel Celyn yn chwedegau’r ganrif ddiwethaf. Efallai i fandaliaid y murlun wneud ffafr â ni wrth i’r deffroad torfol gwladgarol gynyddu fel caseg eira yn sgil eu hanfadwaith. A hyd yn oed pan mae rhai o’r murluniau yma’n cael eu dileu, mae’r Cymry’n dychwelyd yn dawel urddasol i ailbeintio eu teyrngedau.”
Peintiwyd y slogan wreiddiol gan yr awdur toreithiog Dr Meic Stephens, a oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ar y pryd, yn brotest yn erbyn y penderfyniad i foddi Cwm Tryweryn er mwyn darparu dŵr ar gyfer trigolion Lerpwl. Er ei holl gynnyrch llenyddol aruchel, fe daerodd Meic Stephens: ‘Dyma fy natganiad enwocaf, fy ngherdd huotlaf, fy ngweithred boliticaidd bwysicaf.’
Mae’r gyfrol yn rhoi hanes ffenomenon murluniau eleni yng nghyd-destun hanes Capel Celyn gyda chyfraniadau gan dri sydd â’u gwreiddiau o dan ddyfroedd Llyn Celyn: Eurgain Prysor Jones, Gwyn Roberts ac Elwyn Edwards. Adroddir penodau cynnar y stori o’u persbectif personol, yn ogystal â chyfraniad gan Emyr Llewelyn a garcharwyd am flwyddyn am ei ran (gydag Owain Williams a John Albert Jones) i geisio rhwystro adeiladu’r argae yn Chwefror 1963. Ceir hefyd gyfraniad gan y cyflwynydd teledu a radio Huw Stephens, mab awdur y murlun gwreiddiol.
Dilynir hyn gan oriel o luniau a phytiau gan y cyhoedd a fu un ai’n peintio neu’n gwerthfawrogi ymdrechion eraill yn ystod y gwanwyn a’r haf – o Ben-ybont ar Ogwr i Fwlch y Groes, o Langrannog i Lanuwchllyn - a hyd yn oed i Chicago. Blas yn unig a geir o’r cannoedd o furluniau sydd yn parhau i gael eu creu.
Meddai Siôn Jobbins, Cadeirydd Yes Cymru:
“Roedd dymchwel mur Cofiwch Dryweryn yn ymgais i ddymchwel cof a hunaniaeth Cymru fel cenedl. Mae’r llyfr hwn yn dangos na wnawn adael i hynny ddigwydd fyth eto. Mae’n gofnod o’r geiriau heriol, dewr ar waliau Cymru i gofio ein hanes a mynnu dyfodol gwell i’n cenedl.”