Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Nofel gyntaf y cyflwynydd radio, Aled Hughes

Cyhoeddir Hela, nofel gyntaf y cyflwynydd radio a theledu poblogaidd, Aled Hughes y mis hwn gan wasg y Lolfa. 

Er fod Aled yn mentro i dir newydd fel awdur, teimla fod rhai o’r sgyrsiau y mae wedi eu cael ar ei raglen foreol ar Radio Cymru wedi tanio’r awch a’i ysgogi i ysgrifennu. Meddai: ‘Dwi ddim yn siŵr iawn o le ddaeth yr ysbrydoliaeth i sgwennu. Er fod gen i athro Cymraeg gwych oedd yn awdur ei hun, Penri Jones, yn y chweched, ac er i mi astudio Cymraeg ym Mangor, dyma’r tro cyntaf i mi sgwennu ffuglen. Mae’r sgyrsiau niferus efo awduron ar y rhaglen radio ac ein cystadleuaeth sgwennu stori flynyddol i blant wedi fy annog i weld be fyddai’n bosib.’

Nofel am gyfeillgarwch, rhagrith a chymuned yw Hela. Mae’r ffrindiau bore oes, Callum, Babo, Jac-Do a Saim Bach yn gorfod tyfu i fyny’n gyflym iawn wrth i gymuned Porth Milgi, ei phobl a phob dim sy’n gyfarwydd iddynt gael eu chwalu’n yfflon. 

Cafodd Aled flas ar y broses o sgwennu ac o glymu’r holl elfennau ynghyd a hynny wrth iddo ddatblygu egin nofel o gryn flynyddoedd yn ôl: ‘Mi oedd y penodau cyntaf wedi eu creu rhyw 8 mlynedd yn ôl cyn cael eu rhoi mewn bocs. Y rhan anoddaf oedd ceisio ail-afael yn llif yr holl beth a chael trefn ar stori nad oedd wedi ei nodi’n fanwl iawn mewn cynllun! Ond ym mis Ionawr, mewn cyfnod clo, doedd dim arall i’w wneud dim ond bwrw iddi a chael trefn – ac mi oedd y ddisgyblaeth honno yn un newydd ac yn un y gwnes i ei mwynhau yn y pendraw!’

Bydd Hela yn mynd â darllenydd ar drywydd llofruddiaeth o bron i 20 mlynedd yn ôl gan gyflwyno cymeriadau lliwgar Porth Milgi yn eu camp a’u rhemp – o Yvonne Ashurt y ditectif penderfynol, John Parry’r Pregethwr, y sgotwr Moi Saim i’r pedwar cyfaill, Callum, Babo, Jac-Do a Saim Bach ymysg llawer mwy. Ochr yn ochr â’r tywyllwch, mae yma hiwmor crafog, dweud ffraeth a sylwebaeth fydd yn siŵr o dynnu blewyn o drwyn ambell un.