Newyddion
Galw am ddiwygio Cristnogaeth er mwyn ei wneud yn berthnasol ar gyfer yr 21fed ganrif
Mae llai a llai o Gymry yn datgan eu bod nhw’n grefyddol erbyn heddiw, a llai fyth yn mynychu addoldy yn rheolaidd. Gweler nifer fawr o gapeli yn cau ac yn troi’n adfeilion neu’n cael eu troi yn ail-gartrefi ledled y wlad. Oes yna le i Gristnogaeth yn ein bywydau yn yr 21ain ganrif? darllen mwy
Dwy nofel newydd i ddysgwyr gan awduron penigamp
Yn sgil poblogrwydd ysgubol Cyfres Amdani – cyfres o lyfrau wedi eu datblygu’n arbennig ar gyfer dysgwyr – mae’r Lolfa yn falch iawn i gyhoeddi dau deitl newydd sbon gan ddau diwtor Cymraeg profiadol sydd hefyd yn awduron penigamp: Gorau Glas gan Lois Arnold (Lefel Mynediad) a Rob gan Mared Lewis (Lefel Uwch). darllen mwy
Ail lyfr am ferched Cymru i ysbrydoli plant
Yr wythnos hon cyhoeddir Genod Gwych a Merched Medrus 2 gan Medi Jones-Jackson. Mae’r ail lyfr yn dilyn llwyddiant ysgubol y cyntaf, a gyhoeddwyd yn 2019 ac a gyrhaeddodd restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2020 yn ogystal â rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2020. darllen mwy
Antur ioga a dysgu plant i warchod y ddaear
Yr wythnos yma cyhoeddir antur ioga newydd sbon i blant – Y Wariar Bach (Y Lolfa). Dyma’r ail yn y gyfres o lyfrau gan yr actores a’r athrawes ioga Leisa Mererid, yn dilyn llwyddiant Y Goeden Ioga yn 2019. Mae Y Wariar Bach yn dysgu plant am anifeiliaid prin a phwysigrwydd gwarchod y ddaear. darllen mwy
Luned a Huw Aaron yn cydweithio ar lyfr doniol i blant a rhieni
Yr wythnos yma cyhoeddir llyfr doniol a hwyliog sy’n codi nifer o gwestiynau gan fachgen bach direidus am annhegwch bod yn blentyn. Mae Pam? (£4.99, Y Lolfa) yn brosiect ar y cyd gan yr arlunydd Huw Aaron a’i wraig Luned. darllen mwy
Dathlu enwau lleoedd Cymru ac anrhydeddu'r Athro Gwynedd O Pierce yn 100 oed
Cyhoeddir yr wythnos hon gasgliad o 20 erthygl safonol ar enwau lleoedd gan arbenigwyr o Gymru a thu hwnt, wedi eu dwyn ynghyd gan Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru (£14.99, Y Lolfa) er mwyn dathlu pen-blwydd yr Athro Gwynedd O. Pierce yn 100 oed. darllen mwy
Casgliad i godi calon gan yr Eisteddfod Genedlaethol
Ar ôl blwyddyn a mwy anodd, gyda phawb yn delio â heriau newydd ac yn dod i arfer â threfn newydd i fywyd, yr haf hwn cyhoeddir cyfrol newydd sydd yn cwmpasu llesiant corfforol a meddyliol. Bydd Haf o Hyder yn cynnwys saith stori newydd a saith darn o farddoniaeth neu gân gan awduron amrywiol o Gymru. Mae’r casgliad wedi’i greu ar y cyd rhwng Y Lolfa a’r Eisteddfod Genedlaethol, ac mewn cydweithrediad â chwmni adnoddau digidol 4Pi Productions. darllen mwy
Antur newydd gan enillydd Llyfr y Flwyddyn
Efallai na fyddwch chi’n gallu mynd ar wyliau i wlad boeth eleni oherwydd Cofid, ond mae’r awdur Ifan Morgan Jones wedi darparu’r ddihangfa berffaith – nofel Gymraeg wedi ei lleoli ar ynys drofannol ar ochr arall y byd. darllen mwy
Cyfres o nofelau gonest, ffres, llawn cariad, sy'n grymuso lleisiau cwbl newydd mewn llenyddiaeth Gymraeg" - Manon Steffan Ros
Cyfres newydd, y cyntaf o’i fath yn yr iaith Gymraeg, gan awduron a chyd-awduron ifanc wedi'u cyhoeddi gan Y Lolfa yn lansio 26 Gorffennaf 2021. Dyma gyfres o bum nofel onest, pwerus a di-flewyn-ar-dafod gan rai o’n awduron ifanc mwyaf blaengar – Megan Angharad Hunter, Mared Roberts, Elgan Rhys, Iestyn Tyne a Marged Elen Wiliam, gyda Manon Steffan Ros yn ysgrifennu prolog i bob nofel ac yn fentor creadigol ar y gyfres. Mae Y Pump yn brosiect uchelgeisiol, sy’n cyfuno gwaith gwreiddiol pum sgwennwr cyffrous (a phob un ond un yn sgwennu eu nofel gyntaf) gyda barn, cyngor a brwdfrydedd grŵp amrywiol o bump cyd-awdur ifanc gafodd eu dethol o al-wad agored genedlaethol i ddarganfod lleisiau’r genhedlaeth nesaf o sgwennwyr Cymraeg. darllen mwy
"Darllen hanfodol ar gyfer heddiw" - nofel amserol am hiliaeth a chaethwasiaeth
Mae Safana gan Jerry Hunter yn nofel gyffrous ac amserol ac yn “ddarllen hanfodol ar gyfer heddiw” yn ôl Gareth Evans-Jones, sy’n awdur, yn feirniad ac yn ysgolhaig sy’n astudio caethwasiaeth. Meddai hefyd fod y nofel yn un “eithriadol rymus ac amserol. Ceir yma ymdriniaeth gelfydd ag agweddau amrywiol megis hanes ac anhanes, caethwasiaeth a rhyddid, a pherthynas yr unigolyn â’i gymdeithas.” darllen mwy
Yr Ewros ac Aaron Ramsey yn ysbrydoli Manon Steffan Ros
Gyda’r Ewros ar fin dechrau mae’r awdures arobryn Manon Steffan Ros yn cyhoeddi nofel newydd gyda phêl-droed yn ganolog iddi. Dyma’r ail nofel iddi ysgrifennu am y bêl gron yn dilyn llwyddiant Fi a Joe Allen. Y tro hwn Aaron Ramsey sy’n cael y lle canolog, ac mae’r awdures sydd wrth ei bodd â phêl-droed yn awchu i’r Ewros ddechrau. darllen mwy
Ysgol yn dathlu diwrnod rhyngwladol y gwenyn am y tro cyntaf!
Ar 20 Mai mae’n Ddiwrnod Rhyngwladol y Gwenyn, sef diwrnod i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd gwenyn i’n hamgylchfyd, sicrwydd bwyd, a ffermio cynaliadwy. Eleni am y tro cyntaf mae Ysgol Y Fenni yn dathlu’r diwrnod! darllen mwy
Gorfoledd a thor-calon pêl-droediwr proffesiynol yng nghyfnod Cenhedlaeth Aur Manchester United
Llyfr newydd Rhodri Jones yn datgelu sut beth oedd rhannu stafell newid gyda Mawrion Man-U a bod mewn partïon gyda’r Beckham, Yorke a Giggs... darllen mwy
'The Queen's Gambit', achubiaeth drwy wyddbwyll a mwy!
Wedi’u hysbrydoli gan y gyfres fer poblogaidd tu hwnt ar Netflix, The Queen’s Gambit, mae miliynau o bobl nawr yn ymddiddori mewn gwyddbwyll. Mae poblogrwydd y gêm, a chwaraewyd gyntaf tua 1,500 o flynyddoedd yn ôl, wedi datblygu yn ystod y cyfnodau clo, gyda gwyddbwyll yn gêm hawdd i’w dysgu, er yn anodd i’w meistroli’n iawn. Yr wythnos hon cyhoeddir Gan Bwyll a Gwyddbwyll (Y Lolfa), addasiad o nofel hynod boblogaidd yn y Saesneg (Check Mates gan Stewart Foster) sy’n dilyn stori bachgen wrth iddo ddysgu am fywyd drwy chwarae gwyddbwyll. Addaswyd y nofel gan yr awdur poblogaidd Bethan Gwanas. darllen mwy
Y môr, amaethyddiaeth a mwyngloddio – hanes gogledd Ceredigion drwy gofnodion un teulu
Mae llyfr newydd a gyhoeddir gan y Lolfa, Land of Lead, yn olrhain stori ac atgofion pedair cenhedlaeth o’r un teulu, o’r 19eg ganrif i ganol y 1960au. Mae’r hanes wedi’i gasglu o gofnodion manwl y teulu, gan gynnwys llyfr nodiadau, cardiau post a anfonwyd adre yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a nodiadau a wnaed gan hen ewythr wrth iddo weithio ar reilffordd gul Dyffryn Rheidol. Mae’r llun yma o un teulu o ogledd Ceredigion wedi’i gyflwyno gan un o’r disgynyddion, Brian Davies, sy’n wreiddiol o Benrhyncoch, ger Aberystwyth. darllen mwy
Awdur newydd yn cyhoeddi 'Harry Potter Cymraeg'
Mae awdur newydd, Simon Rodway, wedi ceisio mynd ati i greu yr ‘Harry Potter Cymraeg’ wrth gyhoeddi ei nofel gyntaf i blant, Cadi Goch a’r Ysgol Swynion. darllen mwy
Nofel am orbryder i blant 'Ddarllen yn Well'
Yn ôl y Sefydliad Iechyd Meddwl mae un plentyn a pherson ifanc ym mhob deg yn dioddef o broblemau iechyd meddwl, gan gynnwys iselder a gofid, yn sgil rhywbeth sy’n digwydd yn eu bywydau. Mewn ymateb i hyn mae nofel newydd i blant rhwng 9 a 12 oed yn cael ei gyhoeddi gan Y Lolfa i roi sylw i orbryder. Mae Angylion Pryder (Y Lolfa) yn addasiad gan Meinir Wyn Edwards o’r nofel Saesneg Worry Angels gan Sita Brahmachari. darllen mwy
Adleisiau Pengwern a'r oesoedd a fu yn ysbrydoli nofel ddirgelwch
Yr wythnos hon cyhoeddir nofel newydd gan yr awdur o Dre Taliesin, Martin Davis. Mae Ysbryd Sabrina (Y Lolfa) yn stori ddirgelwch sy’n gweu diflaniad bachgen ifanc gyda hen hanes a chwedl. Lleolir y nofel ar lannau afon Hafren, afon y dduwies Sabrina, lle mae adleisiau Pengwern yr oesoedd a fu a theithi ysgeler y byd cyfoes yn dod ynghyd. darllen mwy
Awdur llwyddiannus yn ysgrifennu ei lyfr Cymraeg cyntaf i blant
Mae’r awdur Huw Davies sydd wedi cyrraedd rhestr fer gwobr llenyddol Saesneg wedi troi i ysgrifennu yn Gymraeg, gan gydweithio gyda’r arlunwraig Lowri Roberts, sy’n adnabyddus fel ‘Hen Fenyw Fach’ ac wedi cael llwyddiant yn gwneud darluniau o bob math. darllen mwy
Apêl am fwy o enwau genod gwych Cymru ar gyfer ail gyfrol!
Mae’r awdures Medi Jones-Jackson yn gwneud apêl am fwy o enwau merched i’w cynnwys o fewn cloriau ei llyfr newydd, yr ail Genod Gwych a Merched Medrus a fydd allan yn haf 2021. darllen mwy
121-140 o 350 | 1 . . . 6 7 8 . . . 18 | |
Cyntaf < > Olaf |