Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Awdur llwyddiannus yn ysgrifennu ei lyfr Cymraeg cyntaf i blant

Mae’r awdur Huw Davies sydd wedi cyrraedd rhestr fer gwobr llenyddol Saesneg wedi troi i ysgrifennu yn Gymraeg, gan gydweithio gyda’r arlunwraig Lowri Roberts, sy’n adnabyddus fel ‘Hen Fenyw Fach’ ac wedi cael llwyddiant yn gwneud darluniau o bob math.

Cafodd Huw Davies ei fagu yn Nantyffyllon ger Maesteg – mae nawr yn athro ac yn byw yng Nghaerfyrddin gyda’i wraig a thri o blant a fe yw awdur Scrambled (2016) a gyrhaeddodd rhestr fer Heart of Hawick Children’s Literature Award, a’r cyfieithiad Sgramblo (2018). 

Ond mae ei lyfr newydd gyda Lowri Roberts am gymeriad drygionus. Mae Ben Llestri a’r Bwced Ych-a-fi yn stori hwyliog sy’n dilyn Ben wrth iddo fynd ati i chwarae tric ar ei deulu, gan fynd dros ben llestri wrth gwrs. 
“Rwy’n dwli ar enwau twp a chartwnaidd am gymeriadau. Yn fy marn i mae angen mwy o lyfrau sy’n dathlu gweithredoedd twp, ond ar ôl 2020 a’r cyfnodau clo mae angen storïau direidus a dafft ar blant yn arbennig!” meddai’r awdur Huw Davies.

Mae’r awdur a’r arlunydd yn adnabod ei gilydd ers blynyddoedd ac wedi siarad am gydweithio ers 2016. 
“Roedd gweithio gyda Huw yn brofiad llawn hwyl! Mae Huw yn berson rhwydd i weithio efo fo – mae e wir wedi bod yn freuddwyd i ddarlunio llyfr. Mae’n llyfr doniol, llawn pethau ych-a-fi ac mae gweld fy narluniau mewn llyfr yn brofiad anhygoel,” meddai Lowri Roberts.

Yn ôl Huw: “Daeth enw’r cymeriad yn ystod y cyfnod clo cyntaf, pan roedd fy ngwraig yn dweud wrth un o’r plant ei fod wedi mynd dros ben llestri. Ond, beth glywais i oedd ‘dros Ben Llestri’ sef enw crwt bach direidus. Roeddwn i a Lowri (yr arlunydd) wedi bod yn siarad am ysgrifennu llyfr ers blynyddoedd, ac felly dyma gydweithio. Mae ei lluniau’n arbennig ac yn cyfleu cymeriad a’r llanast i’r dim!”

Mi fydd cân i gyd-fynd â’r stori ar Soundcloud El Contino yr wythnos nesaf. Y gobaith yw defnyddio’r gân wrth gynnal gweithdai ysgrifennu gyda phlant, pan fydd modd gwneud hynny.