Rheolwch ddicter a thymer flin a newidiwch eich bywyd er gwell.
Mae tymer flin a hyd yn oed ysbeidiau achlysurol o dymer ddrwg yn gallu creu anawsterau yn eich perthynas â ffrindiau, teulu a chyd-weithwyr gan eich gadael yn teimlo'n anhapus ac yn lluddedig. Os yw hynny'n wir yn eich achos chi, gall y llyfr hwn fod o gymorth mawr i chi.
Mae William Davies yn esbonio beth sy'n ein gwneud ni'n ddig a beth allwn ni ei wneud i atal hynny. Mae technegau seicolegol cyfoes yn cynnig dull cadarnhaol o fynd ati gyda nodau hirdymor mewn golwg, ac yn dangos sut gallwch chi fynd i'r afael â sefyllfaoedd a fyddai'n dreth ar unrhyw un!
Mae'n cynnwys rhaglen hunangymorth gyflawn a thaflenni monitro.
Mae'n esbonio pam mae tymer flin a dicter yn datblygu a beth allan ni ei wneud yn eu cylch.
Mae'n disgrifio sut i wella ansawdd cyffredinol eich bywyd am byth.
Mae'n cynnig enghreifftiau ac astudiaethau achos esboniadol.
Mae'n cynnwys canllaw grymus i gywiro diffygion.
Mae canllawiau hunangymorth y gyfres Goresgyn yn defnyddio technegau sydd wedi'u profi'n glinigol i drin cyflyrau hirhoedlog ac andwyol, boed seicolegol neu gorfforol.
Golygydd y Gyfres: Yr Athro Peter Cooper