Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Newyddion

Y seiciatrydd adnabyddus, David Enoch, yn cyhoeddi cofiant grymus o'i fywyd sy'n pontio ffydd a meddyginiaeth

Y seiciatrydd adnabyddus, David Enoch, yn cyhoeddi cofiant grymus o'i fywyd sy'n pontio ffydd a meddyginiaeth

Yn 95 mlwydd oed, mae’r seiciatrydd Dr David Enoch, sy’n adnabyddus dros y byd, yn cyhoeddi ei hunangofiant. Mae Enoch’s Walk – 95 Not Out: Journey of a Psychiatrist yn cofnodi hanes bywyd rhyfeddol y seiciatrydd Cristnogol, gan fanylu ar bum brif elfen ei fywyd, sef bod yn ddoctor, seiciatrydd, pregethwr, darlledwr ac awdur – gan ddechrau gyda’i wreiddiau yn Sir Gaerfyrddin. Mae Dr David Enoch wedi bod ar flaen y gad gyda digwyddiadau cymdeithasol, crefyddol a meddygol, sy’n gwneud y cofnod o lygad y ffynnon yma yn un pwysig yn hanes yr unfed ganrif ar hugain. Ar ben hynny, mae’n adrodd stori ei fywyd yn ddi flewyn ar dafod. Mae’n disgrifio ei hun fel un sy’n “benderfynol o bontio’r bwlch rhwng ffydd a meddyginiaeth.”  darllen mwy

Atgofion Glan: Y diddanwr prysur fu'n gweithio gyda Ryan a Ronnie a Ken Dodd
Llyfr gan Adam yn yr Ardd i annog plant a rhieni i fynd i arddio

Llyfr gan Adam yn yr Ardd i annog plant a rhieni i fynd i arddio

Mae’r garddwr adnabyddus a phoblogaidd o Ddyffryn Aman, Adam Jones, yn cyhoeddi ei lyfr gyntaf i blant – Dere i Dyfu (Y Lolfa). Mae Adam yn wyneb ac yn llais cyfarwydd i nifer, gyda slotiau cyson ar Prynhawn Da, Heno a BBC Radio Cymru ac mae e hefyd wedi datblygu presenoldeb sylweddol ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda dros 18,000 o ddilynwyr ar Instagram (@adamynyrardd)!  darllen mwy

Beti George yn galw am chwyldro o ran gofal dementia mewn llyfr newydd

Beti George yn galw am chwyldro o ran gofal dementia mewn llyfr newydd

“Mae dementia yn glefyd sy’n llawer mwy cymhleth na cholli cof,” meddai Beti George yn y gyfrol newydd mae hi wedi ei golygu a chyfrannu ati – Datod: Profiadau Unigolion o Ddementia (Y Lolfa). Cyhoeddir y gyfrol amserol yma wrth i glefyd dementia gael ei ystyried yn argyfwng iechyd difrifol – mae’n effeithio ar o leiaf 50,000 o bobl yng Nghymru, ac mae ar gynnydd  darllen mwy

Paid â Bod Ofn: Cyfrol amrwd a chynnes am Eden, bywyd a iechyd meddwl
Diweddglo

Diweddglo "tanllyd" i'r "drioleg drosedd orau yn yr iaith Gymraeg"

Disgrifiwyd trioleg drosedd Alun Davies fel “y drioleg orau i fi ddarllen yn yr iaith Gymraeg” gan yr awdur arobryn a’r plot-feistr Llwyd Owen. Yr wythnos hon cyhoeddir nofel olaf y drioleg, sef Ar Daith Olaf (Y Lolfa) gan ddilyn y nofelau hynod boblogaidd Ar Drywydd Llofrudd ac Ar Lwybr Dial gan ddod â’r drioleg afaelgar a thywyll hon i ben. Mae’r arddull yn adleisio storïau dirgelwch a chyfresi teledu Scandi ac fel y ddwy nofel gyntaf, mae yna ddirgelwch i’w ddatrys yn ardal Aberystwyth.  darllen mwy

Stori ddelfrydol am wrachod ar gyfer Calan Gaeaf
Geraint V. Jones, un o gewri ein llên

Geraint V. Jones, un o gewri ein llên

Mae Geraint wedi cael cyfnod cynhyrchiol o ysgrifennu yn ddiweddar – Niwl Ddoe (Y Lolfa) fydd ei drydedd nofel mewn pedair blynedd. Cyhoeddodd Elena yn 2019 ac Yn Fflach yn Fellten yn 2018 gyda gwasg Y Lolfa, a’r ddwy nofel yn cael derbyniad ardderchog. Mae’n storïwr wrth reddf ac wedi ennill Gwobr Goffa Daniel Owen ar sawl achlysur.  darllen mwy

Dilyniant i enillydd Gwobr Tir na n-Og 2021

Dilyniant i enillydd Gwobr Tir na n-Og 2021

Yr wythnos hon cyhoeddir Sara Mai a Lleidr y Neidr (Y Lolfa), sef dilyniant i Sw Sara Mai – y nofel a enillodd Gwobr Tir na n-Og eleni. Mae’r ail gyfrol yn ymweld eto â Sw Halibalŵ ac yn rhoi’r cyfle i ni ddod i adnabod Sara Mai yn well ac i ddysgu mwy am gyfeillgarwch, cyfrinachau a phwysigrwydd peidio beirniadu pobl ar sail eu hedrychiad, yn ôl yr awdur Casia Wiliam.  darllen mwy

Nofel gyntaf y cyflwynydd radio, Aled Hughes

Nofel gyntaf y cyflwynydd radio, Aled Hughes

Nofel am gyfeillgarwch, rhagrith a chymuned yw Hela. Mae’r ffrindiau bore oes, Callum, Babo, Jac-Do a Saim Bach yn gorfod tyfu i fyny’n gyflym iawn wrth i gymuned Porth Milgi, ei phobl a phob dim sy’n gyfarwydd iddynt gael eu chwalu’n yfflon.  darllen mwy

Tonic o nofel hwyliog a sylwgar i lonni'r galon

Tonic o nofel hwyliog a sylwgar i lonni'r galon

Mae Marlyn Samuel wedi sefydlu’i hun yn frenhines y nofel gyfoes boblogaidd Gymraeg, ac ni fydd ei nofel newydd Pum Diwrnod a Phriodas (Y Lolfa) yn siomi! Mae’r nofel yn deimladwy ac yn ffraeth, ac yn donic ar ôl y flwyddyn anodd sydd newydd fod.  darllen mwy

Galw am ddiwygio Cristnogaeth er mwyn ei wneud yn berthnasol ar gyfer yr 21fed ganrif
Dwy nofel newydd i ddysgwyr gan awduron penigamp

Dwy nofel newydd i ddysgwyr gan awduron penigamp

Yn sgil poblogrwydd ysgubol Cyfres Amdani – cyfres o lyfrau wedi eu datblygu’n arbennig ar gyfer dysgwyr – mae’r Lolfa yn falch iawn i gyhoeddi dau deitl newydd sbon gan ddau diwtor Cymraeg profiadol sydd hefyd yn awduron penigamp: Gorau Glas gan Lois Arnold (Lefel Mynediad) a Rob gan Mared Lewis (Lefel Uwch).  darllen mwy

Ail lyfr am ferched Cymru i ysbrydoli plant

Ail lyfr am ferched Cymru i ysbrydoli plant

Yr wythnos hon cyhoeddir Genod Gwych a Merched Medrus 2 gan Medi Jones-Jackson. Mae’r ail lyfr yn dilyn llwyddiant ysgubol y cyntaf, a gyhoeddwyd yn 2019 ac a gyrhaeddodd restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2020 yn ogystal â rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2020.  darllen mwy

Antur ioga a dysgu plant i warchod y ddaear

Antur ioga a dysgu plant i warchod y ddaear

Yr wythnos yma cyhoeddir antur ioga newydd sbon i blant – Y Wariar Bach (Y Lolfa). Dyma’r ail yn y gyfres o lyfrau gan yr actores a’r athrawes ioga Leisa Mererid, yn dilyn llwyddiant Y Goeden Ioga yn 2019. Mae Y Wariar Bach yn dysgu plant am anifeiliaid prin a phwysigrwydd gwarchod y ddaear.  darllen mwy

Luned a Huw Aaron yn cydweithio ar lyfr doniol i blant a rhieni
Dathlu enwau lleoedd Cymru ac anrhydeddu'r Athro Gwynedd O Pierce yn 100 oed
Casgliad i godi calon gan yr Eisteddfod Genedlaethol

Casgliad i godi calon gan yr Eisteddfod Genedlaethol

Ar ôl blwyddyn a mwy anodd, gyda phawb yn delio â heriau newydd ac yn dod i arfer â threfn newydd i fywyd, yr haf hwn cyhoeddir cyfrol newydd sydd yn cwmpasu llesiant corfforol a meddyliol. Bydd Haf o Hyder yn cynnwys saith stori newydd a saith darn o farddoniaeth neu gân gan awduron amrywiol o Gymru. Mae’r casgliad wedi’i greu ar y cyd rhwng Y Lolfa a’r Eisteddfod Genedlaethol, ac mewn cydweithrediad â chwmni adnoddau digidol 4Pi Productions.  darllen mwy

Antur newydd gan enillydd Llyfr y Flwyddyn

Antur newydd gan enillydd Llyfr y Flwyddyn

Efallai na fyddwch chi’n gallu mynd ar wyliau i wlad boeth eleni oherwydd Cofid, ond mae’r awdur Ifan Morgan Jones wedi darparu’r ddihangfa berffaith – nofel Gymraeg wedi ei lleoli ar ynys drofannol ar ochr arall y byd.  darllen mwy

Cyfres o nofelau gonest, ffres, llawn cariad, sy'n grymuso lleisiau cwbl newydd mewn llenyddiaeth Gymraeg

Cyfres o nofelau gonest, ffres, llawn cariad, sy'n grymuso lleisiau cwbl newydd mewn llenyddiaeth Gymraeg" - Manon Steffan Ros

Cyfres newydd, y cyntaf o’i fath yn yr iaith Gymraeg, gan awduron a chyd-awduron ifanc wedi'u cyhoeddi gan Y Lolfa yn lansio 26 Gorffennaf 2021. Dyma gyfres o bum nofel onest, pwerus a di-flewyn-ar-dafod gan rai o’n awduron ifanc mwyaf blaengar – Megan Angharad Hunter, Mared Roberts, Elgan Rhys, Iestyn Tyne a Marged Elen Wiliam, gyda Manon Steffan Ros yn ysgrifennu prolog i bob nofel ac yn fentor creadigol ar y gyfres. Mae Y Pump yn brosiect uchelgeisiol, sy’n cyfuno gwaith gwreiddiol pum sgwennwr cyffrous (a phob un ond un yn sgwennu eu nofel gyntaf) gyda barn, cyngor a brwdfrydedd grŵp amrywiol o bump cyd-awdur ifanc gafodd eu dethol o al-wad agored genedlaethol i ddarganfod lleisiau’r genhedlaeth nesaf o sgwennwyr Cymraeg.  darllen mwy

101-120 o 341 1 . . . 5 6 7 . . . 18
Cyntaf < > Olaf