Erthyglau
Y Lolfa yn ailgyhoeddi clasur am chwedlau Cymru
Yr wythnos hon cyhoeddir fersiwn diwygiedig o glasur Cymraeg, sef Chwedlau Gwerin Cymru, gan Robin Gwyndaf (Y Lolfa). Yn wreiddiol fe’i cyhoeddwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru ym 1989 – cofnod holl bwysig o draddodiad y stori werin yng Nghymru. darllen mwy
Dwdls i ysbrydoli siaradwyr newydd
Mae llyfr newydd o’r enw Dwdls Cymraeg gan yr Athro Oliver Turnbull, yn olrhain taith dysgwr trwy cyfres o ddŵdls. Mae’r dwdls yn amlygu mewn ffordd ysgafn rai o’r heriau sy’n wynebu siaradwyr newydd, yn enwedig wrth gaffael iaith. Daeth y llyfr at ei gilydd gyda chymorth Dr Llion Jones a thiwtoriaid Cymraeg Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor ac o dan nawdd Ecoamgueddfa Llŷn. darllen mwy
Nofel lawn troeon a hiwmor sy'n ddihangfa pur!
Mae Marlyn Samuel wedi sefydlu’i hun fel brenhines y nofel boblogaidd Gymraeg, ac ni fydd ei stori newydd Dros fy Mhen a ’Nghlustiau yn siomi! Mae’n nofel afaelgar, sy’n llawn hiwmor a throeon, ac fel sawl un o nofelau yr awdures mae’n chwarae gyda’r syniad o ffawd. darllen mwy
Gladiatrix: Bethan Gwanas yn rhoi llwyfan i'r merched yn Oes y Rhufeiniaid mewn nofel newydd
Mae’r awdures Bethan Gwanas wedi mentro i fyd llawn cynnwrf y Gladiatoriaid gyda’i nofel newydd Gladiatrix sydd newydd ei chyhoeddi gan wasg Y Lolfa. Dyma nofel epig, llawn antur, angerdd ac emosiwn sydd wedi ei seilio ar ffeithiau hanesyddol. Fydd croesi’r Fenai byth yr un fath ar ôl darllen hon! darllen mwy
Antur newydd i Griw'r Coed a phecyn adnoddau i athrawon
Mae’r archarwyr Criw’r Coed yn ôl gydag antur newydd. Criw’r Coed a’r Draenogod ydi’r ail lyfr yn y gyfres gan Carys Glyn a Ruth Jên. Mae’r llyfr yn dysgu plant Cymru sut i helpu draenogod i grwydro’n rhydd eto. Mae’r awdures a’r artist yn gobeithio bydd y gyfres yn agor llygaid plant at ryfeddodau byd natur a’u helpu i ddeall bod ganddynt y gallu i wneud gwahaniaeth. darllen mwy
Ditectif newydd yn ffurfafen ffuglen Gymraeg
Yn dilyn poblogrwydd ei drioleg am Dditectif Taliesin MacLeavy, a llwyddiant ei nofel i bobl ifanc, mae’r awdur Alun Davies yn ôl gyda stori dditectif newydd i’n cadw ar flaenau ein traed. darllen mwy
Y Llyfr 'Awdurdodol' ar Hanes Boddi Cwm Tryweryn
Mae’r gyfrol ‘awdurdodol’ hon ynghylch Tryweryn yn herio ‘chwedlau’ a safbwyntiau cryfion am foddi’r Cwm Cymreig. Beth bynnag fo’r cymhlethdodau yn ymwneud â boddi Cwm Tryweryn, caiff adeiladu Llyn Celyn ei ystyried yn eang fel digwyddiad nodedig yn hanes Cymru. Mae’r stori yn cyffwrdd â chalonnau pobl Cymru mewn ffordd hollol unigryw, ac o’r diwedd, wedi ugain mlynedd o ymchwil, mae’r awdur Wyn Thomas wedi ysgrifennu astudiaeth fanwl arni i’w gyhoeddi gan Y Lolfa, gan gwestiynu sawl barn gyffredin. darllen mwy
Mewn fila crasboeth yn Umbria, mae cymeriadau’n tynnu’n groes, a chyfrinachau’n bygwth berwi drosodd…
Nofel yw hon am gwmni’n dod at ei gilydd am bythefnos o wyliau mewn un fila yn Umbria – yn deulu, ffrindiau a chydnabod. Bydd rhai yn cyfarfod ei gilydd am y tro cyntaf, eraill yn hen gyfarwydd ag antics y naill a’r llall, ac mae’n amlwg o’r dechrau bod tensiwn yn mudferwi. Ond mae’r lleoliad yn ddelfrydol, a diwylliant yr ardal yn drawiadol, heb sôn am yr awyr ddigwmwl sy’n cyfarch pawb bob bore. Beth all fynd o’i le, mewn difrif? darllen mwy
‘Cadwa’n driw i ti dy hun’ - Neges Caryl Lewis yn ei llyfr newydd i blant
Mae gwasg y Lolfa newydd ryddhau Guto a Dreigiau'r Nos gan Caryl Lewis. Dyma lyfr am fachgen ifanc sydd â ffrindiau anghyffredin, sef dreigiau amryliw ac amrywiol, ac mae ganddo feddwl mawr ohonynt, bob un. Yr unig broblem ydi, nid pawb sy'n gallu gweld y dreigiau hyn, ac mae cyfeillion Guto sy'n chwarae pêl dan y coed yn mynnu y dylai anghofio am 'ei ddraig wirion.' darllen mwy
Ail gyfrol hudol i’r Harry Potter Cymraeg – mae Cadi Goch yn ei hôl!
Mae Cadi Goch a’r Crochan Hud newydd ei rhyddhau gan wasg y Lolfa. Dyma’r ail nofel sy’n dilyn anturiaethau Cadi Goch a’i ffrindiau yn yr ysgol swynion yn Annwfn, Gwlad y Tylwyth Teg. Mae Cadi yn dechrau amau bod cynllwyn ar droed i ddwyn crochan hynafol sy’n cael ei arddangos yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth a’i ddefnyddio i greu byddin anorchfygol er mwyn gosod ei mam, y frenhines greulon, ar orsedd Annwfn. darllen mwy
Llyfr i arfogi plant a phobl ifanc yn wyneb pwysau cynyddol y cyfryngau cymdeithasol
Mewn oes sy’n gynyddol dechnolegol, mae gallu technoleg i ehangu gorwelion ein bydoedd yn syfrdanol. Ond, mae hynny’n aml yn dod â phris gan bod yna lawer o bethau negyddol all godi yn sgil y datblygiadau diweddaraf ym myd y cyfryngau cymdeithasol. Mae hi’n dipyn o gamp gwybod sut i fynd ynglŷn â’r heriau hyn, ac yn aml iawn, rydyn ni’n teimlo’n rhwystredig, ar goll, ac yn llawn pryder oherwydd y cymhlethdod, ac eisiau cymorth gan ffynhonnell ddiogel a dibynadwy. darllen mwy
41-60 o 497 | 1 2 3 4 5 . . . 25 | |
Cyntaf < > Olaf |