Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Erthyglau

Mae Na, Nel! yn ôl! Y tro hwn, i achub y byd!

Mae Na, Nel! yn ôl! Y tro hwn, i achub y byd!

Yn y llyfr hwn, mae tair stori newydd am Nel, gan gynnwys addasiad o’r stori yn sioe’r Pafiliwn eleni. Yma, mae Nel a’i ffrindiau yn canfod eu hunain yn ailgylchu ar faes yr Eisteddfod, ac yn dod o hyd i goeden hynod ac arbennig y mae angen iddyn nhw ei gwarchod.  darllen mwy

Cyhoeddi gohebiaeth tri Penyberth am y tro cyntaf
Hyd a lled yr arfordir, a draw am glawdd offa - taith ryfeddol awdur o gwmpas Cymru

Hyd a lled yr arfordir, a draw am glawdd offa - taith ryfeddol awdur o gwmpas Cymru

Dros gyfnod o bedair blynedd, aeth yr awdur Gareth Evans-Jones ati i gerdded o amgylch Cymru, gan ddilyn llwybr yr arfordir a Chlawdd Offa. Cylchu Cymru ydi ffrwyth y teithiau hynny. Mae’r gyfrol yn cynnig inni fewnwelediad cryno i’r lleoliadau, ac yng ngeiriau’r awdur ei hun, mae’n cwmpasu ‘eu straeon, eu hanes, eu chwedloniaeth, a’u cyfaredd’ – a hynny drwy gyfrwng llenyddiaeth greadigol, lluniau trawiadol a dylunio lliwgar Olwen Fowler.  darllen mwy

Teyrnged i un o artistiaid mwyaf nodedig a gwladgarol Cymru - Ogwyn Davies

Teyrnged i un o artistiaid mwyaf nodedig a gwladgarol Cymru - Ogwyn Davies

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod yng Ngheredigion fe gofir am un o artistiaid mwyaf amryddawn Cymru a dreuliodd 60 mlynedd o’i oes yn ardal yr Eisteddfod. Roedd Ogwyn Davies yn dalent unigryw, yn arlunydd a ddarluniodd olygfeydd ysblennydd a lleoliadau nodedig fel Soar y Mynydd. Roed hefyd yn wladgarwr a ddarluniodd yr anthem genedlaethol a’r rhif yn cofnodi mwyafrif datganoli, ac roedd hefyd yn artist arbrofol a weithiodd gyda chyfryngau gwahanol a chrochenwaith yn hwyr yn ei yrfa.  darllen mwy

Nofel ddychanol 'hwyliog a gwahanol' gan yr awdur Cardi-noir Geraint Evans
Awdur a aned yn Nhregaron yn clodfori hanes y fro mewn cyfrol newydd ar gyfer yr Eisteddfod
Protest yn yr Eisteddfod: Cyfrol sy'n dathlu'r frwydr dros ryddid a chydraddoldeb
Cyfrol i ddysgwyr yn agor y drws at gyfrol straeon byrion newydd
Arwr Mabinogaidd i'r arddegau gan yr awdur Alun Davies
Straeon byrion i ddysgwyr gan ddysgwyr

Straeon byrion i ddysgwyr gan ddysgwyr

Yr wythnos hon cyhoeddir casgliad o 10 stori fer i ddysgwyr, gyda’r gyfrol yma hefyd wedi cael ei hysgrifennu gan ddysgwyr. Mae Y Daith (Y Lolfa) yn ddathliad o lwyddiant Cyfres Amdani, ei phoblogrwydd ymysg dysgwyr Cymraeg a’r awch am fwy o ddeunydd darllen cyfoes ac addas.  darllen mwy

Diffyg straeon byrion cyfoes Cymraeg yn arwain at gyfrol newydd

Diffyg straeon byrion cyfoes Cymraeg yn arwain at gyfrol newydd

Yr wythnos hon cyhoeddir cyfrol o saith stori fer gyfoes gan awdur newydd. Mae awdur straeon Stryd y Gwystlon, Jason Morgan, yn gobeithio y bydd ei gyfrol yn cyfrannu at yr hyn mae’n ei weld fel diffyg cyfrolau straeon byrion mewn llenyddiaeth sydd wedi bod yn adnabyddus am ei chyfoeth yn y ffurf honno.  darllen mwy

Y nofel Gymraeg fwyaf erioed yn cael ei ailargraffu
Tywyllwch, meddyginiaethau gwerin a hud hen chwedlau'n ysbrydoli nofel
Llyfr lliwio newydd Boc - y ddraig fach sy'n mynd o nerth i nerth!
Llwyddiant llenyddiaeth Gymraeg arbrofol - ailargraffu Ebargofiant
Mistar Urdd yn dod yn fyw rhwng cloriau llyfr i ddathlu canrif o'r Urdd!

Mistar Urdd yn dod yn fyw rhwng cloriau llyfr i ddathlu canrif o'r Urdd!

Gyda’r Urdd yn dathlu canmlwyddiant yn 2022, mae’n anodd credu nad oes gan Mistar Urdd lyfr yn dweud ei hanes – tan nawr! Mae Anturiaethau Mistar Urdd gan Mared Llwyd wedi’i hanelu at blant 7 i 10 oed. Mae’r Lolfa yn cydweithio gyda’r Urdd i wireddu’r syniad o ledaenu beth mae’r Urdd yn ei wneud ac yn ei gynnig fel mudiad ieuenctid. Mae’r nofel graffeg yn cynnwys tair stori ar ffurf cartwnau ac mae’r lluniau gan Sioned Medi Evans.  darllen mwy

81-100 o 485 1 . . . 4 5 6 . . . 25
Cyntaf < > Olaf