Newyddion
Nofel sy'n herio'r bondigrybwyll Bond i grybwyll yr oes newydd
Yr wythnos hon cyhoeddir nofel antur gyfoes gan yr awdur poblogaidd Daniel Davies. Mae Pedwaredd Rheol Anhrefn yn ddilyniant hirddisgwyliedig i Tair Rheol Anhrefn, a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro yn 2011, ac yn trafod rhai o ddilemas mawr defnyddio technoleg newydd wrth warchod a diogelu. darllen mwy
Drygioni Nel yn ôl, â thair stori arall!
Ar ôl prysurdeb a chyffro 12 mis diwethaf, gyda chwmni Arad Goch yn teithio sioe theatr Na, Nel! o gwmpas Cymru i dros 17 o leoliadau yn ystod haf 2018, cyhoeddi llyfr creu i danio’r dychymyg, a llyfr stori i ddathlu Diwrnod y Llyfr – y llyfr cyntaf yn y Gymraeg, mae Nel ’nôl! Mae Na, Nel! Help! (Y Lolfa) yn ein cyflwyno i dair stori arall am y ferch annwyl ond direidus! darllen mwy
Prif lenor yn cyffroi am nofel 'gyffrous, mentrus a chwbl unigryw' i'r arddegau
Disgrifiodd Manon Steffan Ros, awdures Llyfr Glas Nebo, nofel gyntaf Cynan Llwyd, fe un “rymus, ddinesig a wnaeth i mi ddal f’anadl o’r dechrau i’r diwedd.” darllen mwy
Llyfr i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ferched Cymreig
Yr wythnos hon cyhoeddir Genod Gwych a Merched Medrus (Y Lolfa) gan Medi Jones-Jackson. Mae’r llyfr yn dilyn llwyddiant llyfrau Saesneg fel Rebel Girls ond dyma lyfr gwreiddiol sy’n cofnodi hanes 12 o ferched ysbrydoledig o Gymru ac mae’n ‘gyflwyniad perffaith i rai o ferched blaenllaw Cymru a wnaeth anelu’n uchel, cyrraedd y brig a newid siâp ein cenedl.’ darllen mwy
Storiau newydd gan gantores enwog yn cyflwyno dywediadau Cymraeg i blant
Yr wythnos hon cyhoeddir llyfr cyntaf y gantores boblogaidd, Gwawr Edwards. Mae Mali: Storïau am gi bach ar y fferm (Y Lolfa) yn cynnwys pedair stori – un stori i bob tymor ac felly cawn ddilyn y tymhorau trwy galendr y byd amaethyddol drwy lygaid sbaniel King Charles bach a’i ffrindiau. darllen mwy
Llew o gyfres Cyw yn cael ei lyfr ei hun!
Mae Llew a’r Dant Coll, sef y llyfr nesaf yng nghyfres poblogaidd Cyw gan Anni Llŷn, yn dilyn un o ffrindiau gorau Cyw, wrth iddo golli dant ac aros yn eiddgar am y dylwythen deg. darllen mwy
Cofio '69: Gwrthdaro rhwng plismyn y llywodraeth a Chymry Cymraeg
Ar y 1af o Orffennaf eleni, fe fydd hi’n 50 mlynedd ers i Charles Philip Arthur George gael ei urddo yn Dywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon yn 1969. Mae Dim Croeso ’69 – Gwrthsefyll yr Arwisgo (Y Lolfa) gan Arwel Vittle yn egluro sut beth oedd bod ym merw pethau ar y pryd, wrth iddo gyfuno’r hanes gyda sylwadau llygaid-dystion a straeon na welwyd mewn print o’r blaen. darllen mwy
Tensiynau a chasineb yng ngwleidyddiaeth Cymru'r 60au a 70au
Os oes dau gymeriad sy’n crisialu pegynau tanllyd y cyfnod, y ddau yw’r Aelodau Seneddol Gwynoro Jones a Gwynfor Evans. Mae stori Gwynfor Evans, Plaid Cymru wedi’i adrodd dro ar ôl tro ond nid oes lawer o sylw wedi’i roi i’w gyd-Aelod Seneddol Gwynoro Jones. Yn Gwynoro a Gwynfor a gyhoeddwyd gan Y Lolfa, ceir ochr Gwynoro o hanes un o’r cyfnodau mwyaf diddorol yn hanes gwleidyddol yr ugeinfed ganrif yng Nghymru. darllen mwy
'Escape Room' yn ysbrydoli nofel i'r arddegau gan Anni Llŷn
Yr wythnos hon cyhoeddir nofel newydd gan Anni Llŷn i’r arddegau cynnar, sef Asiant A: Her LL. Mae’r nofel am Alys Phillips, sy’n 14 oed ac yn ysbïwraig ar dasgau cudd. Mae Anni Llŷn erbyn hyn wedi ysgrifennu nifer o nofelau i’r arddegau ac yn datblygu fel awdures boblogaidd i blant o bob oedran, yn ogystal â’i gwaith fel bardd a chyflwynydd teledu. darllen mwy
Aberth aelod teulu yn y Rhyfel Mawr yn egin nofel newydd
Roedd 2018 yn nodi canrif ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe nodwyd yr achlysur drwy gofio am y rhai aberthodd eu bywydau yn ystod y brwydro. I’r awdur poblogaidd arobryn Geraint V. Jones dyma oedd egin syniad am stori, a ffrwyth ei lafur ydi’i nofel newydd Elena, a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan Y Lolfa. darllen mwy
Nofel newydd yn cael ei chyflwyno i deulu o Ynys Môn am 'ddal eu tir'
Fe gyflwynwyd nofel newydd Cefin Roberts, Os Na Ddôn Nhw... (Y Lolfa) i deulu Caerdegog, Ynys Môn ‘am ddal eu tir’. Meddai Cefin Roberts “Mae’r tylwyth wedi bod yn ffermio yn y rhan yma o Ynys Môn ers canrifoedd maith ac mae unrhyw un sy’n sefyll dros hawliau ac etifeddiaeth yn uchel iawn yn fy llyfrau i.” darllen mwy
Triolegau i oedolion ifanc yn ateb y galw am ddeunydd gwreiddiol a ffres
Gyda chonsensws bod diffyg darpariaeth o ran nofelau i oedolion ifanc yn Gymraeg, mae’r Lolfa ar fin cyhoeddi'r olaf yn nhriolegau’r awduron poblogaidd a phrofiadol Bethan Gwanas a Lleucu Roberts. darllen mwy
Drama heriol newydd ar gyfer Lefel A
Mae Hwb yn ddrama wreiddiol gyfoes i bobl ifanc gan Rhian Staples, athrawes brofiadol â llwyddiant arbennig mewn canlyniadau arholiadau Drama Lefel A ac enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2011. Fe’i chyhoeddir gan Y Lolfa ac fe ariannir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’i rhaglen gomisiynu adnoddau addysgu a dysgu Cymraeg a dwyieithog. Bydd yna pecyn adnoddau yn cyd-fynd â’r ddrama, gyda gweithgareddau perthnasol i helpu athrawon ac i herio myfyrwyr. darllen mwy
Newyddion ffug ac athroniaeth 'stand up'
Gyda newyddion ffug yn cael ei drafod ym mhob cyfrwng a phob iaith ar hyn o bryd, mae llyfr Cymraeg newydd a gyhoeddir gan wasg Y Lolfa yn trafod y pwnc, mewn erthygl gan yr Athro Steven Edwards, gynt o Brifysgol Abertawe. darllen mwy
Cyfle i ysbrydoli merched bach Cymru drwy gael eu henwau mewn llyfr newydd cyffrous!
Mae awdur newydd yn chwilio am enwau genethod gwych a merched medrus fel rhan o’i phrosiect newydd. Mae Medi Jones-Jackson, sy’n byw yn Bow Street ger Aberystwyth, wedi gweithio ym myd llyfrau plant ac wedi rheoli prosiectau hyrwyddo darllen. darllen mwy
Deian a Loli - y sêr yn disgleirio ar gyfer y Nadolig
Mae Deian a Loli wedi mynd i ysbryd y Nadolig gyda llyfr newydd am ddeffro’r sêr - sy’n cael ei gyhoeddi gan Y Lolfa. Yn Deian a Loli a’r Sêr sy’n Cysgu mae’r efeilliaid direidus yn cael trafferth cysgu, ac wrth edrych allan drwy’r ffenestr tra’n cael gwledd ganol nos, maen nhw’n sylwi bod y sêr wedi diflannu! Maent yn defnyddio’u pwerau hudol ac yn mynd ar daith i grombil y nos ddu i ddatrys y dirgelwch gan weld rhyfeddodau’r gofod ar y ffordd. darllen mwy
Boc - y Where's Wally? Cymraeg cyntaf, nawr mewn llyfr
Yn dilyn ei llwyddiant yng nghylchgrawn Mellten, mae Boc y ddraig fach goch yn cael llyfr cyfan iddo’i hun y Nadolig yma! Dyma’r llyfr cyntaf o’i fath yn y Gymraeg, sy’n annog pob draig-dditectif mawr a bach i chwilio am wahanol eitemau sy’n cuddio yn y lluniau. darllen mwy
Cyhoeddi'r llyfr Cymraeg cyntaf am y Tour de France
Yr wythnos hon cyhoeddir y llyfr Cymraeg cyntaf am y Tour de France gan Llion Iwan – Geraint Y Cymro a’r Tour de France (Y Lolfa). Mae’r llyfr yn olrhain hanes rhyfeddol buddugoliaeth Geraint gan ddilyn ei gamp yn ogystal â dilyn taith darlledu’r Tour yn y Gymraeg ers 2013 gan y person wnaeth sicrhau’r hawliau hynny, Llion Iwan. darllen mwy
Cyhoeddi'r nofel Gymraeg fwyaf erioed - epig am hanes Cymry America
Yr wythnos hon cyhoeddir un o nofelau mwyaf uchelgeisiol yn y Gymraeg erioed, wedi ei ysgrifennu gan yr awdur arobryn Jerry Hunter a’i chyhoeddi gan wasg Y Lolfa. Mae Ynys Fadog yn epig hanesyddol gyffrous a darllenadwy sy'n darlunio hynt cymuned Gymreig yn America ac yn cynnwys bron i chwarter miliwn o eiriau, ac yn cael ei chyhoeddi ddau gan mlynedd ers i’r ymfudwyr Cymreig cyntaf gyrraedd Ohio. darllen mwy
Cyfrol sy'n ddathliad o bêl-droed yng Nghymru
Ddwy flynedd ers llwyddiant dynion Cymru yn Ewro 2016, mae’r cyffro’n parhau gyda rheolwr newydd wrth y llyw, enwau chwaraewyr newydd ar wefusau’r cefnogwyr a’r record am y nifer o gapiau i dîm dynion Cymru newydd gael ei thorri gan Chris Gunter. Cawsom ein hysbrydoli gan lwyddiant tîm merched Cymru dan reolwraig newydd, ac mae ein clybiau mawr a bach yn bwysig i ni. Yn destament i’r cyffro hwnnw, cyhoeddir llyfr dwyieithog newydd gan Gwynfor Jones, Pêl-droed Cymru – o Ddydd i Ddydd. darllen mwy
201-220 o 338 | 1 . . . 10 11 12 . . . 17 | |
Cyntaf < > Olaf |