Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Dilyniant i enillydd Gwobr Tir na n-Og 2021

Yr wythnos hon cyhoeddir Sara Mai a Lleidr y Neidr (Y Lolfa), sef dilyniant i Sw Sara Mai – y nofel a enillodd Gwobr Tir na n-Og eleni. Mae’r ail gyfrol yn ymweld eto â Sw Halibalŵ ac yn rhoi’r cyfle i ni ddod i adnabod Sara Mai yn well ac i ddysgu mwy am gyfeillgarwch, cyfrinachau a phwysigrwydd peidio beirniadu pobl ar sail eu hedrychiad, yn ôl yr awdur Casia Wiliam.

Meddai Casia Wiliam:

“Dwi wedi bod yn mwynhau nofelau ditectif yn ddiweddar, felly nes i feddwl y byddai’n hwyl cael dirgelwch yn Sw Halibalŵ, gyda Sara Mai a’i ffrindiau yn gwneud y gwaith ditectif! Mae nifer o’n hoff gymeriadau yn ôl, ond mae llawer o gymeriadau newydd hefyd gan gynnwys Tywysoges Jasmine (cariad newydd Seb) a Nisien y neidr wrth gwrs!”

Am ennill y Wobr Tir na n-Og, meddai Casia:

“Roedd ennill Gwobr Tir na n-Og 2021 yn fraint ac yn deimlad arbennig. Roeddwn i wir wedi gwirioni. Ond er mor hyfryd yw ennill gwobr, y peth gorau yw clywed cymaint o blant yn dweud eu bod nhw wedi mwynhau Sw Sara Mai.” 

Mae’r gyfres yn plethu ffraethineb a dwli (mae yna jiráff sydd yn ofn uchder yn y nofel gyntaf) gyda negeseuon pwysig. Dywedodd Bethan Gwanas am Sw Sara Mai:

“Mae ’na hiwmor hyfryd yma, a llwyth o ddigwyddiadau… Clincar!”

Cafodd Sw Sara Mai clod hefyd am gyflwyno prif gymeriad hil gymysg a thrafod hiliaeth. Meddai Casia:

Mae’n bwysig bod ein llenyddiaeth yn adlewyrchu ein cymdeithas ni yng Nghymru heddiw, er mwyn i bob plentyn fedru adnabod eu hunain mewn llyfr. Mae angen mwy o amrywiaeth o fewn llenyddiaeth plant, ac yn arbennig hefyd bod angen i’r prif gymeriad fod o gefndir cymysg, nid dim ond yn gymeriad ymylol. Roeddwn i’n awyddus i drafod hiliaeth mewn nofel, heb i hynny deimlo fel ‘gwers’ fel petai.”

Mae Sara Mai a Lleidr y Neidr wedi’i hanelu at blant 7 i 11 oed. Mae rhywun wedi dwyn neidr werthfawr iawn o Sw Halibalŵ, felly mae Sara, Oli a’r criw yn dechrau ar y gwaith pwysig o geisio darganfod pwy yw lleidr y neidr. Fydd y plant yn dod o hyd i’r dihiryn? Ai rhywun diarth fydd yn gyfrifol, neu rywun sydd reit o dan eu trwynau?