Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Effaith Brecsit yn cael ei drafod am y tro cyntaf mewn ffuglen Gymraeg

“Os daeth un peth da o Brexit, y nofel yma ydi hwnnw!” – dyna eiriau Rhys Iorwerth am nofel gyntaf Iwan Rhys, Y Bwrdd (Y Lolfa), a hynny ychydig cyn Hydref 31, sef y dyddiad mae Prydain i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd. Dyma nofel a themâu amserol a chyfoes felly, a’r ffuglen gyntaf yn y Gymraeg i drafod effaith Brecsit ar unigolion a chymunedau.


Mae Y Bwrdd yn nofel fodern sy’n ddarlun dychanol, crafog a brawychus o’n bywyd heddiw. Ymdrinnir â pheryglon Brecsit a rhoir llais i sawl math o bolemeg gymdeithasol gyfredol.


“Mae Brexit wedi bod yn gefndir i’n bywydau ni i gyd dros y blynyddoedd diwethaf, ac i lawer mae’n fygythiad gwirioneddol. Mae’n amhosib peidio â meddwl am y newid sydd o’n blaenau yma yng Nghymru, boed yn sydyn neu’n raddol.”


Yn y rom-com o nofel ddychanol hon, eir ar daith o Gaerdydd i’r Tymbl ac i Valencia, Sbaen. Ceir hanes Carwyn o’r Tymbl sydd wedi hen ddiflasu wrth ei ddesg ym Mwrdd Comisiynu’r Gymraeg yng Nghaerdydd. Llawer gwell fyddai ganddo fod adref yn coginio i’w bartner Laticia a’u merch Alaw Abril.


“Egin y nofel oedd syniad ges i flynyddoedd yn ôl am gymeriad, tebyg i fi ar y pryd, a oedd yn gweld ei swydd ddesg sefydliadol yn ddiflas. Wrth i’r cymeriadau fagu cnawd, roedd y syniadau’n dechrau llifo wedyn am bynciau ro’n i ishe mynd i’r afael â nhw – cartref, teulu, cymuned, ieithoedd a Brexit,” meddai’r awdur Iwan Rhys.


“Roedd yn hawdd ymgolli am oriau yn y golygfeydd a’r cymeriadau. Ro’n i’n arbennig o hoff o’r ffaith bod Carwyn, fel fi, yn mwynhau bwyd da, felly roedd sgwennu am hynny’n hwyl, ac yn esgus da i ymchwilio i ryseitiau ac arbrofi!”


Daeth Y Bwrdd yn agos i’r brig yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith, yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019. Derbyniodd glod mawr gan y tri beirniad: Mererid Hopwood, Aled Islwyn ac Alun Cob. Dywedodd Mererid Hopwood yn ei beirniadaeth:


“Llwydda i gynnal diddordeb o’r dechrau’n deg tan y gair olaf. Mae’r cymeriadau a’r cynllun yn wreiddiol a’r dweud yn sylwgar-ddychanol. Dyma storïwr wrth reddf.”


Disgrifiwyd Iwan Rhys gan Aled Islwyn fel “awdur cyfrwys iawn”, ac meddai Alun Cob ei bod yn “stori gyfoes sydd yn darllen yn hawdd gyda’r ysgrifennu’n raenus a slic.”