Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Geraint V. Jones, un o gewri ein llên

Yng ngeiriau Manon Steffan Ros, mae Geraint V. Jones yn ‘un o gewri ein llên’. 

Mae Geraint wedi cael cyfnod cynhyrchiol o ysgrifennu yn ddiweddar – Niwl Ddoe (Y Lolfa) fydd ei drydedd nofel mewn pedair blynedd. Cyhoeddodd Elena yn 2019 ac Yn Fflach yn Fellten yn 2018 gyda gwasg Y Lolfa, a’r ddwy nofel yn cael derbyniad ardderchog. Mae’n storïwr wrth reddf ac wedi ennill Gwobr Goffa Daniel Owen ar sawl achlysur.

Cydnabu Geraint V. Jones ei fod yn cael ei orfodi i ysgrifennu. Meddai: 

‘Dim byd mwy na stori yn dechrau cyniwair yn y pen ac yna’n gwrthod gollwng gafael, nes fy ngorfodi yn y diwedd i neud rhywbeth ynglŷn â hi. Erbyn hynny ro’n i wedi dod i adnabod y cymeriadau yn bur dda ac roedd gen i syniad go lew hefyd sut y byddai’r stori yn datblygu o bennod i bennod, ac o’r math o ddiweddglo oedd gen i ar ei chyfer. Rhyw gael fy ngorfodi i sgwennu fydda i, a hynny yn groes i’r graen yn aml. Dyna fy esgus beth bynnag!’

Nofel yn llawn dirgelwch yw Niwl Ddoe. Corff gwraig ifanc yn Afon Ddyfrdwy a thrasiedi arall ger Trwyn Cilan yn Llŷn... nofel goll… dyddiadur cudd… dryswch yn achau’r teulu. Mae rhyw ddirgelwch neu gyfrinach yng ngorffennol pob un ohonom, ond gan neb yn fwy na’r awdures fyd-enwog Veronique a theulu ifanc Sisial y Traeth yn Abersoch. Ym marn y gohebydd Huw Peris mae yma fwy nag un dirgelwch i’w d ddatrys, ond a oes peryg i’w ymyrraeth gostio’n ddrud iddo yntau hefyd?

Ac yntau yr un mor gynhyrchiol ag erioed, mae’n hawdd synio y bydd nofel arall gan yr awdur prysur yn ymddangos yn fuan.