Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Newyddion

Achos newydd cyffrous i Dditectif Taliesin MacLeavy

Achos newydd cyffrous i Dditectif Taliesin MacLeavy

Mae’r ditectif Taliesin MacLeavy yn ôl – gydag achos newydd a phartner newydd - mewn dilyniant hir ddisgwyliedig gan yr awdur Alun Davies. Mae Ar Lwybr Dial yn dilyn y nofel hynod boblogaidd Ar Drywydd Llofrudd, ac yr ail mewn trioleg. Fel y cyntaf, mae’r ddirgelwch wedi’i leoli yn ardal Aberystwyth ac mae’r arddull yn adleisio storïau dirgelwch a chyfresi teledi Scandi, sy’n parhau i fod yn boblogaidd ledled y byd.  darllen mwy

Ymchwilydd ifanc yn datgelu cyfrinachau diwydiant mwyn canolbarth Cymru

Ymchwilydd ifanc yn datgelu cyfrinachau diwydiant mwyn canolbarth Cymru

Mae diwydiant glo de Cymru yn adnabyddus ledled y byd, a diwydiant llechi gogledd Cymru yn cael ei gydnabod drwy’r Amgueddfa Lechi, gyda chyhoeddiadau niferus yn adrodd yr hanes. Ond beth am ddiwydiant coll mwyngloddio canolbarth Cymru? Mae Ioan Lord, awdur llyfr dwyieithog O’r Ddaear Fyddar Faith: Mwyn o Ganolbarth Cymru, yn gobeithio dod â hanes a phwysigrwydd y diwydiant a’r gymdeithas i’r amlwg drwy ei ddisgrifiadau coeth a’i luniau newydd sbon o dan ddaear.  darllen mwy

Byddwch yn rhan o lyfr newydd i ddathlu'r twf mewn cefnogaeth i annibyniaeth!
Stori annibyniaeth Croatia'r 90au a'r cymariaethau â Chymru gyfoes yn ysbrydoli nofel
Taclo bwlio, hiliaeth a jiráff sydd ag ofn uchder!

Taclo bwlio, hiliaeth a jiráff sydd ag ofn uchder!

Mae nofel newydd Casia Wiliam, sydd wedi’i hanelu at blant 7 i 11 oed, yn gam i’r cyfeiriad cywir o ran llenyddiaeth Gymraeg yn adlewyrchu Cymru fodern, gynwysiedig. Mae’r nofel yn delio gyda themâu fel bwlio oherwydd bod y prif gymeriad yn hil cymysg. Mae Sw Sara Mai yn dilyn Sara Mai, sy’n 9 oed, wrth iddi geisio deall ei chyfoedion ym Mlwyddyn 5 cystal ag y mae’n deall yr anifeiliaid yn sw ei mam.  darllen mwy

Beti George yn canmol nofel ingol am gariad a dementia
Daw eto haul ar fryn - neges nofel gyntaf Heiddwen Tomos i'r arddegau
Nofel gyda themâu amserol a chyfoes

Nofel gyda themâu amserol a chyfoes

“Cynnil, meistrolgar a chwbl wreiddiol”, dyna eiriau Mererid Hopwood am Wal, nofel i oedolion gan Mari Emlyn a gyhoeddir gan wasg y Lolfa. Mae Wal yn delio â themâu cyfoes ac amserol ac yn gwbl wahanol i unrhyw nofel arall a gyhoeddwyd yn y Gymraeg yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nofel amlhaenog, arbrofol yw hi a fydd yn gwthio ffiniau llenyddol a’r hyn a ystyrir i fod yn llyfrau plant a llyfrau oedolion. Disgrifiwyd hi gan Emyr Lewis yn “sinistr o ddiniwed; anghynnes o agos-atoch; arteithiol o ddarllenadwy”.  darllen mwy

Cyfrol sy'n cynnig gobaith mewn cyfnod tywyll

Cyfrol sy'n cynnig gobaith mewn cyfnod tywyll

Yn rhan o gynllun Darllen yn Well, cyhoeddir cyfieithiad i’r gwerthwr gorau, Reasons to Stay Alive gan yr awdur uchel ei barch a hynod boblogaidd, Matt Haig. Mae Rhesymau Dros Aros yn Fyw yn lyfr teimladwy, doniol a llawen sydd yn ceisio lleihau’r stigma sydd ynghlwm ag iechyd meddwl ac yn ceisio argyhoeddi pobl mai “nid o waelod y cwm y mae’r olygfa orau.”  darllen mwy

Cyhoeddi Tylwyth - drama newydd gan Daf James

Cyhoeddi Tylwyth - drama newydd gan Daf James

Ym mis Mawrth mi fydd y ddrama Tylwyth yn cael ei pherfformio ar hyd a lled Cymru – drama arloesol Daf James sy’n olynydd i’r enwog Llwyth a berfformiwyd ddegawd yn ôl. Mae Tylwyth yn cyd-gynhyrchiad rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman.  darllen mwy

Straeon tywyll am bobl y cyrion gan awdures boblogaidd
Cyhoeddi cyfrol o lythyrau am brofiadau byw gydag iselder

Cyhoeddi cyfrol o lythyrau am brofiadau byw gydag iselder

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r Asiantaeth Darllen (The Reading Agency) a llyfrgelloedd i sicrhau bod y cynllun Darllen yn Well ar gael ar draws Cymru. Fe lansiwyd Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer dementia yn 2018, a llynedd fe lansiwyd Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl. Nod Darllen yn Well ydi i roi cymorth i bawb deall a rheoli eu hiechyd a byw yn dda a rhoi cyngor i deulu a gofalwyr. Mae’r llyfrau i gyd wedi’u cymeradwyo gan weithwyr y maes iechyd. Mae’r Asiantaeth Darllen yn gweithio ar y cyd gyda Chyngor Llyfrau Cymru i sicrhau bod y llyfrau ar y rhestr ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg am y tro cyntaf.  darllen mwy

Gwladgarwr Gwent: Cofio Steffan Lewis

Gwladgarwr Gwent: Cofio Steffan Lewis

Mis Ionawr 2019, bu farw y gwleidydd addawol ifanc o Went, Steffan Lewis. Bron i flwyddyn yn ddiweddarach cyhoeddir y gyfrol Gwladgarwr Gwent / Son of Gwent: Cofio Steffan Lewis, yn Gymraeg a Saesneg, i gofio’r gwleidydd a’r dyn teuluol, gyda chyfraniadau gan deulu a ffrindiau Steffan Lewis, ynghyd â’r gwleidyddion Elin Jones AC, Leanne Wood AC, Carwyn Jones AC ac Adam Price AC ymhlith eraill.  darllen mwy

Straeon doniol a deifiol teulu'r Cilie

Straeon doniol a deifiol teulu'r Cilie

Mae teulu’r Cilie yn adnabyddus yng Nghymru am eu ffraethineb a’u dawn dweud diarhebol. Mae sawl un wedi ennill gwobrau llenyddol o fri mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Mae Jon Meirion Jones, gor-ŵyr i Jeremiah a Mary Jones, oedd yn byw ar fferm Y Cilie ger Llangranog, wedi casglu straeon doniol a deifiol am aelodau teulu enwog. Mae Hiwmor y Cilie yn cynnwys straeon digri a jôcs, yn ogystal ag englynion dychan, penillion smala a chwedlau doniol. Ceir hanesion yn llawn troeon trwstan a dweud crafog am deulu oedd yn enwog am dynnu coes.  darllen mwy

O alwadau Meibion Glyndwr i alcoholiaeth: perygl a sbri 'oes aur' newyddiaduriaeth

O alwadau Meibion Glyndwr i alcoholiaeth: perygl a sbri 'oes aur' newyddiaduriaeth

Mae’r newyddiadurwr Alun Lenny yn hel atgofion am rai o straeon mawr ‘oes aur’ newyddiaduriaeth, sef yr oes ar drothwy symud o ffilm i’r oes ddigidol, yn ei hunangofiant newydd Byw Ffwl Pelt. Mae’r gyfrol ddifyr yn sôn am y rhuthr dyddiol byd casglu newyddion: y peryglon a’r sbri, y dwys a’r digri, a’r effaith niweidiol gafodd blynyddoedd o brysurdeb wrth gyflawni ‘y wyrth fach ddyddiol’ o fachu stori i’w darlledu i’r genedl ar y gohebydd talentog hwn.  darllen mwy

Degfed nofel Gymraeg Llwyd Owen - arloesi gyda'r Ods
Llyfr newydd am adar wedi ei ysgrifennu gan ferch 10 oed

Llyfr newydd am adar wedi ei ysgrifennu gan ferch 10 oed

Ym mlwyddyn 6 Ysgol Treganna mae Onwy Gower yn ddisgybl, ond eleni mi fydd hi’n cyhoeddi ei llyfr cyntaf – efallai’r person ifancaf erioed i ysgrifennu llyfr Cymraeg. Roedd Onwy yn gweld bwlch o ran llyfrau natur i blant, ac felly mi aeth ati i ysgrifennu llyfr ei hun sy’n cynnwys ffeithiau a darluniau o adar.  darllen mwy

Penllaw degawdau o waith ymchwil

Penllaw degawdau o waith ymchwil

Penllanw degawdau o waith ymchwil i hanes unigryw Cymry Lerpwl a glannau Merswy yw Hanes Rhyfeddol Cymry Lerpwl gan D. Ben Rees. Dyma gyfrol swmpus, yn cynnwys lluniau, sy’n gofnod pwysig gan un o awduron amlycaf y ddinas ac sy’n adnabyddus drwy Gymru gyfan.  darllen mwy

Caredigrwydd tuag at bawb - neges llyfr newydd Manon Steffan Ros

Caredigrwydd tuag at bawb - neges llyfr newydd Manon Steffan Ros

Mae llyfr newydd Cymraeg ar gyfer plant yn cario neges gref am ddangos caredigrwydd ac i beidio beirniadu pobl sydd yn wahanol. Mae Pobol Drws Nesaf gan yr awdures boblogaidd Manon Steffan Ros yn gyfuniad o stori annwyl yr awdures a lluniau lliwgar yr arlunydd a’r dylunydd Jac Jones, sydd wedi dod â’r testun yn fyw i’r darllenwyr ifanc.  darllen mwy

Cofnodi taith liwgar a chythryblus Dafydd Roberts mewn llyfr

Cofnodi taith liwgar a chythryblus Dafydd Roberts mewn llyfr

Mae’r cerddor a dyn busnes Dafydd Roberts wedi bod i bedwar ban byd, gan ymweld â gwledydd o bob math a chael profiadau rhyfeddol a sawl tro trwstan, fel y tystia ei hunangofiant Ar Daith a gyhoeddir gan wasg Y Lolfa yr wythnos hon. Mae’r gyfrol hefyd yn sôn am ei yrfa gyda chwmni recordiau Sain, sy’n dathlu 50 mlynedd ers ei sefydlu eleni, ac yn ei lyfr mae Dafydd Roberts yn mynegi’n onest iawn ei bryder am ddyfodol y diwydiant cyhoeddi cerddoriaeth yng Nghymru.  darllen mwy

161-180 o 339 1 . . . 8 9 10 . . . 17
Cyntaf < > Olaf