Mae Sander, sy'n bymtheg oed, eisiau bod fel pawb arall.
Ond mae ganddo syndrom Silver-Russell, anhwylder sy'n effeithio ar un mewn can mil o bobl. Mae Sander yn llai na'r plant eraill yn yr ysgol, lle mae'r rhai mwyaf eu maint a'u sŵn yn cael y sylw i gyd. Rhai fel Niklas.
Mae pawb yn meddwl bod Niklas yn cŵl ac yn olygus - pawb ond Sander. Dyw e ddim yn hoff o'r ffordd mae Niklas yn brolio, yn ymddwyn fel idiot ac yn rhaffu celwyddau. Mae Niklas yn dal ac mae Sander yn teimlo'n hollol ddi-werth wrth ei ymyl. Ond mae Sander yn wahanol mewn sawl ffordd. Mae e'n sylwi ar bethau mae pobl eraill yn eu colli, ac mae e wedi sylwi ar rywbeth am Niklas...
Clasur llawn emosiwn am dyfu i fyny, am ffitio i mewn, am sefyll allan ac am bŵer cyfeillgarwch.
*Rhybudd cynnwys tu fewn. Gall y themâu beri gofid i rai.