Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Luned a Huw Aaron yn cydweithio ar lyfr doniol i blant a rhieni

Yr wythnos yma cyhoeddir llyfr doniol a hwyliog sy’n codi nifer o gwestiynau gan fachgen bach direidus am annhegwch bod yn blentyn. Mae Pam? (£4.99, Y Lolfa) yn brosiect ar y cyd gan yr arlunydd Huw Aaron a’i wraig Luned.

Meddai Luned Aaron:

“Ein bwriad wrth greu’r llyfr oedd ceisio adlewyrchu, mewn ffordd ddoniol, rhai o rwystredigaethau a chwynion plentyn am y byd. Dyna geisio dal llais plentyn bach direidus, ar ffurf odl, a cheisio dychmygu rhai o’r pethau fyddai o eisiau eu gwneud, o bosib, heb reolau rhieni i’w atal. Mae’n gyfrol i rieni i’w mwynhau yn ogystal â phlant, gobeithio.”

Mae’r cwestiwn ‘pam?’ yn fythol ac yn gyfarwydd iawn i rieni ledled y byd. Mae’r llyfr yn cynnwys cwynion modern megis pam mai dim ond dwy awr o amser sgrin a ganiateir, i rai mwy drygionus, fel pam nad oes hawl cuddio trychfilod lawr ffrog ei chwaer. Dyma gwestiynau y bydd plant Cymru yn gallu uniaethu â nhw ynglŷn ag annhegwch byd y plentyn.

Wrth siarad am gyd-weithio gyda’i gŵr, meddai Luned:

“Braf oedd gweithio ar brosiect heb orfod dibynnu ar gyfarfodydd zoom! A chyda’r cyfnod clo yn effeithio arnon ni gyd, roedd cydweithio ar yr adeg yma yn gwbl naturiol.”

Mae’r cyfuniad o eirfa syml ar ffurf mydr ac odl Luned a delweddau lliwgar, doniol ac egnïol Huw yn cyfleu ymdeimlad yr holi. Wrth i’r gyfrol fynd rhagddi, bydd y cwestiynau chwareus a gaiff eu rhestru yn mynd yn fwyfwy dros ben llestri wrth i’r bachgen leisio ei rwystredigaethau.