Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Ysgol yn dathlu diwrnod rhyngwladol y gwenyn am y tro cyntaf!

Ar 20 Mai mae’n Ddiwrnod Rhyngwladol y Gwenyn, sef diwrnod i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd gwenyn i’n hamgylchfyd, sicrwydd bwyd, a ffermio cynaliadwy. Eleni am y tro cyntaf mae Ysgol Y Fenni yn dathlu’r diwrnod! 

Fel rhan o’r dathliadau bydd holl yr blant a’r staff yn mynychu’r ysgol wedi’u gwisgo naill ai fel gwenyn neu fel blodau, a phob dosbarth yn cymryd rhan mewn diwrnod llawn gweithgareddau sy’n ymwneud â helpu disgyblion i ddeall pa mor wych ydy gwenyn a beth sydd angen ei wneud i helpu sicrhau eu dyfodol.
Mae niferoedd gwenyn wedi gostwng dros y byd yn ddiweddar, gan greu’r hyn a elwir yn ‘argyfwng peillwyr’.
Meddai Carys Haf Glyn, sy’n athrawes yn Ysgol Y Fenni ac yn awdures Criw’r Coed a’r Gwenyn Coll (Y Lolfa): 

“Rwy’n gobeithio bydd diwrnod cyfan o ddysgu am wenyn yn gwneud i’r plant sylweddoli eu bod nhw’n gallu gwneud gwahaniaeth MAWR i ddyfodol y blaned drwy wneud y pethau bach. Mae pwysigrwydd gwenyn yn achos sy’n agos at fy nghalon i ac i ddarlunydd y gyfrol, Ruth Jên. Un o’r rhesymau dros ysgrifennu Criw’r Coed a’r Gwenyn Coll oedd i danio’r drafodaeth am sut gall blant gyfrannu at edrych ar ôl y blaned a'u hannog i edrych yn agosach ar yr hyn sydd yn digwydd yn y parc neu eu gerddi.”

Hefyd, fel rhan o’r diwrnod, gyda chaniatâd Ruth Jên, bydd yr ysgol yn creu murlun ar wal flaen yr ysgol, a fydd yn efelychu ei llun ‘Cofiwch y Gwenyn’ ar ddiwedd y llyfr.

"Mae bodolaeth gwenyn yn hanfodol i ddatblygiad iach ein plant ni a'r byd o'n cwmpas. Rydyn ni’n edrych ymlaen i'w dathlu ar Ddiwrnod y Gwenyn," meddai Sarah Oliver, Pennaeth Ysgol Gymraeg Y Fenni. 

Bydd yr ysgol wedyn yn rhannu lluniau o’r diwrnod a’r gweithgareddau ar y cyfryngau cymdeithasol gan ledaenu’r neges am bwysigrwydd gwenyn ymhellach fyth.