Cyflwyniad i Ymdopi â Gorbryder
Gorbryder yw un o'r cyflyrau iechyd meddwl mwyaf cyffredin ledled y byd, ac mae'n effeithio ar filiynau o bobl bob blwyddyn. Ond gellir ei drin yn effeithiol gyda therapi ymddygiad gwybyddol (CBT).
Wedi ei ysgrifennu gan ymarferwyr profiadol, gall y llyfr rhagarweiniol hwn fod o gymorth i chi os yw gorbryder wedi datblygu'n broblem. Mae'n egluro beth yw gorbryder, a sut mae'n gwneud i chi deimlo pan mae tu hwnt i reolaeth neu'n parhau am gyfnodau hir. Bydd yn eich helpu i ddeall eich symptomau ac mae'n ddelfrydol fel strategaeth ymdopi ar y pryd ac fel rhagarweiniad i therapi mwy cyflawn.