Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Gorfoledd a thor-calon pêl-droediwr proffesiynol yng nghyfnod Cenhedlaeth Aur Manchester United

Mewn llyfr newydd o’r enw Meddwl am Man U mae’r cyn-beldroediwr Rhodri Jones yn datgelu hanesion rhyfeddol am gyrraedd yr uchelfannau yn sgil cael ei arwyddo gan un o glybiau mwya’r byd ynghyd â’r gwaelodion tywyll. 

Dechreuodd Rhodri ei yrfa fel pêl-droediwr proffesiynol ifanc yn Manchester United rhwng 1996 a 2000, yn ystod un o’r cyfnodau mwyaf llwyddiannus yn hanes y clwb. Yn y gyfrol, trafodir y pwysau a roddwyd ar chwaraewyr ifanc a’r ymroddiad a’r ddisgyblaeth oedd yn ddisgwyliedig mewn ymarferion hyfforddi, gemau, twrnameintiau a hyd yn oed oddi ar y cae. Sonnir hefyd am rai o sêr y byd pêl-droed ar y pryd – Giggs, Scholes, Beckham, Roy Keane, Teddy Sheringham ac Alex Ferguson. Yn llifo drwy’r cwbl, mae stori bersonol Rhodri oedd ar dân eisiau chwarae yn nhîm cyntaf Man U, y tîm a gefnogodd ers pan oedd yn blentyn, a’r rhwystrau a wynebodd wrth geisio cyflawni hynny. 

Yn y gyfrol, mae Rhodri’n siarad yn onest am yr heriau corfforol a meddyliol y mae wedi eu hwynebu. Sonia hefyd am y siwrne y mae wedi bod arni i ddeall sut mae’r meddwl yn gweithio a sut y mae wedi mynd ati i ddatblygu ei ffitrwydd seicolegol. 

Dywedodd Rhodri am y broses o sgwennu’r gyfrol: ‘Yn 2019 bu farw’r sgowt oedd yn gyfrifol am roi’r cyfle i mi yn Manchester United. Yn yr angladd, gwelais rai o fy nghyn-hyfforddwyr a ddylanwadodd ar fy ngyrfa, gan gynnwys Syr Alex Ferguson, rheolwr tîm cyntaf y clwb tra ro’n i yno. Daeth yr atgofion i’r wyneb eto wrth weld yr holl wynebau cyfarwydd. Gadawais yr angladd gyda chymysgedd o deimladau – euogrwydd am fethu gwobrwyo’r ffydd ddangosodd y sgowt ynof i, ond hefyd gyda hedyn y syniad o ysgrifennu llyfr wedi ei blannu yn fy mhen. Mae’r broses o ysgrifennu’r llyfr wedi bod yn un o fwynhad ar y cyfan, ac yn aml dwi wedi ymgolli yn y broses o ysgrifennu. Mae’r geiriau fel petaent yn ysgrifennu eu hunain ar adegau – heb oes maent wedi ffurfio yn yr isymwybod dros y blynyddoedd.’