Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Stori ddelfrydol am wrachod ar gyfer Calan Gaeaf

Mae Bethan Gwanas eisoes wedi ysgrifennu dwy nofel boblogaidd i oedolion am wrachod, ond yr wythnos hon cyhoeddir llyfr i blant gan yr awdures gyda naws berffaith ar gyfer Calan Gaeaf – Cadi a’r Gwrachod.

Meddai Bethan Gwanas:

“Mabon, fy ngor-nai, wnaeth ysbrydoli’r stori yma – roedd o eisiau gwrachod! Dwi wedi sgwennu llyfrau oedolion am wrachod, ond ro’n i wir isio sgwennu llyfr plant amdanyn nhw a Chalan Gaeaf, am ei fod yn gymaint o hwyl.”

Cadi a’r Gwrachod yw’r pumed llyfr yng Nghyfres Cadi sy’n dilyn y ferch fach annwyl a busneslyd, Cadi, a’i brawd Mabon. Mae Cadi yn mynd ar antur wahanol ym mhob llyfr ac yn dysgu gwersi pwysig.

“Y tro yma mae Cadi yn dysgu nad ydy gwylltio gyda’i brawd bach a dymuno ei droi yn llyffant yn syniad da – yn enwedig ar noson Calan Gaeaf pan mae’r lleuad yn llawn… Ydy, mae Mabon druan yn troi’n llyffant, ac mae’n rhaid i Cadi ac yntau fynd i Wlad y Gwrachod i chwilio am help. Rwy’n gobeithio y bydd plant yn mwynhau’r stori, ynghyd â dysgu bod angen ymarfer, gwaith caled a dyfalbarhad i feistroli unrhyw grefft. Ac na ddylech chi alw enwau ar bobl!”

Unwaith eto mae’r arlunydd dalentog Janet Samuel wedi dod â’r cymeriadau yn fyw i ddarllenwyr ifanc gyda’i darluniadau hardd a lliwgar.

Meddai Janet Samuel:

“Roedd gweithio ar Cadi a’r Gwrachod yn gymaint o hwyl! Rwy’n teimlo’n agos iawn at Cadi, ac yn caru’r bywyd mae Bethan wedi rhoi iddi a’i holl anturiaethau! Calan Gaeaf yw fy hoff amser o’r flwyddyn, felly roedd creu byd gyda gwrachod yn freuddwyd.”