Erthyglau
Stori ddelfrydol am wrachod ar gyfer Calan Gaeaf
Mae Bethan Gwanas eisoes wedi ysgrifennu dwy nofel boblogaidd i oedolion am wrachod, ond yr wythnos hon cyhoeddir llyfr i blant gan yr awdures gyda naws berffaith ar gyfer Calan Gaeaf – Cadi a’r Gwrachod. darllen mwy
Geraint V. Jones, un o gewri ein llên
Mae Geraint wedi cael cyfnod cynhyrchiol o ysgrifennu yn ddiweddar – Niwl Ddoe (Y Lolfa) fydd ei drydedd nofel mewn pedair blynedd. Cyhoeddodd Elena yn 2019 ac Yn Fflach yn Fellten yn 2018 gyda gwasg Y Lolfa, a’r ddwy nofel yn cael derbyniad ardderchog. Mae’n storïwr wrth reddf ac wedi ennill Gwobr Goffa Daniel Owen ar sawl achlysur. darllen mwy
Dilyniant i enillydd Gwobr Tir na n-Og 2021
Yr wythnos hon cyhoeddir Sara Mai a Lleidr y Neidr (Y Lolfa), sef dilyniant i Sw Sara Mai – y nofel a enillodd Gwobr Tir na n-Og eleni. Mae’r ail gyfrol yn ymweld eto â Sw Halibalŵ ac yn rhoi’r cyfle i ni ddod i adnabod Sara Mai yn well ac i ddysgu mwy am gyfeillgarwch, cyfrinachau a phwysigrwydd peidio beirniadu pobl ar sail eu hedrychiad, yn ôl yr awdur Casia Wiliam. darllen mwy
Nofel gyntaf y cyflwynydd radio, Aled Hughes
Nofel am gyfeillgarwch, rhagrith a chymuned yw Hela. Mae’r ffrindiau bore oes, Callum, Babo, Jac-Do a Saim Bach yn gorfod tyfu i fyny’n gyflym iawn wrth i gymuned Porth Milgi, ei phobl a phob dim sy’n gyfarwydd iddynt gael eu chwalu’n yfflon. darllen mwy
Tonic o nofel hwyliog a sylwgar i lonni'r galon
Mae Marlyn Samuel wedi sefydlu’i hun yn frenhines y nofel gyfoes boblogaidd Gymraeg, ac ni fydd ei nofel newydd Pum Diwrnod a Phriodas (Y Lolfa) yn siomi! Mae’r nofel yn deimladwy ac yn ffraeth, ac yn donic ar ôl y flwyddyn anodd sydd newydd fod. darllen mwy
Galw am ddiwygio Cristnogaeth er mwyn ei wneud yn berthnasol ar gyfer yr 21fed ganrif
Mae llai a llai o Gymry yn datgan eu bod nhw’n grefyddol erbyn heddiw, a llai fyth yn mynychu addoldy yn rheolaidd. Gweler nifer fawr o gapeli yn cau ac yn troi’n adfeilion neu’n cael eu troi yn ail-gartrefi ledled y wlad. Oes yna le i Gristnogaeth yn ein bywydau yn yr 21ain ganrif? darllen mwy
Dwy nofel newydd i ddysgwyr gan awduron penigamp
Yn sgil poblogrwydd ysgubol Cyfres Amdani – cyfres o lyfrau wedi eu datblygu’n arbennig ar gyfer dysgwyr – mae’r Lolfa yn falch iawn i gyhoeddi dau deitl newydd sbon gan ddau diwtor Cymraeg profiadol sydd hefyd yn awduron penigamp: Gorau Glas gan Lois Arnold (Lefel Mynediad) a Rob gan Mared Lewis (Lefel Uwch). darllen mwy
Ail lyfr am ferched Cymru i ysbrydoli plant
Yr wythnos hon cyhoeddir Genod Gwych a Merched Medrus 2 gan Medi Jones-Jackson. Mae’r ail lyfr yn dilyn llwyddiant ysgubol y cyntaf, a gyhoeddwyd yn 2019 ac a gyrhaeddodd restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2020 yn ogystal â rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2020. darllen mwy
Antur ioga a dysgu plant i warchod y ddaear
Yr wythnos yma cyhoeddir antur ioga newydd sbon i blant – Y Wariar Bach (Y Lolfa). Dyma’r ail yn y gyfres o lyfrau gan yr actores a’r athrawes ioga Leisa Mererid, yn dilyn llwyddiant Y Goeden Ioga yn 2019. Mae Y Wariar Bach yn dysgu plant am anifeiliaid prin a phwysigrwydd gwarchod y ddaear. darllen mwy
Luned a Huw Aaron yn cydweithio ar lyfr doniol i blant a rhieni
Yr wythnos yma cyhoeddir llyfr doniol a hwyliog sy’n codi nifer o gwestiynau gan fachgen bach direidus am annhegwch bod yn blentyn. Mae Pam? (£4.99, Y Lolfa) yn brosiect ar y cyd gan yr arlunydd Huw Aaron a’i wraig Luned. darllen mwy
Dathlu enwau lleoedd Cymru ac anrhydeddu'r Athro Gwynedd O Pierce yn 100 oed
Cyhoeddir yr wythnos hon gasgliad o 20 erthygl safonol ar enwau lleoedd gan arbenigwyr o Gymru a thu hwnt, wedi eu dwyn ynghyd gan Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru (£14.99, Y Lolfa) er mwyn dathlu pen-blwydd yr Athro Gwynedd O. Pierce yn 100 oed. darllen mwy
Casgliad i godi calon gan yr Eisteddfod Genedlaethol
Ar ôl blwyddyn a mwy anodd, gyda phawb yn delio â heriau newydd ac yn dod i arfer â threfn newydd i fywyd, yr haf hwn cyhoeddir cyfrol newydd sydd yn cwmpasu llesiant corfforol a meddyliol. Bydd Haf o Hyder yn cynnwys saith stori newydd a saith darn o farddoniaeth neu gân gan awduron amrywiol o Gymru. Mae’r casgliad wedi’i greu ar y cyd rhwng Y Lolfa a’r Eisteddfod Genedlaethol, ac mewn cydweithrediad â chwmni adnoddau digidol 4Pi Productions. darllen mwy
Antur newydd gan enillydd Llyfr y Flwyddyn
Efallai na fyddwch chi’n gallu mynd ar wyliau i wlad boeth eleni oherwydd Cofid, ond mae’r awdur Ifan Morgan Jones wedi darparu’r ddihangfa berffaith – nofel Gymraeg wedi ei lleoli ar ynys drofannol ar ochr arall y byd. darllen mwy
Cyfres o nofelau gonest, ffres, llawn cariad, sy'n grymuso lleisiau cwbl newydd mewn llenyddiaeth Gymraeg" - Manon Steffan Ros
Cyfres newydd, y cyntaf o’i fath yn yr iaith Gymraeg, gan awduron a chyd-awduron ifanc wedi'u cyhoeddi gan Y Lolfa yn lansio 26 Gorffennaf 2021. Dyma gyfres o bum nofel onest, pwerus a di-flewyn-ar-dafod gan rai o’n awduron ifanc mwyaf blaengar – Megan Angharad Hunter, Mared Roberts, Elgan Rhys, Iestyn Tyne a Marged Elen Wiliam, gyda Manon Steffan Ros yn ysgrifennu prolog i bob nofel ac yn fentor creadigol ar y gyfres. Mae Y Pump yn brosiect uchelgeisiol, sy’n cyfuno gwaith gwreiddiol pum sgwennwr cyffrous (a phob un ond un yn sgwennu eu nofel gyntaf) gyda barn, cyngor a brwdfrydedd grŵp amrywiol o bump cyd-awdur ifanc gafodd eu dethol o al-wad agored genedlaethol i ddarganfod lleisiau’r genhedlaeth nesaf o sgwennwyr Cymraeg. darllen mwy
141-160 o 483 | 1 . . . 7 8 9 . . . 25 | |
Cyntaf < > Olaf |