Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Apêl am fwy o enwau genod gwych Cymru ar gyfer ail gyfrol!

Mae’r awdures Medi Jones-Jackson yn gwneud apêl am fwy o enwau merched i’w cynnwys o fewn cloriau ei llyfr newydd, yr ail Genod Gwych a Merched Medrus  a fydd allan yn haf 2021.

Meddai Medi Jones-Jackson:

“Rwyf wrth fy modd bod y llyfr cyntaf wedi bod mor boblogaidd. Ysgrifennais y gyfrol oherwydd wrth i mi ddarllen stori cyn gwely i fy merch Anest, sylweddolais fod yna fwlch yn y farchnad. Doedd ’na ddim llyfr tebyg yn dathlu llwyddiannau merched Cymraeg. Hoffwn i’r ail gyfrol gynnig ysbrydoliaeth hyd yn oed ehangach i ferched bach Cymru.”

 

Cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf yn haf 2019 ac mae wedi bod yn boblogaidd tu hwnt – cyrhaeddodd rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og 2020 a rhestr fer categori Plant a Phobol Ifanc Llyfr y Flwyddyn 2020, ac ar hyn o bryd mae’n barod am  drydydd argraffiad, a hyn llai na dwy flynedd ar ôl cyhoeddi’r gyfrol yn wreiddiol. Bydd yr ail gyfrol yn cynnwys 12 o fenywod gwych Cymru, gan gynnwys Cranogwen, Shirley Bassey a Mary Quant. 

Fel rhan o’r llyfr bydd enwau merched medrus a genethod gwych Cymru yn ymddangos yn batrwm ar y cloriau mewnol, ac mae’r awdures yn gofyn i bobl anfon enwau ati.

Meddai Medi:

“Bydd yr ail gyfrol yn cael ei chyhoeddi ym mis Gorffennaf, ac rwy’n awyddus i roi’r cyfle i ferched bach Cymru berchnogi’r llyfr yma eto drwy gael eu henwau wedi eu hargraffu yn y gyfrol!”

Os ydych chi’n adnabod geneth wych neu ferch fedrus rhwng 5 a 10 oed, ac os hoffech chi weld ei henw mewn print yn y llyfr cyffrous, llawn lliw, cysylltwch yn uniongyrchol â Medi drwy e-bostio [email protected] cyn 19eg o Ebrill 2021, gan nodi enw llawn y ferch. Mae lle i nifer cyfyngedig, felly’r cyntaf i’r felin!

Dyma gyfrol i ysbrydoli ac i addysgu merched bach Cymru heddiw. Byddwch yn rhan ohoni!