Newyddion
Dyddiadur amaeth yn mynd o nerth i nerth
Mae grwp o wragedd fferm a gynhyrchodd dyddiadur amaethyddol llwyddiannus llynedd wedi gosod nod i gynhyrchu dyddiadur gwell eleni fydd yn cael ei ddefnyddio gan nifer yn y sector amaethyddol. darllen mwy
Caryl Lewis yw 'Brenhines newydd ein llen'
'Caryl Lewis yw brenhines newydd ein llen' – dyna yw barn un o adolygwyr amlycaf Cymru, Bethan Mair. darllen mwy
Cyw a'i ffrindiau yn cwrdd a ffrind newydd!
Mae cyfres Cyw a'i ffrindiau yn cyflwyno cymeriad newydd sbon i'r gyfres yn eu hantur ddiweddaraf a gyhoeddir yr wythnos hon. darllen mwy
Cyhoeddi'r Llyfr Lliwio Cymraeg cyntaf i oedolion
Cyhoeddir y llyfr lliwio cyntaf Cymreig i oedolion yr wythnos hon gan wasg Y Lolfa. darllen mwy
'Y Bardd Gwrthryfelgar' Deunydd newydd yn rhoi golwg newydd ar fywyd cythryblus Gwenallt
Mae deunydd newydd sydd wedi ymddangos yn taflu goleuni newydd ar yrfa, bywyd a gwaith Gwenallt –ysgolhaig, cenedlaetholwr ac un o feirdd disgleiriaf yr ugeinfed ganrif. darllen mwy
Gwasg Y Lolfa yn croesawu tri aelod newydd o staff
Mae gwasg Y Lolfa yn croesawu tri aelod newydd o staff y mis hwn. Penodwyd Gwenllian Jones fel Rheolwr Swyddfa, Carolyn Hodges fel golygydd Saesneg a Robat Trefor fel golygydd copi Cymraeg. darllen mwy
Torri tir newydd ym myd y nofel Gymraeg?
Mae nofel newydd a gyhoeddir yr wythnos hon yn 'torri tir newydd ym myd y nofel Gymraeg' yn ôl y llenor Tony Bianchi. darllen mwy
Teyrnged i Gareth F Williams
Teyrnged i'r diweddar Gareth F. Williams gan Meinir Wyn Edwards, golygydd yng ngwasg Y Lolfa. darllen mwy
Bronaldo a Gari Pêl yn mynd benben â’i gilydd ail rifyn Mellten
Bydd y cymeriadau Gari Pêl a Bronaldo yn mynd benben yn y rhifyn diweddaraf o Mellten a gyhoeddir yr wythnos hon wrth i'r ddau gael cystadleuaeth i weld pwy yw'r chwaraewr pêl-droed gorau. darllen mwy
Plaid Cymru 'wedi derbyn £25,000 gan Gaddafi' meddai Carl Clowes
Daeth i'r amlwg yr wythnos hon bod Plaid Cymru wedi derbyn £25,000 gan wladwriaeth Libya yn ôl yn yr 1970au. darllen mwy
Yr awdur yn cwrdd a'r arlunydd
Ar ddydd Sadwrn 3ydd o Fedi daeth Dana Edwards, awdur y nofel newydd Pam?, ac arlunydd clawr ei nofel, Meirion Jones, wyneb yn wyneb yn Siop Awen Teifi yn Aberteifi. Mae'r ddau yn byw yng Ngheredigion, un ym mhen gogleddol y sir a'r llall yn y pegwn deheuol. darllen mwy
Aelod Cynulliad yn ysbrydoli nofel
Yr aelod cynulliad Elin Jones oedd un o brif ysbrydoliaeth awdur newydd wrth iddi ysgrifennu ei nofel gyntaf yn y Gymraeg. darllen mwy
Aberystwyth, y Cynulliad a Chyfrinach Farwol
Cyfeillgarwch tri ffrind a chyfrinach farwol sy'n bygwth rheoli eu bywydau am byth yw testun nofel newydd gan awdures o Aberystwyth. darllen mwy
Guto Dafydd yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owen
Guto Dafydd, enillydd Coron yr Eisteddfod ddwy flynedd yn ôl, yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni. darllen mwy
Mwynhau gwyliau'r haf gyda Na, Nel!
Mae'r awdures Meleri Wyn James wedi cyhoeddi llyfr newydd yn y gyfres wreiddiol hynod o boblogaidd i blant, Na, Nel!, i gydfynd â thymor gwyliau'r haf. darllen mwy
Dechrau dathlu hanner canmlwyddiant gwasg y Lolfa
Mae'r dathliadau i nodi hanner canmlwyddiant sefydlu gwasg Y Lolfa wedi dechrau gyda chyhoeddi calendr arbennig o hen bosteri. darllen mwy
Nofel am lofruddiaeth yn Nant Gwrtheyrn
Lleolir nofel dditectif wreiddiol am ddirgelwch llofruddiaeth a gyhoeddir yr wythnos hon mewn un o leoliadau mwyaf eiconig Cymru, Nant Gwrtheyrn. darllen mwy
Straeon antur y Mormoniaid Cymreig a groesodd y Gorllewin Gwyllt
Pwy oedd y 5,000 o arloeswyr o Gymru a deithiodd i'r Gorllewin Gwyllt yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg? darllen mwy
'Atgyfodi Hen Arf' - Argraffu Sticeri Cymraeg! unwaith eto
Mae gwasg Y Lolfa wedi cynhyrchu sticeri 'Cymraeg!' newydd gan atgofodi hen arf a fu'n boblogaidd iawn ym mrwydr yr iaith yn ystod yr 1960au. darllen mwy
Cyfuno diwylliant Eingl-Americanaidd gyda’r stori fer Gymreig
Dylanwad diwylliant poblogaidd Eingl-Americanaidd sydd ar gyfrol newydd o straeon byrion gan yr awdur Jon Gower. darllen mwy
321-340 o 343 | 1 . . . 14 15 16 17 18 | |
Cyntaf < > Olaf |