Erthyglau
"Panorama dinesig" Luned Aaron a ddaeth yn agos at y frig yn y Fedal Ryddiaith
Yr wythnos hon cyhoeddir casgliad o storïau dinesig gan yr arlunydd Luned Aaron. Daeth Porth (Y Lolfa) yn agos at ennill cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol eleni a disgrifwyd y casgliad yn “banorama dinesig o bobl yn gwau drwy’i gilydd, pob un â’i stori,” gan Lleucu Roberts. darllen mwy
Gareth yr Orangutan yn cyhoeddi llyfr
Yn dilyn gyrfa lwyddiannus ar S4C, mae orangutang mwyaf enwog Cymru, Gareth ar fin cyhoeddi hunangofiant sy’n rhannu straeon personol a gonest am bethau pwysig yn ei fywyd fel ei gariad at chips, nain Deiniolen a thor-calon. darllen mwy
Iwcs yn cyhoeddi ei ail nofel - Dal Arni
Yn dilyn llwyddiant nofel gyntaf Iwan ‘Iwcs’ Roberts, Dal y Mellt, bydd nofel ddilyniant, Dal Arni, yn cael ei chyhoeddi gan y Lolfa ar y 20 Tachwedd. darllen mwy
Cymru Gudd trwy lun a stori
Yn ei lyfr newydd, Cymru Gudd, mae’r ffotograffydd tirluniau Dylan Arnold yn dod â lluniau trawiadol o adfeilion Cymreig yn fyw trwy rannu hanes yr adeiladau, a’r teuluoedd oedd yn byw ynddynt. darllen mwy
Llyfr coginio newydd yn dathlu bwyd ffres o'r ardd
Yr wythnos hon cyhoeddir llyfr coginio newydd gan yr arbenigwr bwyd Nerys Howell. Mae Cywain – Ryseitiau o’r Ardd yn llyfr dwyieithog hardd sy’n llawn ryseitiau a lluniau i ddod â dŵr i’r dannedd. darllen mwy
Nofel gyntaf "hudolus" Daf James yn cynnig traddodiad Nadoligaidd newydd i blant
Yr wythnos hon cyhoeddir nofel gyntaf y dramodydd, y cyfansoddwr, y sgriptiwr a’r perfformiwr – Daf James. Mae Jac a’r Angel (Y Lolfa) yn stori Nadoligaidd a ddisgrifiwyd gan Non Parry fel nofel “hudolus, cyffrous, doniol a charedig. Mae’r byd angen y stori yma. Rhowch o ar y cwricwlwm AR UNWAITH! ” Pedair pennod ar hugain sydd yn y llyfr hwn – pennod ar gyfer pob noson ym mis Rhagfyr tan Noswyl Nadolig yn debyg i galendr adfent. darllen mwy
Cyhoeddi hanes Siân Phillips, y seren fyd-enwog o Waun Cae Gurwen
Bydd hanes y seren fyd enwog Siân Phillips yn cael ei rhannu mewn cyfrol newydd o’r un enw gan y Lolfa – o’i magwraeth yn Waun Cae Gurwen i’w gyrfa lewyrchus yn teithio’r byd a’i phriodas gythryblus gyda’r actor Peter O’Toole. darllen mwy
Codi'r llen ar Hiwmor Tri Chardi
Mae cyfrol newydd, Hiwmor Tri Chardi Llengar, yn codi’r llen ar dri Chardi amlwg oedd yn ffrindiau pennaf – William Morgan (Moc) Rogers, Tegwyn Jones a Hywel Teifi Edwards. darllen mwy
Nofel feiddgar newydd i'r arddegwyr gan Megan Angharad Hunter
Mae enillydd Llyfr y Flwyddyn gyda tu ôl i’r awyr wedi ysgrifennu nofel feiddgar arall, y tro yma i’r arddegau cynnar. Mae Astronot yn yr Atig (Y Lolfa) gan Megan Angharad Hunter yn nofel arbrofol, lawn antur ar gyfer plant 8 i 12 oed. darllen mwy
Llyfr i ferched ifanc sy'n torri tir newydd
Mae tyfu i fyny a chael pen ffordd yn eich arddegau wedi bod yn heriol erioed. Yr wythnos hon, cyhoeddir llyfr gwybodaeth wreiddiol i ferched 8 i 12 oed – y cyntaf o’i fath yn y Gymraeg – sy’n anelu at ateb rhai o’r cwestiynau bythol sy’n codi yn ystod yr arddegau. darllen mwy
Myfyrdodau onest, cynnes a real ar groesi sawl trothwy mewn bywyd
Myfyrdodau cynnes awdur wrth iddo groesi sawl trothwy mewn bywyd ydi cyfrol ffeithiol greadigol newydd yr awdur a’r bardd Iwan Rhys - Trothwy (Y Lolfa). darllen mwy
“Llais ffres ac egnïol" - cyfrol gyntaf yr actor Andrew Teilo
Yr wythnos hon cyhoeddir cyfrol gyntaf yr actor Andrew Teilo. Mae Pryfed Undydd yn gasgliad o storïau byrion darllenadwy am bobl sydd ar y trothwy ac am gyflwr dynol ar ei fwyaf amrwd a mympwyol. darllen mwy
Cyfrol yn dathlu canmlwyddiant deiseb heddwch menywod Cymru
Yr wythnos hon cyhoeddir cyfrol ddwyieithog amlgyfrannog sy’n rhannu stori ryfeddol Deiseb gan fenywod Cymru am heddwch byd. Roedd y Ddeiseb, a ddechreuwyd yng nghysgod y Rhyfel Byd Cyntaf, yn gofyn i fenywod America i gydweithio â nhw yn enw heddwch, ac fe’i llofnodwyd hi gan bron i 400,000 o fenywod Cymru – canran sylweddol y boblogaeth ar y pryd. darllen mwy
Cyfres newydd gyfoes i helpu plant ddysgu darllen
Yr wythnos hon cyhoeddir cyfres newydd sbon - cyfres o bum llyfr llun a gair i helpu plant ddysgu darllen. Mae Cyfres Celt y Ci (Y Lolfa) gan Rhiannon Wyn Salisbury a’r artist Elin Vaughan Crowley, wedi ei gosod ar fferm ddychmygol yng nghefn gwlad Cymru. darllen mwy
Antur newydd yng nghyfres boblogaidd Casia Wiliam!
Yr wythnos hon, mae Sara Mai yn ôl gydag antur newydd sbon. Mae Sara Mai ac Antur y Fferm (Y Lolfa) gan Casia Wiliam, yn ddilyniant i Sw Sara Mai a Sara Mai a Lleidr y Neidr. Mae’r ddwy nofel gyntaf wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Tir na n-Og (2021 a 2022), a bu i’r nofel gyntaf gipio’r Wobr yn 2021. darllen mwy
1-20 o 474 | 1 2 3 4 5 . . . 24 | |
Cyntaf < > Olaf |