Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Tonic o nofel hwyliog a sylwgar i lonni'r galon

Mae Marlyn Samuel wedi sefydlu’i hun yn frenhines y nofel gyfoes boblogaidd Gymraeg, ac ni fydd ei nofel newydd Pum Diwrnod a Phriodas (Y Lolfa) yn siomi! Mae’r nofel yn deimladwy ac yn ffraeth, ac yn donic ar ôl y flwyddyn anodd sydd newydd fod.

Disgrifiwyd y nofel fel un “Difyr a digri. Gwych!” gan yr actores Gillian Elisa. Meddai Marlyn Samuel:

“Mi ges i’r syniad ar ôl bod ar wyliau yn Sorrento yn yr Eidal ddwy flynedd yn ôl. Roeddwn i wrth fy modd yn gwylio’r priodasau lu oedd yn cael eu cynnal yn y dre. A dyma feddwl i fi fy hun, beth petai yna deulu o Gymru yn mynd draw i Sorrento ar gyfer priodas aelod o’r teulu? Roedd sgwennu’r nofel yn gyfle i ailymweld yn fy nychymyg â’r llefydd bendigedig y buom iddyn nhw ar ein gwyliau, llefydd fel Ynys Capri er enghraifft. Ac mae clwysty San Francesco, y sonir amdano yn y nofel hefyd yn lleoliad go iawn”.

Ar gychwyn y nofel, ceir dau ddyfyniad, y cyntaf gan y bardd Emery Allen ‘Do you think the universe fights for souls to be together? Some things are too strange and strong to be coincidences’, a’r ail gan yr ysgrifennydd a’r artist gweledol William S Burroughs, sef ‘Nothing happens by coincidence’. Dyma grisialu thema’r nofel bositif yma – os ydi rhywbeth i fod i ddigwydd, mi ddigwyddith. Dim ots faint o amser mae’n ei gymryd. Fel y dywed Marlyn Samuel – “Ffawd mewn geiriau eraill.”

“Dechreuais i sgwennu’r nofel yn ystod y Cyfnod Clo llynedd a rhaid i mi gyfaddef, roedd hi’n braf cael dianc i’r Eidal a threulio amser yng nghwmni Carys a’i theulu. Mi ges i bleser mawr yn ei sgwennu hi. Dwi’n gobeithio caiff y rhai sy’n ei darllen hi’r un pleser a mwynhad.”

Mae Pum Diwrnod a Phriodas yn dilyn antur Carys – pan mae ei mab ieuengaf yn penderfynu priodi yn yr Eidal, mae Carys yn edrych ymlaen at fwynhau Sorrento, ac yn goron i’r cwbl, priodas Gethin a Rebeca. Yn gwmni mae ei mab hynaf Siôn a’i deulu, heb anghofio ei mam Thelma, gwaith caled a dweud y lleiaf! Ond mae pawb yn cael sioc pan mae un gwestai arbennig yn landio.

Cafodd nofel ddiwethaf Marlyn, Cicio’r Bwced, glod mawr gyda Bethan Jones-Parry yn ei disgrifio fel “chwip o nofel fywiog, hwyliog gan awdures sydd yn adnabod ei phobl (ac yn giamstar ar roi geiriau yn eu cegau nhw!)”. Mae nofelau blaenorol Marlyn, gan gynnwys Cwcw, Milionêrs a Llwch yn yr Haul, hefyd wedi derbyn canmoliaeth uchel iddi fel awdures nofelau hwyliog, chick-lit, Cymraeg. Mae ei gwaith yn llenwi bwlch ym myd nofelau Cymraeg, gan fod nofelau ysgafn a chyfoes yn gymharol brin.

Meddai’r awdures:

“Yn anffodus mi ydan ni’n byw mewn cyfnod eithaf dyrys rhwng bob dim – braf ydi gallu dianc i fyd dychmygol nofel – yn enwedig nofel feel good, sy’n codi’r galon. Chwerthin ydi’r tonig gorau meddan nhw!"