Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Erthyglau

Cyfrol o atgofion am hanes Blaenau Ffestiniog a Manod

Cyfrol o atgofion am hanes Blaenau Ffestiniog a Manod

Yr wythnos hon cyhoeddir Cynefin yr Alltud: Cylch Congl-y-Wal, Manod a ’Stiniog gan Les Darbyshire, a fu farw dros y penwythnos yn 97 oed. Mae’r gyfrol yn gofnod pwysig o hanes cymdeithasol cymuned glos dauddegau a thridegau’r ganrif ddiwethaf, ac mae’n cofnodi hanes cyfnod magwraeth yr awdur ym Mlaenau Ffestiniog.  darllen mwy

Her i ddringo mynyddoedd Cymru yn y flwyddyn newydd
Cyhoeddi nofel ddaeth yn agos at gipio Gwobr Goffa Daniel Owen 2021
Cyfrol i danio'r her o gerdded 100 copa uchaf Cymru

Cyfrol i danio'r her o gerdded 100 copa uchaf Cymru

Ers Covid ymddangos yn ein bywydau mae poblogrwydd cerdded a mynydda wedi cynyddu yn sylweddol gyda nifer fawr o bobl yn sylweddoli ein bod ni’n lwcus iawn byw mewn gwlad mor hardd a Chymru. Yr wythnos hon cyhoeddir100 Cymru: Y mynyddoedd a fi (Y Lolfa) cyfrol weledol ddeniadol sy’n dathlu 100 mynydd uchaf Cymru gan rannu gwybodaeth ymarferol a hanesion Dewi Prysor wrth iddo eu dringo yn 2017. Mae’r gyfrol clawr caled yn berffaith i’w rhoi fel anrheg y Nadolig hwn.  darllen mwy

Chwerthin, cariad a galar - stori Carys Eleri

Chwerthin, cariad a galar - stori Carys Eleri

Yn ei llyfr hunangofiannol newydd, mae’r awdures, y gantores a’r digrifwr Carys Eleri yn rhoi cipolwg o’i magwraeth yn Sir Gaerfyrddin, ei gyrfa liwgar ddilynodd hynny, cyn rhannu’n sensitif hanes diagnosis trasig ei diweddar dad, David Evans, â chlefyd Niwronau Motor yn 2018.  darllen mwy

Hunangofiant un o gymeriadau a chymwynaswyr mawr Sir Gâr

Hunangofiant un o gymeriadau a chymwynaswyr mawr Sir Gâr

Yr wythnos hon cyhoeddir hunangofiant yr amryddawn Arwyn Thomas, un o gymeriadau a chymwynaswyr mawr Sir Gaerfyrddin. Mae Mwy Nag Un Llwyfan (Y Lolfa) yn llawn straeon ffraeth sy’n adlewyrchu ei gymeriad triw, hwyliog a theyrngar a’i gariad tuag at ei filltir sgwâr.  darllen mwy

Cyhoeddi cyfrol olaf y diweddar Ioan Roberts

Cyhoeddi cyfrol olaf y diweddar Ioan Roberts

Flynyddoedd yn ôl, gofynnodd y Cylch Catholig i’r diweddar Ioan Roberts ysgrifennu hanes y Cylch o’i dechreuad a’r mis hwn mae ffrwyth ei waith, Gwinllan a Roddwyd – Hanes Y Cylch Catholig yn cael ei gyhoeddi gan Wasg y Lolfa.  darllen mwy

Nofel bwerus gyntaf yr actores adnabyddus Ffion Dafis
Goronwy Evans yn procio'r cof ar ôl 50 mlynedd o wasanaethu'r gymuned

Goronwy Evans yn procio'r cof ar ôl 50 mlynedd o wasanaethu'r gymuned

Nid hunangofiant traddodiadol yw’r gyfrol, meddai Goronwy Evans: “Pan ofynnwyd i fi a oedd diddordeb gen i mewn ysgrifennu hunangofiant, fy ateb oedd nad oeddwn yn hapus i wneud hynny o dan y teitl ‘hunangofiant’. Yn iaith Ifans y Tryc, “Sgersli bilîf” bod pawb yn datgelu popeth mewn hunangofiant, mwy na fyddwn i am wneud. Cytunais i gasglu ychydig o’m hanes o dan y teitl Procio’r Cof.”  darllen mwy

Y seiciatrydd adnabyddus, David Enoch, yn cyhoeddi cofiant grymus o'i fywyd sy'n pontio ffydd a meddyginiaeth

Y seiciatrydd adnabyddus, David Enoch, yn cyhoeddi cofiant grymus o'i fywyd sy'n pontio ffydd a meddyginiaeth

Yn 95 mlwydd oed, mae’r seiciatrydd Dr David Enoch, sy’n adnabyddus dros y byd, yn cyhoeddi ei hunangofiant. Mae Enoch’s Walk – 95 Not Out: Journey of a Psychiatrist yn cofnodi hanes bywyd rhyfeddol y seiciatrydd Cristnogol, gan fanylu ar bum brif elfen ei fywyd, sef bod yn ddoctor, seiciatrydd, pregethwr, darlledwr ac awdur – gan ddechrau gyda’i wreiddiau yn Sir Gaerfyrddin. Mae Dr David Enoch wedi bod ar flaen y gad gyda digwyddiadau cymdeithasol, crefyddol a meddygol, sy’n gwneud y cofnod o lygad y ffynnon yma yn un pwysig yn hanes yr unfed ganrif ar hugain. Ar ben hynny, mae’n adrodd stori ei fywyd yn ddi flewyn ar dafod. Mae’n disgrifio ei hun fel un sy’n “benderfynol o bontio’r bwlch rhwng ffydd a meddyginiaeth.”  darllen mwy

Llyfr newydd Nadoligaidd i addysgu plant am ffoaduriaid
Atgofion Glan: Y diddanwr prysur fu'n gweithio gyda Ryan a Ronnie a Ken Dodd
Llyfr gan Adam yn yr Ardd i annog plant a rhieni i fynd i arddio

Llyfr gan Adam yn yr Ardd i annog plant a rhieni i fynd i arddio

Mae’r garddwr adnabyddus a phoblogaidd o Ddyffryn Aman, Adam Jones, yn cyhoeddi ei lyfr gyntaf i blant – Dere i Dyfu (Y Lolfa). Mae Adam yn wyneb ac yn llais cyfarwydd i nifer, gyda slotiau cyson ar Prynhawn Da, Heno a BBC Radio Cymru ac mae e hefyd wedi datblygu presenoldeb sylweddol ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda dros 18,000 o ddilynwyr ar Instagram (@adamynyrardd)!  darllen mwy

Beti George yn galw am chwyldro o ran gofal dementia mewn llyfr newydd

Beti George yn galw am chwyldro o ran gofal dementia mewn llyfr newydd

“Mae dementia yn glefyd sy’n llawer mwy cymhleth na cholli cof,” meddai Beti George yn y gyfrol newydd mae hi wedi ei golygu a chyfrannu ati – Datod: Profiadau Unigolion o Ddementia (Y Lolfa). Cyhoeddir y gyfrol amserol yma wrth i glefyd dementia gael ei ystyried yn argyfwng iechyd difrifol – mae’n effeithio ar o leiaf 50,000 o bobl yng Nghymru, ac mae ar gynnydd  darllen mwy

Paid â Bod Ofn: Cyfrol amrwd a chynnes am Eden, bywyd a iechyd meddwl
Diweddglo

Diweddglo "tanllyd" i'r "drioleg drosedd orau yn yr iaith Gymraeg"

Disgrifiwyd trioleg drosedd Alun Davies fel “y drioleg orau i fi ddarllen yn yr iaith Gymraeg” gan yr awdur arobryn a’r plot-feistr Llwyd Owen. Yr wythnos hon cyhoeddir nofel olaf y drioleg, sef Ar Daith Olaf (Y Lolfa) gan ddilyn y nofelau hynod boblogaidd Ar Drywydd Llofrudd ac Ar Lwybr Dial gan ddod â’r drioleg afaelgar a thywyll hon i ben. Mae’r arddull yn adleisio storïau dirgelwch a chyfresi teledu Scandi ac fel y ddwy nofel gyntaf, mae yna ddirgelwch i’w ddatrys yn ardal Aberystwyth.  darllen mwy

121-140 o 482 1 . . . 6 7 8 . . . 25
Cyntaf < > Olaf