Rhaglen 5-cam i dy helpu i fod yn fwy hyderus wrth gymdeithasu!
Wyt ti'n poeni'n aml am farn pobl eraill amdanat ti? Ydy ofni cael dy farnu neu deimlo embaras yn gwneud i ti osgoi perfformio neu sefyllfaoedd cymdeithasol? Wyt ti wedi gorfod dioddef cymaint o ofid, dwy ti ddim yn mwynhau bod yng nghwmni eraill? Os felly, efallai dy fod ti'n un o'r nifer o bobl ifanc yn eu harddegau sy'n dioddef anhwylder gorbryder cymdeithasol - SAD: social anxiety disorder. Y newyddion da yw dy fod ti'n gallu rhyddhau dy hun o'r ofn a'r ansicrwydd sy'n dy gadw di rhag cael hwyl a bod ar dy orau.
Mae Lleddfu Gorbryder Cymdeithasol yn cynnig rhaglen pum cam syml sydd â'i gwreiddiau mewn therapi ymddygiad gwybyddol - CBT: cognitive behavioural therapy. Bydd yn dy helpu i ddeall pam rwyt ti'n teimlo gorbryder mewn sefyllfaoedd penodol ac yn cyflwyno'r dulliau angenrheidiol i wynebu dy ofnau a mynd i'r afael â nhw. Drwy herio dy hun i wynebu dy ofnau bob yn dipyn, bydd dy lefelau cysur yn codi - felly byddi di'n gallu rhoi'r gorau i beidio â gwneud rhywbeth a dechrau mwynhau dy hun. Os wyt ti'n barod i dorri'n rhydd o grafangau gorbryder cymdeithasol ac i fagu hunanhyder, bydd y llyfr hwn yn rhoi'r hwb angenrheidiol i gyrraedd y nod.